Mae Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd yn cynnal ymchwiliad i ddigartrefedd yng Nghymru.
Ym mis Ionawr 2022, ysgrifennodd y pwyllgor at nifer o randdeiliaid, gan gynnwys The Wallich, i rannu barn am y sefyllfa bresennol yn y sector tai, ac i ofyn nifer o gwestiynau penodol.
Ar y pryd, roedd gan y pwyllgor ddiddordeb yn;
- Yr agwedd “pawb i fewn” at ddigartrefedd a gyflwynwyd yn ystod y pandemig.
- Y cynnydd ymddangosiadol yn nifer y bobl sy’n cysgu allan.
- Ein hymateb i Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru: cynllun gweithredu lefel uchel 2021-2026.
- Dyraniadau yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2022-23.
- Meysydd o flaenoriaeth ar gyfer y papur gwyrdd ar ddiwygio’r ddeddfwriaeth dai.
- Ein hymateb i adroddiad yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Adolygiad Digartrefedd: drws agored i newid cadarnhaol.
Ar ôl ymchwiliadau pellach drwy gydol y gwanwyn a’r haf, cytunodd y pwyllgor ar gylch gorchwyl ar gyfer eu hymchwiliad.
Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i archwilio:
- Cyflenwad, addasrwydd ac ansawdd y llety dros dro sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i gartrefu pobl sy’n ddigartref a’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael iddynt;
- Yr effaith y caiff byw mewn llety dros dro ei chael ar unigolion a theuluoedd;
- Effaith y galw parhaus am lety dros dro a gwasanaethau cymorth ar awdurdodau lleol, eu partneriaid a’u cymunedau;
- Opsiynau i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a phriodol yn y tymor byr i ganolig er mwyn lleihau’r defnydd o lety dros dro;
- Cynnydd o ran gweithredu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru: cynllun gweithredu lefel uchel 2021 i 2026, ac yn arbennig y symud tuag at ddull ailgartrefu cyflym.
Unwaith eto, ysgrifennodd y Pwyllgor at randdeiliaid, i ddarparu tystiolaeth gyfoes am y sefyllfa bresennol ar draws gwasanaethau digartrefedd.
Cawsom ein gwahodd hefyd i roi tystiolaeth i’r pwyllgor yn ystod eu cyfarfod ar 24 Tachwedd.
Mynychodd Thomas Hollick, Cydlynydd Polisi a Materion Cyhoeddus The Wallich y Senedd i ateb cwestiynau aelodau’r pwyllgor, ynghyd â chynrychiolwyr eraill y sector, gan gynnwys Cymorth Cymru, Byddin yr Iachawdwriaeth a Nacro.