Dydyn ni ddim yn gallu derbyn ceisiadau i archebu ystafelloedd ar hyn o bryd oherwydd Covid-19
————————————————————————————
Rhaid ystyried llawer o bethau wrth drefnu digwyddiad. Mae llogi lleoliad yn un o’r elfennau pwysicaf o lwyddiant digwyddiad.
Felly, beth am ddod i Ganolfan y Wallich – sef hen eglwys wedi’i hadnewyddu’n hardd. Mae’n adeilad rhestredig Gradd II sy’n gartref i waith gweinyddol canolog y Wallich, ac mae’n cynnwys lle agored unigryw ac yn darparu ystafelloedd rhagorol ar gyfer cyfarfodydd, hyfforddiant a chynadleddau.
Archebwch nawr
Cysylltwch â ni i wybod pryd maent ar gael, beth yw’r prisiau ac i gael rhagor o wybodaeth.
- Ffôn: 029 2066 8464
- E-bost: bookings@thewallich.net
Pam llogi ystafell yng Nghanolfan y Wallich?
- Nid yw’n bell o gwbl o ganol dinas Caerdydd felly gallwch chi a’ch cleientiaid gyrraedd y cyfarfod yn ddidrafferth. Mae modd cyrraedd yn hawdd gyda’r car, trafnidiaeth gyhoeddus neu ar droed.
- Technoleg fodern i sicrhau bod eich digwyddiad yn rhedeg yn llyfn.
- Addas ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau corfforaethol a gwirfoddol felly mae gennym le ar eich cyfer boed chi’n chwilio am ystafell ar gyfer hyfforddiant, cyfarfod neu gynhadledd.
- Mae modd addasu’r lle ar gyfer eich digwyddiad chi. Boed chi eisiau cynnal digwyddiad ar gyfer 2 berson neu 50 o bobl, mae gennym le ar eich cyfer.
- Mynediad i gadeiriau olwyn
- Maes parcio
- Lifft
- System oeri a gwres o dan y llawr fel eich bod chi’n oer braf yn yr haf ac yn gynnes braf yn y gaeaf
- System dolen sain ar gael
- Prisiau cystadleuol
- Cyfraddau hyblyg i elusennau a mudiadau gwirfoddol
- Bydd te a choffi ar gael, a gallwch ddewis i ni ddarparu arlwyaeth
- Bydd aelod cyfeillgar o’r staff ar gael bob amser i sicrhau bod eich digwyddiad yn rhedeg yn llyfn drwy gydol y dydd.
- Elusen ydyn ni. Gallwch chi deimlo’n dda o wybod eich bod chi, wrth archebu, yn helpu i gael pobl oddi ar y strydoedd, yn cadw pobl oddi ar y strydoedd ac yn creu cyfleoedd i bobl.
Canolfan y Wallich yw’r lle perffaith ar gyfer eich cyfarfodydd, eich cynadleddau a’ch sesiynau hyfforddi. Mae gennym amrywiaeth hyblyg o ystafelloedd ar gael i’w llogi.
I gael rhagor o wybodaeth am ein hystafelloedd, lawrlwythwch y pecyn archebu.