Llogi lleoliad

Llogwch un o’n ystafelloedd cyfarfod yng Nghaerdydd, a chyfrannu at elusen digartrefedd

Dydyn ni ddim yn gallu derbyn ceisiadau i archebu ystafelloedd ar hyn o bryd oherwydd Covid-19

————————————————————————————

Rhaid ystyried llawer o bethau wrth drefnu digwyddiad. Mae llogi lleoliad yn un o’r elfennau pwysicaf o lwyddiant digwyddiad.   

Felly, beth am ddod i Ganolfan y Wallich – sef hen eglwys wedi’i hadnewyddu’n hardd. Mae’n adeilad rhestredig Gradd II sy’n gartref i waith gweinyddol canolog y Wallich, ac mae’n cynnwys lle agored unigryw ac yn darparu ystafelloedd rhagorol ar gyfer cyfarfodydd, hyfforddiant a chynadleddau.

Archebwch nawr  

Cysylltwch â ni i wybod pryd maent ar gael, beth yw’r prisiau ac i gael rhagor o wybodaeth.  

Pam llogi ystafell yng Nghanolfan y Wallich?  

Canolfan y Wallich yw’r lle perffaith ar gyfer eich cyfarfodydd, eich cynadleddau a’ch sesiynau hyfforddi. Mae gennym amrywiaeth hyblyg o ystafelloedd ar gael i’w llogi.

I gael rhagor o wybodaeth am ein hystafelloedd, lawrlwythwch y pecyn archebu.  

Tudalennau cysylltiedig