Gwirfoddoli
Gallwch gynorthwyo pobl sy’n ddigartref yn eich cymuned chi. Gall eich sgiliau a’ch amser chi wneud gwahaniaeth mawr
Mae gwirfoddoli gyda The Wallich yn rhoi cyfle i chi ddefnyddio eich talentau presennol, datblygu sgiliau newydd, cwrdd ag amrywiaeth eang o bobl a dod yn rhan hollbwysig o’r tîm.
Mae gwirfoddoli yn cael effaith aruthrol ar sut y gallwn gefnogi amrediad o wasanaethau.
Heb wirfoddolwyr, ni fyddai’n bosibl i ni gyrraedd yr un nifer o bobl

Drwy roi eich amser i bobl sy’n profi digartrefedd, byddwch yn eu helpu i ail-adeiladu eu bywydau.
Mae gennym nifer o wahanol gyfleoedd gwirfoddoli, o ddarparu brecwast i bobl sy’n cysgu allan ychydig foreau’r wythnos i’n helpu i drefnu digwyddiadau a chodi arian.
Beth bynnag yw eich sgiliau a’ch diddordeb, byddwn yn canfod cyfle gwirfoddoli sy’n eich gweddu chi.
Darllenwch stori David 
Ar ôl cyfnod o boeni am ei iechyd a chymryd seibiant o’r gwaith, fe ddechreuodd David wirfoddoli gyda The Wallich yn Abertawe er mwyn magu hyder a chael ymdeimlad o bwrpas unwaith eto.
Gwneud cais i fod yn wirfoddolwr heddiw
Mae ein holl gyfleoedd i wirfoddoli ar y funud ar gael ar y dudalen Ein Gyrfaoedd gyda manylion llawn am sut i wneud cais.
Gallwch hidlo eich dewis yn yr adran Categori Swydd i weld y rolau gwirfoddoli yn unig.
Os hoffech gael gwybodaeth bellach am wirfoddoli a sut i gyfrannu, cysylltwch â ni.
E-bost: volunteer@thewallich.net