Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy, Torfaen
gwentboost@thewallich.net
Mae prosiect Gwent BOOST yn brosiect pum mlynedd a ariennir gan y Loteri Genedlaethol.
Mae’r prosiect yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr gwasanaeth ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.
Bydd y prosiect yn darparu mentrau newydd i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, sy’n ddigartref ar hyn o bryd neu bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd, gan sicrhau bod pobl yn cael yr adnoddau a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen gyda’u bywydau, gan adael digartrefedd ar ôl am byth.
Mae’r prosiect yn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn gweithio yng Ngwent.
Mae hefyd yn gweithio mewn partneriaeth i gyflawni pum prif weithgaredd:
Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a gwahaniaethu yn y sector rhentu preifat
Mae’r Rhwydwaith Eiriolwyr yn bodoli er mwyn creu llwyfan ar gyfer yr arferion gorau yn y Sector Rhentu Preifat yng Nghymru.
Rydyn ni’n recriwtio Eiriolwyr Gwirfoddol ar gyfer Tenantiaid a Landlordiaid a fydd yn cydweithio i ddatblygu mentrau ar y cyd ynghylch themâu blaenoriaeth a materion allweddol.
Bydd y gwaith hwn wedyn yn cael ei ddatblygu drwy ddigwyddiadau, ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol, eiriolaeth, a gweithgareddau eraill i godi ymwybyddiaeth.
Cysylltwch i gael rhagor o wybodaeth
Mae gwasanaeth Gwent BOOST yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o ddarparwyr gwasanaethau anhygoel.
Ydych chi eisiau helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Ngwent?
Does dim swyddi gwag ar hyn o bryd.