Ers mis Medi 2022, mae The Wallich wedi bod yn cefnogi Jane i allu byw bywyd annibynnol heb sylweddau.
“Treuliais ychydig o flynyddoedd yn y carchar oherwydd fy mod i’n ddibynnol ar gyffuriau.
Roedd trawma ofnadwy wedi digwydd yn y teulu, gan gynnwys fy merch yn marw, a thad fy merch, sef fy nghyn-bartner, yn cael ei ladd chwe mis yn ddiweddarach.
Cyn hynny, roeddwn i wedi colli fy chwaer, sef yr unig aelod o’r teulu roeddwn i’n agos ati, ar wahân i fy merch. Bu farw fy chwaer ychydig cyn y Nadolig, yn sydyn iawn a heb rybudd.
Roeddwn i wedi bod ar gyffuriau ers dros 15 mlynedd, a doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i ffordd o roi’r gorau iddyn nhw.
Fe wnes i roi’r gorau i gyffuriau yn y carchar, ac roeddwn i wir eisiau newid fy mywyd.
Pan fu farw fy merch, roedd hynny’n adeg heriol iawn i mi.
Roedd angen i mi wella a chael fy mywyd ar y trywydd iawn er mwyn dangos nad oedd yr holl drawma a cholled wedi digwydd am ddim rheswm, ac y gallwn i fyw bywyd heb ddibyniaeth.
Rydw i wedi cael llawer o ddyddiau tywyll, ond mae llygedyn o obaith erbyn hyn.
Rydw i wedi bod yn rhydd o gyffuriau ers dwy flynedd a hanner erbyn hyn. Rydw i’n benderfynol o barhau fel hyn”.
“Mae The Wallich wedi bod yn anhygoel.
Mae fy Ngweithiwr Cymorth yn dweud wrtha i, ’Ti sydd wedi gwneud y gwaith caled’’ ond fyddai dim o hyn yn bosibl hebddyn nhw.
Maen nhw wedi dangos parch tuag ata i, ac wedi fy annog ac wedi fy helpu i ddysgu byw eto.
Rydw i’n gwybod nad ydw i ar fy mhen fy hun.
Gadewais y carchar gyda meddyginiaeth i bara am dri diwrnod, £80 a bag o ddillad. Roeddwn i wedi cwrdd â Nina, fy Ngweithiwr Cymorth, ar-lein ac roedd hi yn yr orsaf heddlu i gwrdd â mi.
O’r cychwyn cyntaf, dywedodd Nina wrtha i y byddai bob amser yn onest gyda mi. Dywedodd y byddai amseroedd caled o ’mlaen i, ond y byddem yn eu hwynebu gyda’n gilydd.
Fe wnaeth Nina fy annog i gofrestru gyda’r meddyg teulu, a chefais fy meddyginiaeth o fewn 48 awr.
Roedd hi’n deall bod gadael y carchar yn newid enfawr, a pha mor fregus oeddwn i.
Doedd hi ddim yn fy llethu’n ormodol, ond fe wnaeth hi’n siŵr mod i’n gwneud y pethau iawn o’r dechrau.
Ar y cychwyn, roedd gen i ormod o ofn mynd i’r fferyllfa i gael fy methadon dyddiol.
Daeth Nina gyda mi’r tro cyntaf, wedyn cwrdd â mi yno. O fewn pythefnos roeddwn i’n mynd ar fy mhen fy hun.
Weithiau, rydw i’n teimlo bod y byd yn fy erbyn, ond mae Nina bob amser yn fy mhwyllo, rydyn ni’n trafod pethau ac yn gwneud cynllun i wella’r sefyllfa.
Dydw i ddim wedi gorfod delio â’r byd go iawn am gyfnod mor hir, ac mae wedi bod yn dipyn o sioc.
Mae Nina bob amser wedi bod yn glir na fydd y gwasanaeth Cam wrth Gam (gwasanaeth cymorth lle bo’r angen gan The Wallich ar Ynys Môn) ar gael am byth, ond mae ar gael i’m
helpu’n ôl ar fy nhraed ac i symud i mewn i fy nghartref fy hun.
Roeddwn i’n ofnus iawn am hyn i ddechrau, ond rydw i’n edrych ymlaen erbyn hyn.
Mae Nina wedi fy helpu i drefnu’r holl apwyntiadau gyda’r gwahanol wasanaethau.
I ddechrau, roeddwn i’n rhy ofnus i fynd allan i unrhyw le oherwydd fy ngorffennol, ond erbyn hyn rydw i’n dod i arfer â hynny.
Rydw i’n berson gwahanol nawr, ac roedd yr adeg honno’n wahanol iawn. Dydw i fyth am ddychwelyd i’r adeg honno.
Weithiau, rydw i wedi gorfod brwydro dros fy hawliau.
Cefais fy ngwrthod i fynd ar y gofrestr tai, ond roedd Nina a The Wallich yn dal i fy nghefnogi i apelio. Cymerodd bum mis, ond enillais fy apêl.
Mae Nina wedi fy rhoi mewn cysylltiad â Caniad [Mudiad sy’n helpu pobl gyda phroblemau iechyd meddwl a dibyniaeth ar sylweddau]. Rydw i eisiau rhannu fy mhrofiadau â phobl eraill a dod yn Fentor Cymheiriaid.”
“Rydw i’n hapus yn fy mywyd, ac rydw i’n credu ynof fi fy hun a fy nyfodol.
Mae adegau o ansefydlogrwydd a dyddiau gwael. Rydw i’n gallu mynd yn eithaf blin weithiau, ond mae Nina bob amser yn gallu fy helpu i weld ffordd o ddatrys y broblem.
Rydyn ni bob amser yn eistedd i lawr ac yn gwneud cynllun. Mae ateb i bob problem, ac mae’n rhaid i chi ddod o hyd iddo.
Erbyn hyn, rydw i’n cael trefn ar fy mhresgripsiynau ac yn eu casglu fy hun.
Rydw i’n gwneud fy holl apwyntiadau fy hun. Mae Nina wedi bod yn mynd gyda mi, ond y cam nesaf yw cwrdd â mi yno, er mwyn i mi ddod i arfer â mynd i lefydd ar fy mhen fy hun.
Rydw i’n mynd i rai o’r siopau ar fy mhen fy hun.
Mae Nina a minnau’n gwneud cynllun bob mis o’r pethau y mae’n rhaid i ni eu gwneud – fel talu biliau, llenwi ffurflenni.
Dydy fy iechyd corfforol ddim yn dda, felly mae Nina yn fy helpu i gael gwasanaeth teleofal (cyswllt ffôn 24 awr at wasanaethau larwm ac ymateb cymunedol).
Weithiau, rydyn ni wedi bod allan ar drip siopa i Fangor am ddillad neu bethau sydd eu hangen arna i.
Mae’n deimlad anhygoel cael y dewis i brynu unrhyw beth sydd ei angen arna i ac i’w fwynhau. Cyn hynny, roeddwn i bob amser mewn dyled ac roedd fy holl arian yn mynd ar gyffuriau.
Roeddwn i’n arfer gwneud dosbarthiadau crefft yn y carchar, felly rydw i’n gobeithio y galla i gynnal rhai ohonyn nhw gyda The Wallich ar gyfer cleientiaid eraill.”
“Byw yn fy nghartref fy hun a bod mor annibynnol â phosibl. Mae pob rhan o’r cymorth rydw i’n ei gael yn gweithio tuag at hynny.
Rydw i’n gwybod na fydd y cymorth ar gael am byth, ond mae The Wallich wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod i’n berson sydd â’r hawl i fyw fy mywyd yn y ffordd rydw i eisiau – ac i gael fy nhrin â pharch ac urddas.
Rydw i’n dysgu byw fy mywyd eto ac rydw i’n teimlo’n gadarnhaol iawn am hynny.”
Dywedodd Nina, Uwch Weithiwr Cymorth yn The Wallich:
“Rydw i wedi cael y fraint o fod yn rhan o daith anhygoel Jane.
Mae ei phenderfyniad i newid ei bywyd wedi bod yn ysbrydoledig.”
Os oes unrhyw rai o’r pynciau a drafodir yn yr astudiaeth achos hon wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth a chefnogaeth ar gael. Ewch i’n tudalen Cymorth a Chyngor i gael rhagor o wybodaeth.