Gwasanaeth Llety â Chymorth a Chymorth fel bo’r angen Ynys Môn
Park Mount, Ffordd Glanhwfa, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7EY
Ynys Môn
ynysmonsupportservice@thewallich.net
01248 661 315
Gwasanaeth cynnal sy’n gysylltiedig â thai i bobl ar Ynys Môn sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref

Nod Gwasanaeth Llety â Chymorth a Chymorth fel bo’r angen Ynys Môn yw galluogi pobl i gael gafael ar dai, gan gynnwys cymorth gyda’ch tenantiaeth a negodi telerau priodol.
Bydd y gwasanaeth yn helpu pobl i ddatblygu neu gynnal y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnyn nhw i fyw mor annibynnol â phosibl, mewn cartref diogel ac addas.
Amcanion y gwasanaeth
Helpu unigolion i gadw tenantiaeth
Mae’r gefnogaeth yn cynnwys cyfryngu gyda landlordiaid, paratoi ar gyfer rheoli tenantiaeth, cefnogaeth gyda thai drwy waith grŵp neu’n unigol a gallwn ni ddarparu ychydig o arian i wella’ch gallu i fyw’n fwy annibynnol.
Ymyrraeth gynnar
Ein nod yw bod yn ataliol, a chymryd rhan yn gynnar (cyn y cam digartrefedd statudol) er mwyn helpu aelwydydd i gadw eu tenantiaeth neu hawl arall i fyw yn eu cartref.
Integreiddio pobl i’r gymuned
Ein nod yw gwella cynaliadwyedd cartref unigolyn drwy fynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol a’u helpu i chwarae rhan lawn yn eu cymuned.
Darparu cyfleoedd eraill
Mae gan y gwasanaeth gysylltiadau da, a bydd yn cyfeirio pobl at wasanaethau sy’n darparu cyfleoedd ar gyfer addysg, hyfforddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth.

Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth?
Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth a Chymorth fel bo’r angen Ynys Môn ar gyfer y rheini sydd ag anghenion cyffredinol o ran defnyddio sylweddau neu unigolion sydd â chefndir troseddol ac sydd ar hyn o bryd yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.
Mae hynny yn cynnwys y bobl ganlynol:
- Pobl sengl
- Cyplau
- Teuluoedd
- Pobl sy’n gadael y carchar
Mae’r gwasanaeth yn seiliedig ar ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn annog defnyddwyr gwasanaeth i gyflawni canlyniadau cadarnhaol fel cael sgiliau newydd a hyder i fyw’n fwy annibynnol.
Mae’r gwasanaeth yn gallu darparu cefnogaeth gyda materion fel:
- Dyledion
- Cyflogaeth
- Rheoli tenantiaeth
- Defnyddio sylweddau
- Trais yn erbyn merched
- Cam-drin domestig a thrais rhywiol
- Iechyd meddwl
Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu drwy lety â chymorth neu ‘gymorth fel bo’r angen’, h.y. yn eu cartrefi eu hunain, ar draws pob deiliadaeth.
Cysylltwch â’r Un Pwynt Mynediad i wneud atgyfeiriad
Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth a Chymorth fel bo’r angen Ynys Môn yn derbyn atgyfeiriadau o Un Pwynt Mynediad ac mae’n gallu cefnogi mynediad at wasanaethau arbenigol fel Shelter, Cyngor ar Bopeth, yr Adran Gwaith a Phensiynau a mwy.
E-bost: spoa@ynysmon.gov.uk
Ffôn: 01248 751937
neu ewch i Swyddfeydd y Cyngor i siarad â Swyddog:
Adran Dai
Prif Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
LL77 7TW
