Tai yn Gyntaf Ynys Môn

Parc Mount, Llangefni, LL77 7EY

Ynys Môn

01248 725 910

Mae Tai yn Gyntaf Ynys Môn yn helpu pobl ddigartref i ddod o hyd i gartref parhaol yn gyflym. Rhoddir gefnogaeth barhaus i’w helpu i setlo yn eu cartref newydd a’i gadw

Darperir becyn gymorth dwys gan Tai yn Gyntaf i fynd i’r afael â materion mewn ffordd greadigol ac arloesol.

Mae dull gweithredu Tai yn Gyntaf yn canolbwyntio ar gael pobl ddigartref i’w tai eu hunain ar unwaith. Dyma yw’r ffocws, yn hytrach na chwilio am atebion dros dro cyn chwilio am lety parhaol.

Ar ôl cael lle iddynt, bydd y cymorth yn cynnwys help i gael y budd-daliadau iawn, a lleihau dyled neu ôl-ddyledion rhent. Rhoddir gymorth hefyd i ddeall hawliau a rhwymedigaethau tenantiaeth. Gall hyd yn oed gynnwys manteisio ar gyfleoedd dysgu a chyflogaeth.

 

Mae Tai yn Gyntaf Ynys Môn ar gael i ddynion a menywod digartref 25 oed neu hŷn nad ydynt yn gallu cael mynediad uniongyrchol at lety sefydlog ac sydd ag anghenion cymorth y gellir eu diwallu drwy gymorth yn gysylltiedig â thai.

Mae gan bob cleient gynllun cymorth cytunedig. Maent yn cael cymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gan y staff a’r gwirfoddolwyr.

Gwasanaeth hyblyg ac ymatebol yw Tai yn Gyntaf Ynys Môn. Mae’r wasanaeth ar agor 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos. Ymateba i anghenion cleientiaid unigol ac yn helpu i sicrhau canlyniadau cadarnhaol.

Darllenwch am lwyddiant menter Tai yn Gyntaf ym Môn yn ein Hadroddiad Effaith.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.

Tudalennau cysylltiedig