Yr Addewid Codi Arian

Mae The Wallich wedi cofrestru gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian, mae ganddo aelodaeth sefydliadol gyda’r Sefydliad Siartredig Codi Arian, ac mae wedi ymrwymo i lynu wrth yr Addewid Codi Arian a’r Cod Ymarfer Codi Arian.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gwaith codi arian yn gyfreithlon, yn agored, yn onest ac yn barchus yn unol â’r addewid codi arian.

Mae’r safonau codi arian wedi’u nodi yn y Cod Ymarfer Codi Arian.

Byddwn yn ymrwymo i safonau uchel

  • Byddwn yn dilyn y Cod Ymarfer Codi Arian. 
  • Byddwn yn monitro codwyr arian, gwirfoddolwyr a thrydydd partïon sy’n gweithio gyda ni i godi arian, i sicrhau eu bod nhw’n cydymffurfio â’r Cod Ymarfer Codi Arian a’r Addewid hon. 
  • Byddwn yn cydymffurfio â’r gyfraith fel y bo’n gymwys i elusennau a chodi arian.  
  • Byddwn yn arddangos y bathodyn Rheoleiddiwr Codi Arian ar ein deunyddiau codi arian i ddangos ein bod wedi ymrwymo i arferion da.

Byddwn yn glir, yn onest ac yn agored

  • Byddwn yn dweud y gwir ac ni fyddwn yn gor-ddweud. 
  • Byddwn yn gwneud yr hyn y dywedwn y byddwn yn ei wneud gyda’r rhoddion a gawn. 
  • Byddwn yn glir ynghylch pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. 
  • Byddwn yn rhoi esboniad clir o sut y gallwn wneud rhodd a newid rhodd reolaidd. 
  • Os gofynnwn i drydydd parti godi arian ar ein rhan, byddwn yn gwneud y berthynas hon a’r trefniadau ariannol yn dryloyw. 
  • Byddwn yn gallu esbonio ein costau codi arian a dangos sut maent er lles gorau ein hachos os caiff eu herio. 
  • Byddwn yn sicrhau bod ein proses gwyno yn glir ac yn hygyrch. 
  • Byddwn yn rhoi rhesymau clir, seiliedig ar dystiolaeth am ein penderfyniadau am gwynion.

Byddwn yn barchus

  • Byddwn yn parchu eich hawliau a’ch preifatrwydd. 
  • Ni fyddwn yn rhoi gormod o bwysau arnoch i wneud rhodd. Os nad ydych am roi neu rydych am roi’r gorau i roi, byddwn yn parchu eich penderfyniad. 
  • Bydd gweithdrefn gennym yn ei lle ar gyfer delio â phobl mewn amgylchiadau agored i niwed, a bydd ar gael ar gais. 
  • Os yw’r gyfraith yn ei gwneud hi’n ofynnol, byddwn yn ceisio eich cydsyniad cyn cysylltu â chi i godi arian. 
  • Os dywedwch wrthym nad ydych am i ni gysylltu â chi mewn ffordd arbennig, ni fyddwn yn gwneud hynny. Byddwn yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn, Post a Chodi Arian i sicrhau nad yw’r rhai sy’n dewis peidio â derbyn mathau penodol o ddogfennau cyfathrebu yn eu cael.

Byddwn yn deg ac yn rhesymol

  • Byddwn yn trin rhoddwyr a’r cyhoedd yn deg, gan ddangos sensitifrwydd ac addasu ein hymagwedd yn dibynnu ar eich anghenion. 
  • Byddwn yn gofalu i beidio â defnyddio unrhyw ddelweddau neu eiriau sy’n achosi gofid neu bryder yn fwriadol. 
  • Byddwn yn gofalu i beidio ag achosi niwsans neu amharu ar y cyhoedd.

Byddwn yn atebol ac yn gyfrifol

  • Byddwn yn rheoli ein hadnoddau mewn modd cyfrifol ac yn ystyried effaith ein codi arian ar ein rhoddwyr, ein cefnogwyr a’r cyhoedd.  
  • Os ydych yn anhapus gydag unrhyw beth rydym wedi’i wneud wrth godi arian, gallwch gysylltu â ni trwy wneud cwyn. Byddwn yn gwrando ar adborth ac yn ymateb yn briodol i’r cwynion a’r feirniadaeth a gawn.  
  • Bydd trefn gwyno gennym, a bydd copi ohoni ar gael ar ein gwefan neu bydd ar gael ar gais.  
  • Bydd ein trefn gwyno yn rhoi gwybod i chi sut i gysylltu â’r Rheoleiddiwr Codi Arian os teimlwch fod ein hymateb yn anfoddhaol. 
  •  Byddwn yn monitro ac yn cofnodi nifer y cwynion a gawn bob blwyddyn ac yn rhannu’r data hwn gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian ar gais.