Grisiau at Gynnydd

Abertawe, Cardiff and Vale, Casnewydd, Sir Gaerfyrddin

Rhaglen lles, sgiliau a datblygiad strwythuredig wedi’i chyflwyno dros 15 wythnos 

Steps to Progress Graduation

Bydd Grisiau at Gynnydd yn datblygu hyder, gwydnwch a sgiliau cyfranogwyr i gefnogi eu cynnydd tuag at addysg, hyfforddiant a chyflogaeth 

Mae’r prosiect yn cynnig yr arfau sydd eu hangen ar bobl y mae digartrefedd yn effeithio arnynt i symud yn nes at eu nodau tymor hir fel addysg, hyfforddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth. 

Cynhelir ein cyrsiau mewn unedau 15 wythnos mewn tair ardal: 

Bydd y gweithdai’n annog cyfranogwyr i archwilio atebion a myfyrio ar eu cynnydd gyda’i gilydd.  

Bydd gweithwyr proffesiynol allanol yn cyflwyno gwybodaeth arbenigol efallai nad yw’r rhai sy’n cymryd rhan yn y cwrs erioed wedi meddwl amdani o’r blaen.

textimgblock-img

Beth i’w ddisgwyl 

Bydd y sesiynau wythnosol yn mynd ar drywydd pwnc gwahanol bob wythnos: lles; gwydnwch; myfyrio; sgiliau cyfathrebu; deallusrwydd emosiynol; nodau; sgiliau cyflogadwyedd; cymhelliant; hunan-barch.

Bydd ein mentoriaid yn cefnogi unigolion i greu cynlluniau dysgu personol a chymorth ar ôl y cwrs i’w helpu â’u cynnydd parhaus. 

Ariennir y prosiect gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. 

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw canolbwynt agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid ledled y DU i’w fuddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2025. 

Pwy sy’n gallu cael mynediad at y cwrs Grisiau at Gynnydd? 

Mae Grisiau at Gynnydd yn agored i ddefnyddwyr gwasanaeth presennol The Wallich a’i asiantaethau partner, yn ogystal â’r rheini sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu sydd wedi bod yn ddigartref. 

I gyfeirio rhywun at y prosiect, llenwch y ffurflen atgyfeirio ar gyfer yr ardal berthnasol. 

Ffurflenni atgyfeirio ar gyfer pob ardal: 

E-byst ar gyfer pob ardal:

Swansea Council logo Carmarthenshire county council logo Vale of Glamorgan Council logoCardiff council logoNewport council logo

Tudalennau cysylltiedig