Abertawe Castell-nedd Port Talbot 360

Abertawe, Castell-nedd Port Talbot

07966 379 568

Cymorth i bobl sy’n wynebu digartrefedd ac sydd â nifer o anghenion sy’n gorgyffwrdd a heb eu diwallu

Fel gwasanaeth sydd ag un pwynt mynediad, mae prosiect Abertawe Castell-nedd Port Talbot 360 yn bartneriaeth aml-asiantaethol.

Nod y prosiect yw rhoi sylw i’r bobl sydd â’r anghenion mwyaf cymhleth.

Mae ein hathroniaeth yn syml:

Os gallwn gefnogi’r bobl sydd â’r amgylchiadau mwyaf heriol i aros yn ddiogel ac yn hapus mewn tai, byddwn yn cymryd camau breision tuag at newid y system er mwyn helpu i leihau’r risg o ddigartrefedd i bawb.

Gwybodaeth am y gwasanaeth

Tîm Therapi Galwedigaethol Iechyd Digartrefedd (HHOT) – Tîm HHOT

Bydd y tîm amlddisgyblaethol unigryw hwn yn cysylltu gwasanaethau â’i gilydd ac yn darparu un pwynt dilyniant i ddefnyddwyr.

I ddechrau, dim ond ar gyfer yr achosion mwyaf cymhleth y bydd y Tîm HHOT ar gael.
Mae’r prosiect yn targedu unigolion yn yr ardal sy’n ddigartref dro ar ôl tro, ac sy’n ei chael hi’n anodd cael gafael ar gymorth.

Rhwydweithio, cydgynhyrchu a datblygu prosiectau

Bydd y bartneriaeth yn creu lle i hwyluso newid drwy’r canlynol:

Hyfforddiant, coetsio ac asesu sy’n seiliedig ar drawma

Byddwn yn sicrhau bod hyfforddiant o ansawdd uchel ar gael i bawb sydd ei angen, a byddwn yn adeiladu ar wybodaeth a sgiliau unigolion profiadol.

Byddwn yn defnyddio offer newydd i asesu’n well pa mor dda y mae’r arferion hyn yn cael eu gwreiddio mewn sefydliadau.

Fframwaith adrodd ar draws y sector

Byddwn yn datblygu gwybodaeth a’r gallu i ddylanwadu ar bolisïau ac arferion yn y dyfodol.

Datblygu fframwaith adrodd gwell ac archwilio meddalwedd posibl sydd wedi’i ddatblygu o’r newydd.

Beth i’w ddisgwyl

Cael gafael ar y gwasanaeth

Gellir atgyfeirio pobl at y gwasanaeth drwy e-bost.

I gael arweiniad a ffurflen atgyfeirio, cysylltwch â thîm prosiect i gael rhagor o fanylion.

Mae prosiect Abertawe Castell-nedd Port Talbot 360 yn cael ei ariannu gan y Loteri – Cronfa Helpu i Roi Diwedd ar Ddigartrefedd.

Tudalennau cysylltiedig