Sefydliadau digartrefedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn derbyn arian gan y Loteri Genedlaethol

19 May 2021

Mae 23 o sefydliadau wedi derbyn bron i £50,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i helpu rhoi terfyn ar ddigartrefedd yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi rhoi £49,976 tuag at y gost o ddatblygu rhwydwaith integredig o wasanaethau cymorth a therapïau ar gyfer pobl gydag anghenion cymhleth.

Bydd y prosiect yn ailwampio gwasanaethau yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot er mwyn sicrhau bod pob achos o ddigartrefedd yn anfynych, byr a byth yn digwydd eto drwy gael gwared â’r rhwystrau sy’n atal pobl sy’n profi heriau gyda’u hiechyd meddwl rhag derbyn cymorth.

Mae’r prosiect yn bartneriaeth o 23 sefydliad, pob un yn cynrychioli isadran wahanol o’r gymuned sydd angen tai.

Mae mudiadau sydd ynghlwm yn cynnwys The WallichCrisisShelter CymruTai PawbFamily Housing Assocation WalesThrive Women’s AidCyngor Ffoaduriaid CymruGoleudyYmddiriedolaeth St GilesHafan CymruPactTGP CymruInclude HubHome ConnectionsKaleidoscopeGCPhEMPartneriaeth Feddygol AbertawePrifysgol De CymruMind CNPTCyngor Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot.

Mae llawer o’r sefydliadau a’r asiantaethau sydd ynghlwm â’r bartneriaeth, yn gweithio gyda phobl sy’n cael profiad o broblemau yn ymwneud â thai, ac mae ganddyn nhw anghenion cymhleth sydd yn aml wedi cyfrannu yn uniongyrchol at eu hangen i gael tŷ neu wedi’i ymestyn.

Dywedodd Phill Stapley, Rheolwr Ardal The Wallich dros Dde-orllewin Cymru

“Tra ei fod yn wybyddus y gall ffactorau gwahanol achosi llwybr at ddigartrefedd, mae iechyd meddwl gwael a digartrefedd yn aml yn gydgysylltiedig. Yn The Wallich, rydym yn gweithio gyda mwy na 9,000 o bobl bob blwyddyn; mae llawer ohonyn nhw wedi cael Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (PNPau), gyda rhywfaint o drawma, trawma cymhleth a thrawma cyfansawdd.

“Bob dydd, rydym yn gweld bod trawma nad yw’n cael ei ddatrys yn effeithio ar allu unigolyn i reoli perthnasoedd a chynnal ei gyflogaeth neu’i denantiaeth yn sefydlog. Heb ddatrysiad, gall trawma arwain at ddigartrefedd. Mae’r prosiect hwn yn gyfle go iawn i ymdrin â hynny.”

Mae ymchwil ynglŷn ag argyfyngau yn dangos bod pobl sy’n profi digartrefedd ddwywaith fwy tebygol o feddu ar heriau gydag iechyd meddwl.

Mae hunan-niweidio yn bryder arall yn ardal Abertawe/CNPT, ac os nad yw’n derbyn ymdriniaeth bydd yn parhau i niweidio iechyd pobl. Mae hwn yn bryder parhaus yng Nghastell-nedd Port Talbot, oherwydd dyma’r unig awdurdod lleol yng Nghymru sydd â nifer sylweddol uwch na’r niferoedd cyfartalog cenedlaethol o hunanladdiadau ar 15.8 fesul 100,000.

Dywedodd Emma O’Brien, Rheolwr Dewisiadau Tai yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot

“Mae CBSCNPT yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid i ddatblygu cais llawn am brosiect, gyda’r nod o ymdrin ag anghenion cymhleth yr unigolion a chael gwared â’r rhwystrau sydd ar eu llwybr i gael llety cynaliadwy hirdymor.”

textimgblock-img

Mae Taclo Digartrefedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gronfa £10 miliwn yn benodol ar gyfer prosiectau strategol sy’n ceisio ailwampio gwasanaethau er mwyn gwneud digartrefedd yng Nghymru yn anfynych, byr a byth yn digwydd eto.

Bydd y grant o £49,976 a ddyfernir yn cefnogi datblygu cynnig am brosiect 5-7 mlynedd llawn am gyfran o’r gronfa £10 miliwn.

Mae’r rhaid i’r prosiectau fod yn ganolog ar yr unigolion a chael eu cyflawni gan bartneriaethau amlasiantaeth lle mae’r sefydliadau trydydd sector a’r sector cyhoeddus yn gweithio yn agos gyda’i gilydd, yn seiliedig ar weledigaeth a gytunwyd arni yn gydfuddiannol ar gyfer ymdrin â digartrefedd.

Mae gan y prosiect newydd drwy Abertawe a CNPT bedwar o feysydd blaenoriaeth ar gyfer roi terfyn ar ddigartrefedd yn yr ardal:

1. Gweithio gyda’i gilydd i nodi’r ddarpariaeth bresennol, ac yna cynllunio model cydlynol o gymorth a chyfres o ymyriadau cynaliadwy arloesol sydd eu hangen i gefnogi pobl gydag anghenion cymhleth sydd angen tai.

 

2. Datblygu a chyflawni hyfforddiant ymwybyddiaeth er mwyn ymdrin â’r stigma a’r rhagfarn a brofir gan bobl sy’n ddigartref ynghyd â chynyddu ymwybyddiaeth ynghylch cefnogi pobl gydag anghenion cymhleth neu iechyd meddwl. Bydd hyn yn cael ei anelu at wasanaethau yn y trydydd sector, landlordiaid a gwasanaethau statudol.

3. Tynnu sylw at feysydd blaenoriaeth ar gyfer datblygu dulliau ataliol er mwyn sicrhau bod pobl yn cael mynediad at gymorth cyn i’r argyfyngau ddigwydd er mwyn osgoi digartrefedd.

 

4. Cynllunio canllawiau ymarfer gorau ar y cyd ar gyfer ymglymiad defnyddwyr y gwasanaethau, gan sicrhau dulliau deallus ynglŷn â thrawma sy’n ganolog ar yr unigolyn ar gyfer pobl sydd wedi byw trwy’r profiad i ddatblygu eu sgiliau.

Tudalennau cysylltiedig