Tŷ Tom Jones

34 Alexandra Road, Abertawe, SA1 5DZ

Abertawe

01792 465036

Mae Tŷ Tom Jones yn hostel i 24 o bobl gael lle i fyw yn Abertawe

Mae’r hostel yn gweithredu fel pont rhwng y rhai sy’n gadael llety dros dro ac yn symud i gartref mwy parhaol.

Er mwyn gwneud yn siŵr nad yw tenantiaid yn mynd yn ddigartref unwaith eto, mae preswylwyr yn cael cefnogaeth, cyngor a chymorth i sicrhau eu bod yn barod i symud a chynnal eu tenantiaeth eu hunain yn y dyfodol.

Agorodd Tŷ Tom Jones ym mis Mai 2020 fel ymateb i’r angen cyflym a brys am fwy o lety yn ystod pandemig y Coronafeirws.

Mae The Wallich yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, Pobl a Caer Las i ddarparu gwasanaeth Tŷ Tom Jones.

Gyda’i gilydd, mae’r Wallich a Caer Las yn darparu cymorth arbenigol i breswylwyr yr hostel.

Mae’r cymorth yn cynnwys:

Am yr adeilad

Adeilad trawiadol Tŷ Tom Jones yw safle hen Brosiect Pobl Ifanc Foyer Abertawe ac roedd yn rownd derfynol gwobrau ‘World Habitat’ yn 1998 pan gafodd ei adeiladu gyntaf.

Mae’r adeilad yn ceisio osgoi nodweddion nodweddiadol sefydliadau gyda’u hierarchaeth o goridorau, grisiau a lobïau.

textimgblock-img

Mae Tŷ Tom Jones yn adeilad rhestredig wedi’i addasu sy’n ynni-effeithlon ac ecogyfeillgar.

Mae’r tu mewn yn newydd ac wedi’i drawsnewid i greu stryd dan do gyda fflatiau, swyddfeydd a mannau hamdden.

Mae wedi cael ei ddiweddaru a’i ailwampio gan Gyngor Abertawe.

Tudalennau cysylltiedig