VERVE

Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe

Abertawe, Castell-nedd Port Talbot

0300 790 4044

VERVE logo

Mae VERVE yn wasanaeth cyffuriau ac alcohol a ddarperir gan gynghrair yn cynnwys Adferiad, Barod, Kaleidoscope, a The Wallich. Gydag un llwybr clir i mewn i’r gwasanaeth, beth bynnag yw dull neu lefel y gefnogaeth sydd ei hangen, gall pobl gael mynediad i wasanaeth eang ei gwmpas sy’n croesawu pawb heb feirniadaeth. Rydym yn cymryd amser i wrando ac i ddeall amgylchiadau pob person ac yn gweithio gyda nhw i leihau niwed ac i gyflawni’r nodau sy’n bwysig iddynt. Mae VERVE yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau lleol eraill, gan alluogi unigolion i symud yn hawdd rhwng VERVE a chefnogaeth arall yn eu cymuned.

Mae VERVE yn cefnogi pobl o bob oedran ar draws Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, gyda phlant a phobl ifanc 25 oed ac is yn cael y cynnig o  gefnogaeth ddiogel sy’n addas i’w hoedran ac ar wahân oddi wrth oedolion. Mae VERVE yn cynnig cefnogaeth cyffuriau ac alcohol bwrpasol i’r rhai hynny sy’n ddigartref neu mewn risg o ddigartrefedd, a phobl ar wahanol gamau o’r  system cyfiawnder troseddol, gyda chefnogaeth wedi ei haddasu i’w hamgylchiadau a’u hanghenion penodol. Rydym hefyd yn cydnabod  y gall defnyddio cyffuriau ac alcohol effeithio ar deuluoedd a’r rhai hynny sy’n agos i’r  person, felly mae cefnogaeth ar gael iddyn nhw hefyd.

Boed nod rhywun i leihau neu i roi’r gorau i’w defnydd o gyffuriau neu alcohol, neu i gynnal newidiadau maent eisoes wedi eu gwneud, dechreuwn gyda beth mae pob person yn dymuno ei gyflawni ac yna cytuno ar y camau nesaf gyda’n gilydd,  gan weithio i osod nodau ar gyfer dyfodol uchelgeisiol. Wrth i anghenion pobl newid, gallent symud rhwng mathau a lefelau’r gefnogaeth yn seiliedig ar eu hamgylchiadau.

textimgblock-img

Gall y gefnogaeth gynnwys:

  • Ymyraethau un i un wedi’u teilwra
  • Sesiynau grŵp a chefnogaeth cymheiriaid strwythuredig
  • Cyngor ar ddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn fwy diogel,  lleihau niwed, ac atal gorddosio
  • Gwasanaethau nodwyddau a chwistrelli (‘NSP’), yn cynnwys offer di-haint a gwaredu diogel
  • Sgrinio firws a gludir yn y gwaed (‘BBV’), yn cynnwys profi smotyn gwaed sych (‘DBST’)
  • Ffyrdd ymarferol i reoli chwantau,  i adnabod sbardunau ac i gynnal newidiadau
  • Cefnogaeth i deuluoedd ac eraill a effeithir gan y defnydd o gyffuriau neu alcohol gan rhywun arall
  • Cymorth i gael mynediad i grwpiau cymorth cydfuddiannol a grwpiau iechyd a chymunedol eraill
  • Cefnogaeth gydag ymataliaeth ac adferiad

Gall unigolion gael mynediad i’r gwasanaeth drwy gysylltu â Thîm Pwynt Cyswllt Unigol VERVE ar 0300 7904044 neu info@verve.cymru, neu drwy gwblhau ein ffurflen atgyfeirio yn verve.cymru. Croesawn atgyfeiriadau proffesiynol gan lwybrau iechyd a gofal cymdeithasol a chyfiawnder troseddol.

Derbynir atgyfeiriadau drwy wasanaeth Sgwrsio Gwe Byw Barod rhwng oriau 9am a 5pm Dydd Llun – Dydd Gwener. I ddefnyddio’r Sgwrs Fyw, ewch i barod.cymru a chliciwch ‘Chat Live’.

Mae ein canolfannau yn agored i alw  i mewn rhwng yr oriau 9.30am – 12.30pm ac 1.30pm – 5pm

Port Talbot:

  • 46 Talbot Road, SA13 1HU

Castell-nedd:

  • 15 Victoria Gardens, SA11 3AY (Oedolion)
  • 30 Victoria Gardens, SA11 3BH (Pobl ifanc)

Abertawe:

  • 73-74 Mansel Street, SA1 5TR (Oedolion)
  • Info-Nation, 47 The Kingsway, SA1 5HG (Pobl ifanc)

 

Comisiynwyd gan Fwrdd Arwain Cyffuriau ac Alcohol Castell-nedd Port Talbot