Torfaen
Torfaen@thewallich.net
01495 366 895
Mae Tai yn Gyntaf Torfaen yn darparu cymorth i unrhyw un dros 18 oed, sy’n ddigartref neu’n cysgu ar y stryd

Mae’r tîm Tai yn Gyntaf yn gweithio’n agos gyda landlordiaid a’r awdurdod lleol.
Rydyn ni’n helpu pobl i ddod o hyd i gartref parhaol yn gyflym – yn hytrach na dod o hyd i ddatrysiadau dros dro, fel hostel – yn Nhorfaen.
Rydyn ni’n gweithio gyda phobl yn Nhorfaen, gan gynnwys Cwmbrân a Phont-y-pŵl.
Caiff cymorth parhaol ei roi ar waith wedyn i helpu pobl i ymgartrefu a chynnal a chadw eu cartref newydd.
Rydyn ni’n credu y dylai cymorth fod yn seiliedig ar gryfderau unigolyn, yn hytrach na’i broblemau.
Mae’r gwasanaethau’n gweithio’n rhagweithiol gyda chleientiaid i annog ymgysylltu mewn meysydd eraill.
Mae Tai yn Gyntaf Torfaen yn rhoi cymorth dwys i fynd i’r afael â materion ehangach fel:
- Cyllidebu
- Aelodau
- Cyflogaeth
- Iechyd meddwl
- Defnyddio sylweddau
Dyma egwyddorion craidd Tai yn Gyntaf:
- Mae cael cartref yn hawl ddynol
- Dylai fod gan bobl ddewis a rheolaeth
- Nid yw cael cartref yn amodol ar gymorth neu driniaeth
- Cymorth sy’n canolbwyntio ar adfer
- Cymorth sy’n canolbwyntio ar leihau niwed
- Ymgysylltu heb orfodi
- Cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Mae cymorth hyblyg ar gael, cyhyd ag y bo angen
Atgyfeiriadau
I gael atgyfeiriad am gymorth gan dîm Tai yn Gyntaf Torfaen, ffoniwch y rhif hwn 01495 762200.
