Gwasanaeth Cysgu ar y Stryd Torfaen

Pearl Assurance House, 12 Heol Hanbury, Pont-y-pŵl, NP4 6JL

Torfaen

01495 366895

Mae tîm Cysgu ar y Stryd Torfaen yn gweithio gyda phobl sy’n ddigartref ac sy’n byw bywyd ar y stryd yn Nhorfaen 

The Wallich rough sleepers team on the streets in the Riverside area of Cardiff

Mae tîm Cysgu ar y Stryd Torfaen yn defnyddio dull allgymorth pendant i ganfod ac ymateb i adroddiadau am bobl yn cysgu ar y stryd. 

Rydyn ni’n gweithio gyda phobl yn cysgu ar y stryd yn Nhorfaen, gan gynnwys Cwmbrân a Phont-y-pŵl. 

Y nod yw darparu cefnogaeth, gwybodaeth a chymorth wedi’i dargedu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn galluogi pobl i liniaru ac atal digartrefedd. 

Mae’r tîm yn ymgysylltu’n gadarnhaol ag unigolion sy’n cysgu ar y stryd yn Nhorfaen, gan annog ymgysylltiad â gwasanaethau statudol a gwirfoddol. 

Mae The Wallich yn defnyddio dull lleihau niwed i gefnogi’r rheini sy’n cysgu ar y stryd.  

Mae hefyd yn ymwybodol o ddiogelwch y person a diogelwch y gymuned ehangach. 

Mae gwasanaeth Cysgu ar y Stryd Torfaen yn gweithio ar sail aml-asiantaeth gyda sefydliadau partner allweddol yn Nhorfaen, gan gynnwys:

textimgblock-img

Darperir dull cyfannol, amserol ac arloesol i bobl sy’n ddigartref a / neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref er mwyn iddyn nhw fod mor annibynnol â phosibl. 

Mae The Wallich yn gweithio gyda’r agenda Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod er mwyn darparu ymateb sy’n seiliedig ar drawma i gefnogi pobl agored i niwed sydd wedi profi Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, yn ogystal ag atal Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn y dyfodol.

Mae gwasanaeth Cysgu ar y Stryd Torfaen yn cael atgyfeiriadau’n uniongyrchol gan Dîm Tai Cyngor Torfaen neu drwy’r ap StreetLink.

Tudalennau cysylltiedig