Gwasanaeth i Droseddwyr Torfaen

Unedau 12/13, Canolfan Fusnes Torfaen, Ffordd Panteg, New Inn, NP4 0LS

Torfaen

01495 362196

Mae tîm Gwasanaeth i Droseddwyr Torfaen yn gweithredu ar draws Torfaen, Sir Fynwy a Blaenau Gwent  

Mae Gwasanaeth i Droseddwyr Torfaen yn cefnogi pobl ddigartref sy’n gadael y carchar cyn, yn ystod ac ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, er mwyn sicrhau eu bod yn symud yn ddidrafferth o’r carchar i ailsefydlu yn ôl i’r gymuned. 

Rydyn ni’n gweithio gyda sawl carchar ledled de Cymru a Lloegr, gan gynnwys 

Bydd y tîm yn gweithio gyda chleientiaid yn y carchar er mwyn canfod a chynllunio ar gyfer anghenion tai a chymorth.  

Mae Gwasanaeth i Droseddwyr Torfaen yn gweithio mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol a phartneriaid eraill y cytunwyd arnynt, gan gynnwys tîm Atebion Tai’r Cyngor. 

Mae’r tîm yn darparu dull rhagweithiol sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau i atal digartrefedd, gan sicrhau bod unigolion yn cael y cymorth angenrheidiol i ddiwallu eu hanghenion. 

Atgyfeiriadau 

I gael atgyfeiriad am gymorth gan dîm Gwasanaeth i Droseddwyr Torfaen, anfonwch e-bost i Gateway@torfaen.gov.uk 

Tudalennau cysylltiedig