Rydyn ni mor falch o ddathlu’r garfan gyntaf o 12 o ddysgwyr sy’n oedolion a gwblhaodd ein rhaglen sgiliau 15 wythnos.
Mae Grisiau at Gynnydd yn helpu pobl sydd wedi profi digartrefedd, iechyd meddwl gwael, dibyniaeth neu drawma i fagu’r hyder ac i gael yr adnoddau i symud ymlaen gyda’u bywydau.
Hoffem ddiolch i’n cyllidwyr, Cronfeydd Ffyniant Cyffredin lleol o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, am wneud hyn i gyd yn bosibl i gyflawni’r rhaglen.
Dechreuodd yr achlysur gyda phanel o chwe mentor a myfyrwyr yn siarad am eu profiad gyda’r rhaglen.
Dywedodd y myfyrwyr fod y rhaglen wedi rhoi iddyn nhw fwy o hyder ynddyn nhw eu hunain, wedi eu helpu i weld eu potensial, yn ogystal â’u cefnogi i feithrin cysylltiadau cadarn.
Yn dilyn y panel, cafodd y graddedigion dystysgrifau cyflawniad gan Brif Swyddog Gweithredol Dros Dro The Wallich, Sian Aldridge.
Clywsom rai geiriau o ysbrydoliaeth hefyd gan reolwr y rhaglen, Joanne Esposti.
Daeth yr achlysur i ben gyda chinio bwffe i bawb ei fwynhau a chyfle i ymfalchïo yn y llwyddiant anhygoel.
Mae ein Mentoriaid Grisiau at Gynnydd rhanbarthol yn tywys cyfranogwyr drwy’r cwrs ac yn eu cefnogi gydag unrhyw beth sydd ei angen arnynt i gyrraedd y diwedd.
Gan fod llawer o’r bobl sy’n gwneud y cwrs heb fod mewn addysg neu gyflogaeth ers peth amser, mae’n arbennig o bwysig bod y myfyrwyr yn cael eu galluogi a’u cefnogi bob cam o’r ffordd.
Roedd mentoriaid myfyrwyr yn hynod falch o’r cynnydd roedd cyfranogwyr wedi’i wneud yn ystod y rhaglen. Dywedodd un mentor:
“Roedd graddio ar ôl dilyn y rhaglen Grisiau at Gynnydd yn llwyddiant ysgubol.
I weld cymaint o unigolion yn bresennol, roedd canmol ymdrechion y cleientiaid yn hynod o bwerus.
“Roedd gweld pa mor falch oedd pob cleient wrth dderbyn eu tystysgrifau cwblhau yn emosiynol dros ben.
Hoffwn ddiolch yn bersonol i’r holl gleientiaid a ddaeth, a wnaeth gwblhau’r rhaglen Grisiau at Gynnydd, ac am ymdrechion staff The Wallich a gynhaliodd ddigwyddiad mor wych.
Roedd yn ddiwrnod anhygoel lle roedd pob un ohonon ni, gyda’n gilydd, yn teimlo’n falch iawn o’r cleientiaid ac o fod yn rhan o The Wallich.”
Roedd ein rhaglen Grisiau at Gynnydd ar waith mewn tair ardal am y tro cyntaf; sir Gaerfyrddin, Abertawe a Bro Morgannwg.
Ein graddedigion oedd y garfan gyntaf o fyfyrwyr i gwblhau’r rhaglen 15 wythnos.
Nod y prosiect yw meithrin hyder, gwydnwch a sgiliau cyfranogwyr i gefnogi eu cynnydd tuag at addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
Nod The Wallich yw creu llwybrau cynaliadwy allan o ddigartrefedd ac, i rai, gall rhoi hwb i’r sgiliau bywyd penodol hynny fod yn allweddol i wella ansawdd bywyd a gobaith rhywun ar gyfer y dyfodol.
Ers llwyddiant ysgubol y rhaglen, rydyn ni’n falch o ddweud bod Grisiau at Gynnydd wedi cael ei hehangu i ddau leoliad arall; Caerdydd a Chasnewydd.
Mae Grisiau at Gynnydd ar gael ar hyn o bryd i ddefnyddwyr gwasanaeth The Wallich yn ogystal â phobl y tu allan i The Wallich sydd wedi bod yn ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld taith barhaus ein myfyrwyr yn ogystal â datblygiad y garfan newydd.