Llongyfarchiadau i raddedigion cyntaf Grisiau at Gynnydd

01 May 2024

Bu staff The Wallich, myfyrwyr Grisiau at Gynnydd, a’u hanwyliaid yn dathlu eu graddio yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe

Rydyn ni mor falch o ddathlu’r garfan gyntaf o 12 o ddysgwyr sy’n oedolion a gwblhaodd ein rhaglen sgiliau 15 wythnos.

Mae Grisiau at Gynnydd yn helpu pobl sydd wedi profi digartrefedd, iechyd meddwl gwael, dibyniaeth neu drawma i fagu’r hyder ac i gael yr adnoddau i symud ymlaen gyda’u bywydau.

Hoffem ddiolch i’n cyllidwyr, Cronfeydd Ffyniant Cyffredin lleol o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, am wneud hyn i gyd yn bosibl i gyflawni’r rhaglen.

Seremoni raddio gyntaf Grisiau at Gynnydd

Steps to Progress graduates

Dechreuodd yr achlysur gyda phanel o chwe mentor a myfyrwyr yn siarad am eu profiad gyda’r rhaglen.

Dywedodd y myfyrwyr fod y rhaglen wedi rhoi iddyn nhw fwy o hyder ynddyn nhw eu hunain, wedi eu helpu i weld eu potensial, yn ogystal â’u cefnogi i feithrin cysylltiadau cadarn.

Yn dilyn y panel, cafodd y graddedigion dystysgrifau cyflawniad gan Brif Swyddog Gweithredol Dros Dro The Wallich, Sian Aldridge.

Clywsom rai geiriau o ysbrydoliaeth hefyd gan reolwr y rhaglen, Joanne Esposti.

Daeth yr achlysur i ben gyda chinio bwffe i bawb ei fwynhau a chyfle i ymfalchïo yn y llwyddiant anhygoel.

textimgblock-img

Mentoriaid Grisiau at Gynnydd

Mae ein Mentoriaid Grisiau at Gynnydd rhanbarthol yn tywys cyfranogwyr drwy’r cwrs ac yn eu cefnogi gydag unrhyw beth sydd ei angen arnynt i gyrraedd y diwedd.

Gan fod llawer o’r bobl sy’n gwneud y cwrs heb fod mewn addysg neu gyflogaeth ers peth amser, mae’n arbennig o bwysig bod y myfyrwyr yn cael eu galluogi a’u cefnogi bob cam o’r ffordd.

Roedd mentoriaid myfyrwyr yn hynod falch o’r cynnydd roedd cyfranogwyr wedi’i wneud yn ystod y rhaglen. Dywedodd un mentor:

“Roedd graddio ar ôl dilyn y rhaglen Grisiau at Gynnydd yn llwyddiant ysgubol.

I weld cymaint o unigolion yn bresennol, roedd canmol ymdrechion y cleientiaid yn hynod o bwerus.

“Roedd gweld pa mor falch oedd pob cleient wrth dderbyn eu tystysgrifau cwblhau yn emosiynol dros ben.

Hoffwn ddiolch yn bersonol i’r holl gleientiaid a ddaeth, a wnaeth gwblhau’r rhaglen Grisiau at Gynnydd, ac am ymdrechion staff The Wallich a gynhaliodd ddigwyddiad mor wych.

Roedd yn ddiwrnod anhygoel lle roedd pob un ohonon ni, gyda’n gilydd, yn teimlo’n falch iawn o’r cleientiaid ac o fod yn rhan o The Wallich.”

Sut mae Grisiau at Gynnydd yn gweithio?

Roedd ein rhaglen Grisiau at Gynnydd ar waith mewn tair ardal am y tro cyntaf; sir Gaerfyrddin, Abertawe a Bro Morgannwg.

Ein graddedigion oedd y garfan gyntaf o fyfyrwyr i gwblhau’r rhaglen 15 wythnos.

Nod y prosiect yw meithrin hyder, gwydnwch a sgiliau cyfranogwyr i gefnogi eu cynnydd tuag at addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

Nod The Wallich yw creu llwybrau cynaliadwy allan o ddigartrefedd ac, i rai, gall rhoi hwb i’r sgiliau bywyd penodol hynny fod yn allweddol i wella ansawdd bywyd a gobaith rhywun ar gyfer y dyfodol.

Ers llwyddiant ysgubol y rhaglen, rydyn ni’n falch o ddweud bod Grisiau at Gynnydd wedi cael ei hehangu i ddau leoliad arall; Caerdydd a Chasnewydd.

Mae Grisiau at Gynnydd ar gael ar hyn o bryd i ddefnyddwyr gwasanaeth The Wallich yn ogystal â phobl y tu allan i The Wallich sydd wedi bod yn ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld taith barhaus ein myfyrwyr yn ogystal â datblygiad y garfan newydd.

Rydyn ni’n derbyn atgyfeiriadau yn awr ar gyfer pob ardal. Ewch i dudalen we Grisiau at Gynnydd The Wallich i gysylltu â’r gwasanaeth yn eich ardal chi.

Tudalennau cysylltiedig