Penodi Oliver Townsend yn Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr yn The Wallich

29 May 2024

Board of Trustees

 

Mae Mr Townsend yn cymryd lle’r Cadeirydd Dros Dro Cinzia Porcedda a’r rhagflaenydd Will Henson, a roddodd y gorau iddi ar ôl bron i dair blynedd fel Cadeirydd y Bwrdd.

Mae Oliver wedi cefnogi elusen The Wallich er 2014, gan ymuno’n swyddogol â’i Bwrdd yn 2021 a dod yn Gadeirydd ym mis Ebrill 2024.

Ar hyn o bryd, mae Mr Townsend yn gweithio i elusen iechyd meddwl a newid cymdeithasol, Platfform, fel ei Phennaeth Cysylltiadau a Newid. Arferai weithio yn Cymorth Cymru, gan gynrychioli’r sefydliadau sy’n aelodau ohono gan gynnwys The Wallich, Llywodraeth Cymru ac eraill i wella a datblygu polisïau digartrefedd yng Nghymru.

Gyda chefndir proffesiynol ym maes marchnata, polisi a chyfathrebu, a phrofiadau personol o deimlo’n ddi-rym yn lleoliadau mawr y GIG, mae’n dod â sgiliau a phrofiadau gwerthfawr i The Wallich.

textimgblock-img

Ceir wyth aelod ar Fwrdd Ymddiriedolwyr The Wallich, pob un ohonynt â’i arbenigedd ei hun, gan gynnwys cynrychiolwyr o KPMG, Prifysgol Caerdydd, Tai Cymoedd i’r Arfordir a Darwin Gray.

Mae The Wallich yn darparu dros 100 o wasanaethau, gan helpu dros 7,000 o bobl ledled Cymru bob blwyddyn. Mae’r elusen yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, cynghorau lleol, gwasanaethau iechyd ac asiantaethau eraill i ddarparu gwasanaethau digartrefedd effeithiol.

Meddai Cadeirydd newydd y Bwrdd, Mr Townsend:

“Mae The Wallich yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Maen nhw’n siarad gyda llais pwerus ar sail profiad ac arbenigedd, ac maen nhw’n gweithio’n galed i roi’r bobl maen nhw’n eu helpu yn gyntaf.

Alla i ddim aros am y bennod nesaf yn stori The Wallich.

“Rwyf wedi cefnogi’r elusen wych hon er 2014. Pan gyrhaeddais y sector digartrefedd i ddechrau, ymwelais â rhai o’u gwasanaethau lleol yng Nghaerdydd am ddiwrnod cyfan. I rywun a oedd yn newydd i’r maes tai, cefais fy nghyffwrdd gan eu gweledigaeth flaengar ar gyfer mynd i’r afael â digartrefedd, eu hagwedd at leihau niwed yn dosturiol o safbwynt defnyddio sylweddau a’u hymroddiad i weithio gyda phobl y gallent gael eu gwrthod gan wasanaethau eraill.”

Yng Nghymru ceir nifer syfrdanol o bobl sydd naill ai’n ddigartref neu sy’n byw mewn cartref sydd dan fygythiad. Dengys ffigurau swyddogol Llywodraeth Cymru bod 11,721 o bobl yn aros mewn llety dros dro ar 29 Chwefror 2024. Amcangyfrifwyd bod 121 o bobl yn cysgu allan ar yr un dyddiad ledled Cymru. Mae The Wallich yn credu bod y nifer hon yn uwch.

Fel elusen digartrefedd a chysgu allan fwyaf Cymru, mae The Wallich yn gweithredu o dan dri amcan craidd: cael pobl oddi ar y strydoedd; cadw pobl oddi ar y strydoedd; a chreu cyfleoedd i bobl. Ei nod yw darparu gwasanaethau i bobl ar bob cam o’r ffordd tra maent yn ddigartref.

Aeth Mr Townsend yn ei flaen, “Dylai The Wallich fod yn falch iawn o’i hetifeddiaeth. O sefydlu gwasanaeth Tai yn Gyntaf cyntaf Cymru ar Ynys Môn i fod yn un o’r darparwyr cyntaf i fabwysiadu dull gweithio sy’n ystyriol o drawma ynghyd â strategaeth Amgylcheddau sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol.

“Mae’r elusen wedi bod yn sbardun i gyplysu polisïau digartrefedd ac iechyd ac ers tro byd mae wedi cyflwyno rhaglen gyd-gynhyrchu dan arweiniad cyfoedion, sy’n ailgynllunio gwasanaethau gyda mewnbwn gan y bobl sydd wedi’u defnyddio. Maen nhw hefyd yn falch bod gan 32.2% o’i weithlu brofiad uniongyrchol o ddigartrefedd, cartrefi dan fygythiad, iechyd meddwl neu’r system cyfiawnder troseddol. Mae The Wallich bob amser yn ceisio rhoi cynnig ar bethau newydd ac ymdrechu i weithio’n well er mwyn y bobl rydyn ni’n eu cefnogi.”

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro The Wallich, Sian Aldridge:

“Rydyn ni’n sicr y bydd Oliver yn parhau i fod yn rhan o wead The Wallich. Dan ei arweiniad ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, fe wyddom y byddan nhw’n ein tywys i ddefnyddio dulliau arloesol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac mae unrhyw her i’n huwch dîm, pan fydd angen, i’w groesawu.

textimgblock-img

Wrth i gyfleoedd am gyllid fynd yn brinnach ac wrth i’r galw gynyddu, rydyn ni’n falch o gael ar ein Bwrdd bobl fel Oliver sy’n deall y dirwedd y mae’r sector digartrefedd yn ei hwynebu ac a fydd yn ein helpu i feddwl am yr atebion.”

Tudalennau cysylltiedig