Gofynion polisi ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2024

17 Jun 2024

Person with all her possessions staring at the sea

The Wallich yw’r elusen fwyaf sy’n ymwneud â digartrefedd a chysgu ar y stryd yng Nghymru. Ei nod yw cael pobl oddi ar y strydoedd, cadw pobl oddi ar y strydoedd a chreu cyfleoedd i bobl.

 

Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth nesaf San Steffan i ystyried:

  1. System les sydd wedi ei dyfeisio i atal digartrefedd

  2. System cyfiawnder troseddol sydd ddim yn targedu pobl sy’n ddigartref

  3. Dull o ymdrin â pholisi cyffuriau sy’n lleihau niwed

  4. Hawl dynol i dai

  5. Setliad teg i Gymru

 

 

System les sydd wedi ei dyfeisio i atal digartrefedd

textimgblock-img
  • Rhaid cynyddu a sicrhau’r Lwfans Tai Lleol fel na all fyth ddisgyn o dan wir gost rhentu.
  • Rhaid cynyddu Credyd Cynhwysol yn unol â chostau byw gwirioneddol.
  • Diddymu’r polisi aros pum wythnos ar gyfer y taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.
  • Dyblygu ymgyrch ymwybyddiaeth Llywodraeth Cymru, ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’, ar lefel y DU.

System cyfiawnder troseddol sydd ddim yn targedu pobl sy’n ddigartref

textimgblock-img
  • Rhoi diwedd ar ryddhau o garchardai i ddigartrefedd. Rhoi cyfarwyddyd i’r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf gysylltu ag awdurdodau tai lleol mewn da bryd i sicrhau llety.
  • Diddymu dedfrydau byr o garchar am fân droseddau, yn enwedig rhai sy’n ymwneud â chyffuriau.
  • Caniatáu i’r trydydd sector ac asiantaethau eraill weithio gyda phobl yn y ddalfa i feithrin sgiliau a hyder, i adsefydlu ac i leihau aildroseddu.
  • Rhoi terfyn ar or-blismona pobl sy’n byw ar y stryd a diddymu’r Ddeddf Crwydradaeth.
  • Rhoi terfyn ar Orchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus sy’n gorfodi pobl allan o fannau cyhoeddus pan nad oes ganddynt unman arall i fynd.
  • Diwygio’r system cofnodion troseddol i ddileu rhwystrau i dai a chyflogaeth.

Dull o ymdrin â pholisi cyffuriau sy’n lleihau niwed

textimgblock-img
  • Croesawu dull o ymdrin â pholisi cyffuriau sy’n lleihau niwed. Iechyd y cyhoedd nid anghyfreithloni.
  • Dylai’r DU dreialu Canolfannau Atal Gorddos (ystafelloedd defnyddio cyffuriau dan oruchwyliaeth) i leihau’r risgiau i ddefnyddwyr a’r cyhoedd.
  • Dylai holl staff yr heddlu a’r gwasanaeth prawf gael eu hyfforddi a’u harfogi â naloxone i ymateb i orddosau opiadau.
  • Dylai’r DU fabwysiadu dull gweithredu ar gyfer defnyddio cyffuriau sy’n ystyried trawma ar draws holl wasanaethau cyhoeddus y DU.
textimgblock-img

Hawl dynol i dai

  • Rhaid i’r Llywodraeth roi’r gorau i’r defnydd o amodau Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus sy’n wynebu pobl sydd wedi dod i’r DU. Rhaid i unrhyw un sydd ag angen tai fod yn gymwys i gael cymorth.
  • Rhaid i’r Llywodraeth roi’r gorau i droi allan ar fyr rybudd o eiddo sydd wedi cael eu cymeradwyo gan y Swyddfa Gartref, lle mae ceiswyr lloches yn wynebu digartrefedd gyda dim ond saith diwrnod o rybudd.
textimgblock-img

Setliad teg i Gymru

  • Rhaid i Lywodraeth nesaf y DU sicrhau bod Cymru’n cael lefel deg o gyllid, yn seiliedig ar anghenion poblogaeth Cymru, i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu buddsoddi’n briodol mewn gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys tai, iechyd ac addysg.
  • Bob blwyddyn, mae’r sector tai yng Nghymru yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r Grant Cymorth Tai er mwyn cyd-fynd â chwyddiant. Bob blwyddyn, mae cyfrifoldeb yn arwain at ddiffyg cyllid gan Lywodraeth y DU. Rhaid i’r Llywodraeth nesaf weithio gyda Llywodraeth Cymru i gytuno ar setliad cynaliadwy hirdymor i ariannu gwasanaethau digartrefedd hanfodol.

 

Bydd Etholiad Cyffredinol i Senedd y Deyrnas Unedig yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf 2024.