Apêl Nadolig

Apêl Nadolig The Wallich 2026:
Anrheg a chinio Nadolig i bobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru

Mae nifer o bobl yn gorfod mynd heb bethau y Nadolig hwn – heb fwyd, heb gynhesrwydd a heb gymuned i’w cefnogi.

Yn The Wallich, rydyn ni eisiau sicrhau nad fel hyn y bydd hi i’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi.

Ar beth fyddwn ni’n gwario’r arian?

Rhoi cinio Nadolig poeth i dros 540 o bobl yng Nghymru

Gyda chymorth ein rhoddwyr, rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau bod preswylwyr a staff ym mhob un o’n hosteli digartrefedd yn gallu dod at ei gilydd i goginio a rhannu cinio Nadolig.

textimgblock-img

Yn aml iawn, nid oes gan y bobl sy’n byw mewn llety dros dro deulu a ffrindiau i dreulio’r Nadolig â nhw. Ein hostelau ni yw eu cymuned.

Helpwch ni i sicrhau bod pawb sy’n byw gyda ni ar ddiwrnod Nadolig yn cael cinio Nadolig.

Rhoi anrheg i bob un person rydyn ni’n eu cefnogi

textimgblock-img

Mae pobl sy’n profi digartrefedd yn haeddu cael profi rhywbeth arbennig i godi eu calonnau dros fisoedd y gaeaf, boed nhw’n dathlu’r Nadolig neu beidio.

Rydyn ni eisiau rhoi taleb rhodd gwerth £10 i bawb rydyn ni’n eu cefnogi.

Gweithred fechan a all olygu’r byd i rywun.

Cefnogwch apêl digartrefedd Nadolig The Wallich

Rhowch rodd o

  • Gallai £8 helpu i ddarparu cinio Nadolig a danteithion Nadoligaidd i un person.
  • Gallai £32 helpu i ddod â phobl at ei gilydd i rannu cinio Nadolig cymunedol.
  • Gallai £100 helpu i ddarparu taleb i 10 o bobl sy’n profi digartrefedd y Nadolig hwn.

Bydd The Wallich yn cefnogi tua 4,000 o bobl yng Nghymru y gaeaf hwn.

Wrth i gostau byw barhau i achosi her i nifer, mae The Wallich yn gweithio’n ddi-flino i geisio sicrhau bod pob unigolyn sy’n byw ar y stryd, a’r rhai sydd mewn llety dros dro, yn cael y Nadolig gorau posibl.

Mae The Wallich wedi cofrestru â’r Rheoleiddiwr Arian 

Rhoi eitemau

Yn ystod misoedd y gaeaf, rydyn ni’n cael llawer o gynigion caredig o eitemau a roddwyd, ac rydyn ni bob amser yn ddiolchgar am y gefnogaeth.

Cyn i chi ddechrau casglu eitemau newydd neu ail law, cysylltwch â’n Tîm Codi Arian neu eich tîm Wallich lleol. Gall ein hanghenion newid yn gyflym, a gallant roi gwybod i chi pa roddion fyddai fwyaf defnyddiol bryd hynny.

Siaradwch â’n tîm: dosomething@thewallich.net