Am un noson ym mis Mai, bydd Prif Weithredwyr o Gymru a’r tu hwnt yn cysgu allan yng Nghastell Caerdydd i godi arian i roi diwedd ar ddigartrefedd.
Mae’r digwyddiad codi arian unnos hwn yn cael ei gynnal gan y sefydliad elusennol, CEO Sleepout. Ei nod yw dod ag arweinwyr busnesau at ei gilydd i wneud safiad yn erbyn digartrefedd.
Dydy digwyddiadau cysgu allan ddim yn honni eu bod yn adlewyrchu’r profiad go iawn o dreulio noson ar y stryd, ond maen nhw’n rhoi rhywfaint o bersbectif.
Rydyn ni yn The Wallich wedi bod yn gweithio gyda’n Bwrdd Cysgodol, sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd, er mwyn sicrhau bod y digwyddiad hwn yn gynhwysol i bobl ddigartref.
Y gobaith yw y bydd gweithwyr cymorth arbenigol o The Wallich yn y digwyddiad, yn ogystal â rhai o’n cerbydau Fflyd y Stryd – a fydd yn sicrhau bod pobl sy’n cysgu allan yng Nghaerdydd yn gallu cael gafael ar gymorth ac nad ydynt yn cael eu hamddifadu o gynhesrwydd, darpariaethau a diogelwch y digwyddiad.
Bydd y noson yn cynnwys paneli o siaradwyr, gan gynnwys pobl sydd wedi bod yn ddigartref a chynrychiolwyr o’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.
Rydyn ni’n chwilio am gynifer o Brif Weithredwyr, Cyfarwyddwyr ac Uwch Reolwyr â phosibl i gymryd rhan.
Bydd pob Prif Weithredwr yn gwneud addewid i godi o leiaf £1,000 yr un.
Fyddwch chi ddim ar eich pen eich hun – gallwch ddod â’ch tîm gyda chi, sach gysgu i gadw’n gynnes, a bydd rhywle i chi gael diodydd poeth. Fodd bynnag, rydych wedi’ch cyfyngu i’r hyn y cewch ddod gyda chi i’ch helpu drwy’r nos.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni yn: dosomething@thewallich.net
I gofrestru, cliciwch yma a dewiswch The Wallich o’r gwymprestr wrth gofrestru.
Gyda lefelau digartrefedd yn uwch nag erioed, mae’n bwysig bod elusennau digartrefedd fel The Wallich yn gallu parhau i gynnig y cymorth maen nhw’n ei ddarparu.