NOS IAU 1 MAI 2025 | Castell Caerdydd
Am un noson ym mis Mai, bydd Prif Weithredwyr o Gymru a’r tu hwnt yn mynd i Gastell Caerdydd ac yn cysgu allan i godi arian ar gyfer digartrefedd.
Mae’r digwyddiad codi arian unnos hwn yn cael ei gynnal gan y sefydliad elusennol, CEO Sleepout. Ei nod yw dod ag arweinwyr busnesau at ei gilydd i wneud safiad yn erbyn digartrefedd.
Byddwch yn:
Rydyn ni’n chwilio am gynifer o Brif Weithredwyr, Cyfarwyddwyr ac Uwch Reolwyr â phosibl i gymryd rhan.
Bydd pob Prif Weithredwr yn gwneud addewid i godi o leiaf £1,000 yr un.
Fyddwch chi ddim ar eich pen eich hun – gallwch ddod â’ch tîm gyda chi, sach gysgu i gadw’n gynnes, a bydd rhywle i chi gael diodydd poeth.
Fodd bynnag, rydych wedi’ch cyfyngu i’r hyn y cewch ddod gyda chi i’ch helpu drwy’r nos.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni yn dosomething@thewallich.net
Dydy digwyddiadau cysgu allan ddim yn honni eu bod yn adlewyrchu’r profiad go iawn o dreulio noson ar y stryd, ond maen nhw’n rhoi rhywfaint o bersbectif.
Rydyn ni yn The Wallich wedi bod yn gweithio gyda’n Bwrdd Cysgodol, sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd, er mwyn sicrhau bod y digwyddiad hwn yn gynhwysol i bobl ddigartref.