Diolch i haelioni a thrugaredd cefnogwyr ledled Cymru, mae The Wallich wedi gallu cefnogi 4,014 o bobl ar draws Cymru’r gaeaf hwn.
Roedd yr ymgyrch, a lansiwyd ar Ddiwrnod Digartrefedd y Byd ar 10 Hydref 2025, yn galw ar gymunedau i fod yn drobwynt i bobl mewn argyfwng – gan gynnig ymyriadau bychain ond hanfodol sy’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd unigolyn.
Mae’r ymdrech arbennig hwn yn golygu bod mwy o bobl wedi gallu symud o ansefydlogrwydd i dai diogel, cael mynediad i wasanaethau hanfodol, ac adennill gobaith yn ystod un o gyfnodau mwyaf heriol y flwyddyn.
Cyfanswm a godwyd: £56,270

I ble mae eich arian yn mynd
Bydd yr arian a godwyd yn mynd tuag at waith hanfodol The Wallich i gefnogi pobl sy’n ddigartref ar hyn o bryd, mewn perygl o fod yn ddigartref, neu’n byw mewn tai bregus.
Mae hyn yn cynnwys cymorth uniongyrchol i bobl drwy grantiau argyfwng, gwasanaethau allgymorth a darpariaethau ymarferol sy’n gallu newid bywydau ar adegau tyngedfennol.
Dros y Nadolig, fe lwyddon ni i ddarparu pryd o fwyd Nadoligaidd ac anrheg i ddefnyddwyr ein gwasanaethau.
Y gaeaf hwn
- Derbyniodd mwy na 2,000 o bobl anrheg Nadolig
- Cafodd 2,593 o bobl eu cefnogi gan dimau rheng flaen rhwng mis Hydref a mis Ionawr
Rhoddwyd grantiau i bobl ledled Cymru i leddfu costau byw.
Fe wnaethom ni helpu pobl i fynd i’r afael â dyled, disodli eitemau cartref a oedd wedi torri, helpu pobl i symud i mewn i’w cartrefi eu hunain, talu am fathau o ddogfen adnabod, helpu pobl i gael gwaith, rhoi bwyd ar y bwrdd a darparu hanfodion ar gyfer eu plant.
Heb yr haelioni a ddangoswyd eleni, byddai llawer mwy o bobl wedi wynebu’r gaeaf heb gymorth a chysylltiad hanfodol.
Unigolion hael
O roddion cyn lleied â £2 i roddion mwy, camodd unigolion o bob cefndir i’r adwy i wneud gwahaniaeth.
Rhoddodd 400 o unigolion hael rodd untro neu drefnu rhodd rheolaidd i The Wallich eleni.
Roedd 63% o’r cefnogwyr yn newydd i The Wallich.
Roedd nifer yn rhoi ar-lein, mewn digwyddiadau lleol, trwy gasgliadau bwced yn y gymuned, neu’n gwneud addewid am gymorth misol.
Mae pob rhodd yn golygu bod The Wallich yn gallu bod yno i bobl yng Nghymru, pryd bynnag y byddant angen cymorth.

Raffl gaeaf The Wallich
Roedd y gwobrau ar gyfer raffl gaeaf The Wallich 2025 yn cynnwys £250 o dalebau M&S, hamperi moethus, tocynnau i wylio Josh Widdicombe, talebau am deithiau dydd i’r teulu, arosiadau mewn gwestai a llawer mwy.
Cafodd llawer o’r gwobrau eu rhoi’n hael gan sefydliadau ledled Cymru gan gynnwys Savills, Azets UK, Darwin Gray a Thomas Carroll.
Gyda chymorth ein gwerthwyr cymunedol gwych, fe wnaethom ni werthu 1124 o docynnau gan godi cyfanswm o £2,248.
Os wnaethoch chi brynu tocyn, gallwch ddod o hyd i restr lawn o’r holl enillwyr ar ein gwefan.
Cymorth cymunedol
Daeth cymunedau ledled Cymru ynghyd i gefnogi pobl sy’n wynebu digartrefedd ar yr adeg yr oedd fwyaf ei angen.
Rydym ni’n hynod o ddiolchgar i bob grŵp, sefydliad ac unigolyn sydd wedi ein cefnogi dros y gaeaf hwn. Mae eich caredigrwydd, eich amser a’ch egni wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Dyma rai o’r grwpiau cymunedol gwych a fu’n ein cefnogi eleni:
- Bu Ysgol Gatholig y Santes Fair ym Mhen-y-bont yn casglu bwyd ar gyfer eu Rhoddion Cynhaeaf i bobl a oedd yn byw ar y stryd ym Mhen-y-bont.
- Cododd y micro fragdy, Bragdy Cybi yng Nghaergybi dros £200 yn eu noson ‘Bôbls a Bybls’.
- Bu Sefydliad y Merched Maerun yn gwerthu cacennau ac yn cynnal raffl, gan godi £753.10.
- Sim, Raj a Veer – teulu a roddodd nifer fawr o eitemau mawr eu hangen gan gynnwys sachau cysgu, dillad isaf, a ‘Pot Noodles’ i Bridgend Solutions.
- Rhoddodd Eglwys y Drindod ym Mhen-y-bont ar Ogwr £166, yn ogystal ag eitemau ymolchi, byrbrydau, tuniau, hetiau a menig
- Bu SPARK Prifysgol Caerdydd – Canolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion CARE yn gwerthu cacennau, gan godi £314.95.
- Rhoddodd Ysgol yr Archesgob, Pen-y-bont rodd sylweddol o fwyd, dillad a deunyddiau ymolchi.
- Cododd grŵp Cardiff Canton Singers dros £130 yn ystod taith o gwmpas tafarndai ym Mhontcanna.
Partneriaid corfforaethol yn gwneud gwahaniaeth
Derbyniodd yr ymgyrch gefnogaeth gan rwydwaith bwerus o gefnogwyr corfforaethol y mae eu cyfraniadau wedi helpu i ehangu ei gyrhaeddiad a’i effaith.
Dyma rai o’r sefydliadau gwych sydd wedi ein cefnogi eleni:
- Rhoddodd Dunraven Windows 12 bag cefn yn cynnwys hwdis, hetiau, sachau cysgu ac ati i Bridgend Solutions
- Rhoddodd bwyty Catch 22 ar Ynys Môn 27 Cinio Nadolig i Tai yn Gyntaf Ynys Môn
- Rhoddodd Kirby Group swm anhygoel o £10,000
- Rhoddodd Scottish Power rodd garedig o £5,000
- Rhoddodd British Gas rodd arbennig o £3,000
- Bu Rasoi yn Abertawe yn gweini prydau bwyd i breswylwyr Gorwelion a Thŷ Tom Jones
- Rhoddodd Devils Caerdydd 40 o deganau meddal i ABBA Pen-y-bont ar Ogwr o’u diwrnod Air the Bear
- Rhoddodd Dogs Trust 35 o anrhegion i gŵn yng Ngwasanaethau Cymorth Ynys Môn
- Cododd 13 o siopau Specsavers dros £1,600
Mae eu haelioni nid yn unig wedi hybu cyfanswm yr arian a godwyd, ond hefyd wedi helpu i ddod â chymorth hanfodol yn uniongyrchol i’r bobl sydd mewn angen.
Meddai Louisa Turner, Pennaeth Codi Arian ar ran The Wallich,
“Rydym wedi cael ein syfrdanu gan haelioni ein cefnogwyr – unigolion, busnesau a grwpiau cymunedol fel ei gilydd.
Mae nifer enfawr o bobl wedi cefnogi Apêl Gaeaf The Wallich yn 2025.
Mae’r caredigrwydd a ddangoswyd gan ein cefnogwyr, bod hynny drwy roddion ariannol neu fwyd a dillad, eisoes wedi gwella’r gefnogaeth yr ydym yn ei darparu i’r rhai sy’n profi digartrefedd ar draws Cymru yn ystod misoedd oeraf y gaeaf, a bydd yn parhau i atgyfnerthu ein cymorth.
Diolch i’n cymuned anhygoel o gefnogwyr sydd wedi dod ynghyd i’n helpu i ddod gam yn nes tuag at weld diwedd digartrefedd.”
Mae’r gefnogaeth yn parhau drwy’r flwyddyn
Er bod ymgyrch y gaeaf wedi dod i ben, mae’r angen am gymorth yn parhau drwy gydol y flwyddyn.
Mae gwasanaethau The Wallich yn gweithredu 365 diwrnod yr wythnos, gan helpu pobl i adael digartrefedd a datblygu sefydlogrwydd a gobaith at y dyfodol.
Ffyrdd i barhau i gefnogi
Trefnu rhodd reolaidd
Ymuno â Thîm Wallich mewn her neu ddigwyddiad codi arian
Cofrestru ar gyfer ein cylchlythyr
Gwirfoddoli yn eich cymuned
Codi ymwybyddiaeth am ddigartrefedd a dysgu am wasanaethau yn eich ardal leol