Her Scafell Pike …dringo mynydd uchaf Lloegr

21 Jul 2026

Dringodd Ben Roberts, ein Mentor Ymgysylltu a Lles yng Ngogledd Cymru, y mynydd uchaf yn Lloegr gyda defnyddwyr gwasanaethau The Wallich gyda chefnogaeth Rachael, ein Hyfforddwr Asedau yng Ngogledd Cymru a Jake Stocker, Gweithiwr Cymorth Gwasanaeth Lleisiant Cyffuriau ac Alcohol. Yma mae’n rhannu heriau ac uchafbwyntiau dringo Scafell Pike.

Daeth y cwestiwn yn fuan iawn ar ôl dychwelyd i’r fan fach ‘Ziggy’, a oedd wedi ei pharcio ar waelod llwybr Rhyd Ddu wrth i ni ddychwelyd.

Roedd hi’n 6pm ar ddiwrnod heulog o fis Ebrill. Roedd grŵp o bobl ar draws Gogledd Cymru newydd lwyddo i goncro copa’r Wyddfa, pawb wedi blino’n lân ond yn llawn egni ac yn fodlon eu byd. Roedd gwefr llwyddiant, cyffro a chyflawniad y tîm yn heintus, a chyn i fi allu gofyn a oedd pawb wedi mwynhau, roedden nhw’n canolbwyntio ar yr her nesaf.

“Allwn ni ddringo Ben Nevis nesa?”

gofynnodd rhywun, gydag awch amlwg am rywbeth mwy, ac adleisiodd gweddill y grŵp y cais yn frwdfrydig.

Roeddwn i wrth fy modd gyda’u hafiaith ac yn teimlo nad oeddwn i eisiau difetha eu gobeithion. Fe es i drwy’r broses o gynllunio her o’r fath ar unwaith, ac fe wnes i ymateb drwy awgrymu dewis arall a fyddai’n haws ei wireddu. “Beth am Scafell Pike? …mae’n un o 3 Chopa’r DU a’r mynydd uchaf yn Lloegr. Gadewch i ni weld sut mae hynny’n mynd, ac yna efallai y gallem ni ystyried Ben Nevis.”

textimgblock-img

Codi’n pebyll

Felly, ym mis Mehefin, roedd gennym fan fach yn llawn pobl ac offer ar y ffordd i Borrowdale i ddechrau ein hantur. Rachael, Jake a finnau yn y pen blaen, a chwech o bobl llawn cyffro yn y cefn, gyda’r bŵt yn llawn dop! Gwaeddodd rhywun eu bod nhw prin wedi cysgu’r noson gynt oherwydd eu bod mor nhw’n teimlo mor gyffrous.

textimgblock-img

Fe wnaethon ni godi’n pebyll ar safle gwersylla Seathwaite Farm, ar dop Borrowdale wedi’i hamgylchynu gan fryniau, gyda dŵr yn disgyn o’r ceunentydd a defaid yn pori o amgylch y pebyll. Yn teimlo’n nerfus am ragolygon o dywydd gwlyb, fe wnaethon ni gynnau’r barbeciw. A bwyta pwysau ein cyrff mewn selsig a byrgyrs (gyda rhywfaint o salad!), cyn paratoi cinio drannoeth, paned o goco a bant i’r gwely.

textimgblock-img

Amdani i’r copa

Fe wnaethon ni (y rhan fwyaf ohonom ni) ddeffro tua 6am a doedd y glaw dal heb gyrraedd, felly dyma ni’n tynnu’r pebyll ac yn coginio llwyth o fwyd i frecwast…mwy o selsig! Fe wnaethon ni adael y gwersyll erbyn 9am ar ôl cael golwg dda ar y mapiau a’r llwybr ar gyfer y diwrnod. Roedden ni’n mynd i fyny’r ‘llwybr coridor’, sy’n cael ei ystyried fel y llwybr mwyaf diddorol â’r golygfeydd gorau o blith y 5 prif lwybr i Scafell Pike.

textimgblock-img

Roedd cwpl o aelodau’r grŵp eisiau cymryd rôl yr arweinydd a’n llywio’n berffaith i fyny i Sty Head, lle cafwyd tamaid i’w fwyta ac i fwrw golwg ar locer y cit argyfwng achub mynydd. Doedden ni dal ddim yn gallu gweld y copa, ac roedd y glaw yn cadw draw.

textimgblock-img

Cymerodd dipyn o amser i gyrraedd y copa ac roedd hi’n dasg anodd. Roedd y lleithder yn uchel a’r tir yn serth, yn arw ac yn ddigyfaddawd, ond doedd neb yn cwyno. Ces i fy synnu gan y gwaith tîm a chefnogaeth pawb i’w gilydd, ac roedd rhywun wastad yng nghefn y criw i gefnogi pwy bynnag oedd yn ei chael hi’n fwyaf heriol ar y pryd.

textimgblock-img

Fe wnaethon ni gyrraedd y copa toc ar ôl 2.30pm i sŵn rhuo jetiau ymladd yn cylchdroi o’n hamgylch yn y dyffrynnoedd oddi tanom, yna fe ddaethon ni o hyd i loches i gael rhywfaint o fwyd a LOT o felysion. Wedi cael ail wynt, fe gychwynnon ni ar y llwybr i lawr, dros rywfaint o dir technegol, ac yn y pen draw, dilyn y Grains Gill hyfryd nôl i’r maes gwersylla a adawyd 9 awr ynghynt.

Dim ond yn yr hanner awr olaf y cyrhaeddodd y glaw a bu’n rhaid gwisgo’r siacedi…..mor lwcus! Nôl yn Ziggy y fan fach unwaith eto, fe welson ni grwpiau Dug Caeredin yn gwersylla’n y glaw. Y farn gyffredinol oedd ein bod ni’n falch o fod yn mynd adref ac nad oedd yn rhaid i ni wersylla am noson arall!

Atgofion parhaol

Wrth wrando ar y sgwrs yng nghefn y fan, gallem glywed sylwadau am ba mor braf oedd dod i adnabod pawb yn well, sut roedden nhw wrth eu bodd yn helpu ei gilydd i osod eu pebyll a chyd-wersylla. Cafwyd sylw ei fod ‘yn brafiach na’r Wyddfa’ ac y byddai’r daith yn creu atgofion parhaol.

Y sylw a greodd yr argraff fwyaf oedd pan ddywedodd un o’r grŵp y byddai adref yn yfed pe na bai wedi dod ar y daith, oherwydd bod ei ffrind wedi rhoi £20 a oedd yn ddyledus iddo ac nad oedd ganddo ddim byd arall i’w wneud.

textimgblock-img

Mae’n bleser gallu cefnogi pobl i gyflawni’r heriau hyn, ac rydw i wastad yn cael fy syfrdanu gan eu hawch am antur a’r gwydnwch sydd ganddyn nhw. Anaml y byddaf yn clywed cwynion am flinder neu boen, ac mae’r gefnogaeth maen nhw’n ei rhoi i’w gilydd yn galonogol.

Gymerodd hi ddim yn hir nes i’r cais cyntaf gyrraedd…

“Pryd allwn ni fentro i Ben Nevis?”

Mae’n well i ni ddechrau trefnu, felly cadwch lygad!