Gogledd Cymru yn uno i fynd i’r afael hefo’r cynnydd yn y defnydd o getamin ymhlith pobl ifanc

28 Jul 2026

“Roeddwn i’n meddwl fy mod i’n mynd i farw, roeddwn i’n meddwl fy mod i’n mynd i fod yn ystadegyn”

Geiriau dyn wrth wraidd ymgyrch newydd bwerus sy’n anelu at wynebu’r defnydd cynyddol o getamin ymhlith pobl ifanc.

Mae sefydliadau ledled y rhanbarth wedi ymuno er mwyn lansio ‘I Wish Someone Had Told Me’, ymgyrch galed, hynod bersonol wedi’i chynllunio nid yn unig i hysbysu, ond i gysylltu. Wrth ei chalon mae straeon go iawn. Adroddiadau cignoeth a gonest gan y rhai sydd wedi profi effaith defnydd cetamin yn uniongyrchol.

Brofiad bywyd go iawn

Yn ganolog i’r ymgyrch mae ffilm ddogfennol sef “Bradley’s Story”. Ynddi, mae Bradley, cyn-ddefnyddiwr cetamin o’r Rhyl, yn siarad yn onest am sut y dechreuodd ei ddefnydd o gyffuriau, beth wnaeth ei ddenu i mewn, a’r canlyniadau dinistriol a ddilynodd. Mae ei daith, o ddefnydd cynnar i gaethiwed ac adferiad, yn cynnig cipolwg prin ac onest o’r realiti y tu ôl i’r hyn sy’n aml yn cael ei ystyried fel “cyffur diniwed”.

Mae ei stori yn cael ei ategu gan gyfres o negeseuon ymgyrchu trawiadol yn deillio o brofiadau bywyd go iawn. Mae dyfyniadau gan bobl ifanc a’u rhieni a’u gofalwyr – fel “Bechod na fuasai rhywun wedi dweud wrtha i y byddwn i’n gadael y brifysgol ” i’w gweld ar draws y cyfryngau cymdeithasol, mewn print ac ar lwyfannau digidol. Bwriad y negeseuon hyn ydy sbarduno sgyrsiau ac annog adlewyrchu cyn i arbrofi droi’n rhywbeth mwy difrifol.

Person ifanc yn gwisgo hwdi yn eistedd ar siglen, gyda'r geiriau Tasa rhywun mond 'di deud wrtha i... pa mor anodd oedd hi i stopio unwaith roeddwn i wedi dechrau cymryd K (cetamin)

Mae’r ymgyrch yn ymdrech ar y cyd rhwng Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Ychwanegol Adferiad, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Iechyd Cyhoeddus Cymru, The Wallich, House of the Vivienne, Flintshire Sorted, In2change, Barnardos, Be’ Di’r Sgôr a phartneriaid eraill. Hefo’i gilydd, maen nhw’n anelu codi ymwybyddiaeth o beryglon cudd cetamin, helpu ymyrraeth gynnar, ac atal y niwed tymor hir sy’n gysylltiedig hefo’i ddefnydd.

Mae’r cynnydd yn y defnydd o’r cyffur Dosbarth B, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, wedi cael cyhoeddusrwydd eang yn y cyfryngau yn ystod y blynyddoedd diwethaf – hefo derbyniadau ED sy’n gysylltiedig hefo cetamin yng Ngogledd Cymru yn codi o 241 yn 2023 i 372 yn 2024 a 412 yn 2025. Nid yw’n syndod bod yr effaith y mae’r defnydd cynyddol hwn yn ei chael ar sefydliadau’r sector cyhoeddus yn ogystal â gwasanaethau cymorth cyffuriau ac alcohol yn eang.

Trwy adrodd straeon pwerus, allgymorth cymunedol, a chynnwys sy’n tynnu sylw, mae’r ymgyrch hon yn rhoi lleisiau go iawn ar flaen y gad, gan atgoffa cynulleidfaoedd bod stori y tu ôl i bob ystadegyn.

Pryderon ynghylch cetamin

Dywedodd Gareth Evans, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru:

“Mae camddefnyddio cetamin yn cael effaith ddinistriol ar bobl ifanc ledled Gogledd Cymru, a ‘da ni’n gweld yn uniongyrchol y risgiau difrifol y mae nhw’n eu creu i’w hiechyd, eu diogelwch a’u dyfodol.

“Trwy rannu’r profiadau real hyn a’r wybodaeth glir, ‘da ni’n gobeithio annog sgyrsiau cynnar, ymyrraeth gynnar, ac atal bywydau rhag cael eu niweidio.

“Ni fyddai’r gwaith hwn yn bosibl heb ymrwymiad ein hasiantaethau partner ni, sy’n dod â’u harbenigedd, eu tosturi a’u penderfyniad nhw i fynd i’r afael hefo’r mater hwn o bob ongl. Hoffwn ddiolch i bob sefydliad sy’n cymryd rhan am eu hymroddiad parhaus nhw i’n helpu ni warchod ein pobl ifanc ni a helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf.”

Dywedodd Dr Jane Moore, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae clinigwyr ar draws ein gwasanaethau ni yng Ngogledd Cymru wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y cleifion sydd hefo cyflyrau sy’n gysylltiedig hefo cetamin, gan gynnwys pobl ifanc sydd wedi datblygu problemau iechyd corfforol a meddyliol parhaol sy’n newid bywydau.

“Mae’n hanfodol y gall pobl ifanc a rhieni gael gwybodaeth glir a gonest am y niwed y gall cetamin ei achosi o leoedd y gallen nhw ymddiried ynddyn nhw – a dyna pam ‘da ni’n gweithio hefo sefydliadau eraill ledled Gogledd Cymru i gefnogi’r ymgyrch atal bwysig hon.”

Dywedodd Mike Cooper, Cydlynydd Gwaith Ieuenctid yn In2change, tîm cyffuriau ac alcohol pobl ifanc Wrecsam⁠: “‘Da ni wedi gweld cynnydd pryderus yn nifer y bobl ifanc sy’n cael eu cyfeirio at ein gwasanaeth ni hefo cetamin wedi’i restru fel y prif sylwedd – patrwm sydd wedi tyfu’n sylweddol rhwng 2021 a 2025. Mewn ymateb, ‘da ni’n cydweithio’n agos hefo asiantaethau partner er mwyn ymdrin hefo’r mater yn uniongyrchol.

“Mae ein hymdriniaeth ni’n cynnwys cyflwyno sesiynau addysg cyffuriau cyffredinol mewn ysgolion ledled Wrecsam, cynnig cymorth un i un wedi’i deilwra sy’n cymryd golwg gyfannol ar anghenion pob un ifanc, a darparu cyngor ymarferol ynghylch lleihau niwed, atal llithro’n ôl, a chadw’n saff.

“Da ni hefyd yn cydweithio hefo’r Gwasanaethau Oedolion i helpu’r rhai sy’n 18 oed a hŷn, cynnal gweithgareddau dargyfeirio i gynnig dewisiadau amgen cadarnhaol, a rhoi hyfforddiant arbenigol i weithwyr proffesiynol fel eu bod nhw’n gallu ymateb yn well i bryderon sy’n gysylltiedig hefo cetamin. Hefo’n gilydd, ‘da ni wedi ymrwymo helpu pobl ifanc wneud dewisiadau cytbwys ac aros yn saff.”

Cymorth & Chyngor

Mae rhieni a gofalwyr yn cael eu hannog i siarad hefo’u plant am beryglon defnyddio cetamin. Gallwch ddysgu am yr ymgyrch a gwylio Bradley’s Story ar y gwefan Adfeiriad.

Os ‘da chi, neu rywun ‘da chi’n ei adnabod yn cael trafferth hefo dibyniaeth ar getamin, neu eisiau gwybod mwy, gallwch ymweld â gwefan DAN 24/7

Mae Gwasanaeth Llesiant Cyffuriau ac Alcohol The Wallich yn darparu mynediad agored at gymorth cyffuriau ac alcohol ar draws Wrecsam a Sir y Fflint a Conwy a Sir Ddinbych

Mae ein Grŵp Cymorth Cetamin yn lle diogel a chefnogol i bobl sy’n defnyddio cetamin rannu a dysgu. Bob nos Fercher 6pm – 7pm, Tŷ Croeso, 31A Ffordd Grosvenor, Wrecsam, LL11 1BT