Gwasanaeth Cymorth lle bo’r angen Powys

Mae The Wallich wedi ymrwymo i roi diwedd ar ddigartrefedd ym Mhowys. Rydym ni’n helpu pobl sydd mewn perygl o golli eu cartref drwy roi cyngor, cymorth a sgiliau bywyd.

Mae ein tîm profiadol o uwch weithwyr cymorth sydd wedi’u hyfforddi’n dda yn gweithio gyda phreswylwyr i rymuso, sefydlu neu adennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt.

Pa gymorth sydd ar gael?

Rydym ni’n cefnogi pobl 18+ oed. Mae’r cymorth yn cynnwys:

textimgblock-img

• Cymorth gyda thai
• Llenwi ffurflenni
• Cymorth gyda cheisiadau am fudd-daliadau
• Siarad â’ch landlord
• Cyfeirio at gymorth arbenigol
• Cymorth iechyd meddwl a llesiant
• Creu a chefnogi llwybrau at gyflogaeth neu hyfforddiant

Beth i’w ddisgwyl gan The Wallich ym Mhowys

• Cymorth heb feirniadaeth
• Tîm staff agos-atoch ac ymroddedig
• Rydym ni’n gweithio gyda chi a’ch anghenion
• Proses gynllunio glir gyda’r cleient yn ganolog

Cymorth tai ledled Powys

Mae pob un o’n 46 arbenigwr tai ledled Powys yn helpu pobl mewn ardaloedd gan gynnwys:

Gogledd-ddwyrain Powys (Llanfyllin, y Trallwng)
Gogledd-orllewin a Chanolbarth Powys (Machynlleth, Llanfair Caereinion, Y Drenewydd, Llanidloes)
Canolbarth Powys (Rhayader, Llandridod, Llanfair-ym-Muallt, Llanwrtyd, Trefyclo, Llanandras)
De Powys (Aberhonddu, Talgarth, Crucywel, Ystradgynlais)

Sut mae cael cefnogaeth

Llenwch y ffurflen hon i gyfeirio eich hun neu rywun arall ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Housing Support Grant logo