Prosiect Marw’n Ddigartref yn dweud bod 1,720 o bobl – gan gynnwys 51 o blant – wedi marw tra’n ddigartref yn 2025

07 Oct 2026

A man in a hood sitting on a bench.

 

Yn ôl ymchwil annibynnol gan yr Amgueddfa Digartrefedd mae 10,000 o bobl yn y DU wedi marw tra’n dal yn ddigartref, ers 2017

Mae The Wallich wedi gweithio gyda’r Amgueddfa Digartrefedd i ddweud pryd mae pobl sydd wedi cael eu cefnogi gan yr elusen wedi marw, gan helpu i daflu goleuni ar nifer y bobl dan sylw yng Nghymru.

Y canfyddiadau

  • Bu farw 1,720 o bobl yn ddigartref yn 2025 – 51 ohonynt yn blant.
  • Canfu’r Prosiect Marw’n Ddigartref fod marwolaethau yn y DU wedi codi 6.8% yn 2025 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Roedd dros 30% o’r marwolaethau yn 2025 wedi digwydd naill ai ar y strydoedd neu mewn llety dros dro.
  • Canfu’r astudiaeth fod 1 o bob 10 o farwolaethau ar goll o gofnodion awdurdodau lleol.
  • ‘Marwolaethau anobaith’ a achosir gan gyffuriau, alcohol neu hunanladdiad yw’r rhai mwyaf cyffredin (52%).
  • Canfu dull astudiaeth yr Amgueddfa Digartrefedd fwy o bobl na methodoleg y Swyddfa Ystadegau Gwladol o gofnodi ystadegau marwolaethau tra’n ddigartrefedd.

Dywedodd Jamie-Lee Cole, Cyfathrebu Strategol The Wallich:

“Mae’n dorcalonnus, ac yn gywilydd cenedlaethol, fod cynifer o oedolion yn colli eu bywydau yn ystod cyfnod o straen ac ansefydlogrwydd mawr. A does dim geiriau i ddisgrifio’r difrifoldeb fod cynifer o blant wedi’u cofnodi yn yr ymchwiliad. Mae dyletswydd arnom ni i sicrhau bod gan bob plentyn gartref diogel ac i’w hamddiffyn rhag niwed.

“Mae’r argyfwng tai ledled y DU yn real ac nid yw nifer y bobl a’r teuluoedd heb gartref parhaol yn dderbyniol. Fe wnawn ni barhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mwy o dai fforddiadwy, a gosod cynllun clir ar gyfer rhoi diwedd ar gysgu allan a phob math o ddigartrefedd.

“Mae modd atal marwolaeth oherwydd cyffuriau, alcohol a hunanladdiad yn llwyr gyda’r gefnogaeth gywir. Mae gwella’r ddarpariaeth iechyd meddwl a pholisi defnyddio sylweddau gonest sy’n canolbwyntio ar leihau niwed – yn hytrach na throseddoli – yn achub bywydau.

“Er bod pobl yn sownd yn rhigol digartrefedd, mae’n rhaid i ni ofalu’n well am bobl wrth iddynt fynd drwy’r trawma hwnnw – mae’n amlwg o’r Prosiect Marw’n Ddigartref fod eu bywydau’n dibynnu ar hynny.”

Emotional young female looking out her window.

 

Plant a fu farw tra oeddent yn ddigartref

Mae un o’r canfyddiadau newydd mwyaf arwyddocaol yn ymwneud â phlant.

Wrth weithio gyda’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Farwolaethau Plant, roedd y prosiect wedi nodi bod 51 o blant wedi marw tra’n byw mewn llety dros dro yn ystod 2025, y nifer uchaf erioed a adroddwyd drwy’r Prosiect Marw’n Ddigartref.

Dim ond saith o’r plant hynny oedd yn hysbys drwy lwybrau adrodd digartrefedd awdurdodau lleol, sy’n codi pryderon difrifol ynglŷn â sut mae adrannau awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd i ddiogelu plant digartref.

Roedd 63 y cant o’r plant a fu farw yn blant o dan flwydd oed.

Mae ymchwiliad yr Amgueddfa Digartrefedd yn argymell y dylai fod yn ofynnol i adrannau tai awdurdodau lleol gofnodi marwolaeth pob plentyn sy’n digwydd mewn llety dros dro ac i gyhoeddi’r gwersi am sut y gellir atal marwolaethau yn y dyfodol.

textimgblock-img

Cofio’r rhai a gollwyd

Y tu ôl i bob ystadegyn mae person a’i fywyd wedi’i dorri’n fyr tra oedd yn ddigartref, yn aml mewn amgylchiadau yn gysylltiedig â thlodi, trawma, iechyd gwael, llety annigonol, ynysu cymdeithasol a methiannau systemau cymorth.

Dylai pob person gael ei gofio â thosturi a chariad.

Bydd yr Amgueddfa Ddigartrefedd yn cynnal gwylnos gyferbyn â Stryd Downing ar 15 Hydref lle bydd enwau’r rhai hysbys yn cael eu . Mae rhagor o fanylion am hyn ar gael yma a gobeithio y byddwch yn ymuno â ni.

Mae canfyddiadau 2025 yn cael eu rhyddhau ar adeg pan fo sylw gwleidyddol cenedlaethol yn canolbwyntio fwyfwy ar ddigartrefedd a chysgu allan. Gobeithio y bydd y canfyddiadau hyn yn sbarduno mwy o weithredu. Mae ein hymchwiliad yn tynnu sylw at ganlyniadau dynol methiant systemig, gan ddweud stori marwolaethau y gellid bod wedi’u hatal pe bai buddsoddiad hirdymor mewn tai o ansawdd, gofal iechyd a chymorth wedi cael blaenoriaeth.

 

Cymorth a chefnogaeth i bobl sy’n profi digartrefedd

Os ydych chi’n profi digartrefedd ac yn cael trafferth gwybod beth i’w wneud nesaf, y cam cyntaf yw gofyn am help gan y gwasanaethau sy’n gallu eich helpu.

Ewch i’n tudalen ‘Cymorth a Chyngor’ i gael rhagor o wybodaeth.

  • Dywedwch wrth eich cyngor lleol
  • Cysylltwch â gwasanaeth lleol The Wallich yn eich ardal
  • Cysylltwch â Shelter Cymru i gael cyngor
  • Ffoniwch y Samariaid am gymorth iechyd meddwl