Hostel Tŷ Croeso

Wrth i amser symud ymlaen, rydym ninnau hefyd yn symud ymlaen. Nid yw Tŷ Croeso yn cael ei weithredu gan The Wallich bellach

Os ydych chi mewn perygl o fod yn ddigartref, neu’n ddigartref yng Nghaerffili ar hyn o bryd, cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

 


 

Hostel sy’n darparu llety dros dro mewn argyfwng i bobl sydd o bosibl yn aros am gymorth tai gan yr adran dai leol yw hostel Tŷ Croeso.

Mae gan hostel Tŷ Croeso ddeg stiwdio annibynnol yn ogystal ag ystafell gyffredin ar gyfer preswylwyr sydd wedi bod yn ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Dyrennir lleoedd yn yr hostel gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Cefnogir preswylwyr gan staff yn y Wallich.

Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed.

Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.

Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, fel hostel Tŷ Croeso yng Nghaerffili, a chyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.