Cronfa ddata aml-asiantaethol yw Rhwydwaith Gwybodaeth Digartrefedd ar y Stryd, neu SHIN. Mae’n cofnodi gwybodaeth am bobl sy’n cysgu allan yng Nghymru.
Mae’r system hon yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a dyma yw ffynhonnell wybodaeth fwyaf manwl a chynhwysfawr am gysgu allan yng Nghymru.
Ar hyn o bryd yng Nghymru, mae’r unig ffigurau cenedlaethol am bobl sy’n cysgu allan yn dod o gyfrifiad cenedlaethol o faint o bobl sy’n cysgu allan mewn un noson a dros gyfnod o bythefnos – ac mae’r cyfrifiad hwn yn digwydd tua mis Hydref fel arfer.
Er bod hyn yn dangos yn fras faint o bobl sy’n byw ar y stryd, mae gwendidau wrth gasglu data yn y ffordd hon.
Gwendidau’r dull presennol o gyfrif:
Bydd SHIN yn cofnodi data ar lefel unigol am unrhyw un sy’n cael ei weld yn cysgu allan, neu’n cysgu mewn llety argyfwng yng Nghymru.
Mae llawer o staff rheng flaen yn gweithio ar y system bob dydd, ac oherwydd hynny byddan nhw’n gallu adrodd yn fyw ar unrhyw wybodaeth a roddir yn y system.
Bydd SHIN yn galluogi defnyddwyr – sef asiantaethau proffesiynol – i rannu gwybodaeth am anghenion cymorth pobl ac am unrhyw waith maen nhw wedi’i wneud.
Mae SHIN yn helpu i wneud yn siŵr y bydd pobl yn derbyn y cymorth mwyaf priodol yn brydlon, ac na fydd ymdrechion yn cael eu dyblu.
Bydd hyn yn gwella arferion gweithio ar y cyd rhwng asiantaethau ac yn golygu na fydd angen i bobl ailadrodd eu hunain pan fyddant yn derbyn cymorth gan sefydliadau gwahanol.
Hefyd, gellir defnyddio adroddiadau’r system ar lefel weithredol drwy gomisiynu cyrff i fonitro effeithiolrwydd eu gwasanaethau.
Ar lefel mwy strategol, gall pobl sy’n llunio polisïau ddefnyddio’r adroddiadau i gasglu gwybodaeth am dueddiadau yn y boblogaeth sy’n ddigartref ac i adnabod anghenion sy’n codi.
Mae’n wefan, yn ap symudol ac yn llinell ffôn sy’n galluogi’r cyhoedd i roi gwybod i awdurdodau lleol a gwasanaethau allgymorth ar strydoedd Cymru a Lloegr am bobl y maen nhw wedi’u gweld yn cysgu allan.
Drwy’r gwasanaeth gall y cyhoedd wneud rhywbeth i helpu, a dyma’r cam cyntaf at wneud yn siŵr bod y person maen nhw’n poeni amdano mewn cysylltiad â’r cymorth sydd ar gael iddyn nhw.
Os gallwch chi wneud rhywbeth heddiw, lawrlwythwch yr ap StreetLink am ddim ar iOS neu Google Play.