Yma, mae’n sôn am ei brofiad yn actio yn ‘The Chimes’, addasiad cerddorol o ail stori’r Nadolig gan Charles Dickins, lle cafodd cleientiaid gyfle i berfformio ochr yn ochr ag actorion proffesiynol.
“Fyddai neb wedi gallu rhagweld y graddau y gwnaethom ni elwa ar y profiad yma, yn sicr nid fi’n bersonol.
Roedd y gweithdai’n dechrau gydag ymarferion i gynhesu’r corff a’r llais. Er nad oeddwn yn sylweddoli ar y pryd, roedd hon yn broses ddysgu newydd a dwys iawn, a fyddai’n gorffen gyda chyfres o sioeau yr oeddwn yn rhan ynddynt.
Roedd y gweithdai’n sicrhau ein bod yn dysgu’n gyflym, ac eto roeddent yn cymryd ein diffyg profiad i ystyriaeth. Roedd y sesiynau cynhesu’n cael eu cynnal yn rheolaidd, yn ogystal ag ymarfer ac ailadrodd rhannau o’r testun. Rwy’n dal yn ddiolchgar am hyn heddiw, gan fy mod yn defnyddio’r dull i ddysgu rhywbeth arall.
Yn sydyn fy nharo gan bwl o iselder a gwaethygodd fy nghyflwr yn gyflym.
Eto, er gwaethaf hyn, llwyddais i fynd i’r ymarferion, ond aeth popeth arall ar chwâl. Ciliais o gymdeithas a’r unig beth y gallwn feddwl amdano oedd lladd fy hun. O ganlyniad doeddwn i ddim eisiau mynd allan y rhan fwyaf o’r amser ac roeddwn wedi fy llethu gan bryder.
Roedd yn ymdrech fawr mynd i’r ymarferion ambell ddiwrnod. Ond pan oeddwn yn actio sylweddolais fod yr iselder yn diflannu.
Mae cerdded allan o flaen cynulleidfa fyw yn gallu bod yn frawychus ac yn brawf i’r nerfau.
Dros yr wythnos, daeth yn haws. Ar y noson olaf mwynheais fy hun, ymlaciais yn llwyr, canais bob nodyn a llefarais bob gair yn berffaith.
Roeddwn yn mwynhau sefyll ochr yn ochr â’r actorion, fel un ohonyn nhw, yn fy llygaid fy hun ac yn eu golwg hwythau.
Diolch i’n cynhyrchydd, cyfarwyddwr a’r athrylith Judith, am roi’r profiad yma i ni. Bydd yn aros yn fy nghof am byth.
Diolch i bawb a chwaraeodd ran. Yn enwedig Emma, oedd yn galw heibio bob dydd i weld os oeddwn yn fyw ac i weld os oeddwn wedi bwyta. I Ozzy a ddaeth yn ffrind yn ystod y cynhyrchiad.
Deuthum i gysylltiad â The Wallich pan oeddwn yn ddigartref, ond bellach mae’n edrych yn debyg, pan ddaw’r amser, y byddaf yn actor proffesiynol. Dyna beth yw tro ar fyd.
Buaswn yn argymell y profiad yma i unrhyw un. Mae’n helpu i greu ymdeimlad o hunan werth yn ogystal ag ennyn ymateb pobl nad oedd ganddyn nhw lawer o feddwl o bobl sydd wedi bod yn ddigartref.”