Isod ceir trawsgrifiad o’u sgwrs ddilys, gydag Ali yn cyfieithu rhai cwestiynau ar gyfer Stefan.
Stefan: “Dw i’n byw ar y stryd drwy’r amser. Does gen i ddim ffrindiau ar hyn o bryd. Dw i’n byw ar fy mhen fy hun drwy’r amser ar y stryd.”
Ali: “Tebyg iawn, ar y stryd ond mae gen i ffrindiau. Felly, mi fuaswn i’n gallu mynd o’r naill soffa i’r llall am noson neu ddwy mewn tŷ. Mae’r tair blynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd i mi. Yn byw ar y strydoedd neu mewn pabell.”
Stefan: “Dw i’n teimlo’n ddiogel, yn fwy diogel. Dw i’n cael cefnogaeth dda. Mae’n golygu mod i’n cael mwy o gwsg.”
Ali: “Pan wnes i gyrraedd gyntaf, roeddwn i’n yfed llawer. Mae yna rai pethau nad ydw i’n eu hoffi, fel bod yn ôl cyn 10pm, ond dw i’n deall pam eu bod nhw’n cadw at hynny gan fod llawer o wahanol bobl yma. Mae COVID o gwmpas o hyd, felly mae’n gas gen i aros yn y caban drwy’r amser, mae’n well gen i fod allan. Ar y cyfan, dw i’n hapus gyda’r gefnogaeth dw i’n ei chael yma, a dw i’n ddiolchgar amdani.”
Stefan: “Mae yna drefn i fy mywyd eto, oherwydd mae’n rhaid i mi fod yn ôl erbyn 10pm. Dw i’n teimlo’n hapusach.
Cyn i mi fod yma doedd gen i ddim byd tebyg i gredyd cynhwysol ond nawr mae gen i’r holl bethau yma. Dw i’n teimlo bod pethau’n dechrau cael eu datrys. Amser a ddengys beth sy’n digwydd nesaf.”
Ali: “Dw i’n teimlo’n dawelach ynof fy hun. Roeddwn i’n arfer byw o ddydd i ddydd. Doedd gen i ddim ffôn, dim arian, roeddwn i mewn dyled fawr fel y gwyddoch chi. Ond nawr mae pethau’n dechrau gwella.
Dydw i ddim eisiau honni bod fy mhroblemau gydag alcohol wedi mynd, oherwydd dydi hynny ddim yn wir, ond dw i’n teimlo’n gryfach, yn fwy cadarnhaol o’i gymharu ag ychydig fisoedd yn ôl.
Dw i’n mynd ar y stryd bellach fel pawb arall, wedi eillio, cael cawod a noson o gwsg. Heb hyn, dw i’n meddwl y byddwn i wedi lladd fy hun. Dw i’n teimlo’n fwy diogel yma oherwydd bod staff yn gweithio drwy’r amser, ddydd a nos.
Felly, os oes gen i broblem gyda fy nghymdogion, os oes rhywun yn dadlau gyda mi – mae rhywun yma.”
Stefan: “Dw i wedi byw drwy dri gaeaf ar y stryd. Roedd y tro cyntaf yn drasiedi. Yr eildro roeddwn i’n gwybod beth oedd yn rhaid i mi ei wneud i gadw’n ddiogel ar y stryd. Weithiau, roeddwn i’n cael trafferth gyda fy iechyd meddwl. Dydw i ddim yn credu pobl sy’n dweud eu bod nhw wedi byw 12 mlynedd ar y strydoedd, mae’n galed.
Dw i’n cysgu yn y gaeaf yn y strydoedd heb sach cysgu. Byddwn i’n deffro ac yn crio oherwydd fy mod i mor oer. Byddwn i’n deffro ac yn eistedd ar y fainc ac yn cerdded o gwmpas gan fy mod i ddim yn gallu cadw’n gynnes.”
Ali: “Mae pob diwrnod yn frwydr ar y strydoedd. Mi geisiodd rhywun fy llosgi. Pan oedd rhywun yn cerdded heibio, roeddech chi’n deffro.”
Stefan: “Mae’n fwy cyfforddus yma, dyma fy lle i. Dydw i ddim yn meddwl llawer am ddyfodol i fod yn onest, ond mi hoffwn i gael swydd unwaith eto. Efallai ar ôl COVID. Pan fydd COVID yn dod i ben, hoffwn i fynd i weld fy mrawd yn Iwerddon. Does neb yng Ngwlad Pwyl yn gwybod fy mod i’n ddigartref.
Cyn COVID a chyn fy mod i ar y strydoedd, bob tro yr oeddwn i’n ffonio adref roeddwn i’n dweud bod popeth yn iawn, does neb yn gwybod dim. Efallai un diwrnod yn y dyfodol, fe fydda i’n gallu symud at fy mrawd yn Iwerddon.”
Ali: “[Dw i wedi] profi hiliaeth ar y strydoedd. Dw i wedi bod i sawl gwlad ond mae pobl yn gallu bod yn gas iawn yma. Fy mreuddwyd ar gyfer y dyfodol yw siarad Saesneg gwell, dod o hyd i swydd, byw gyda fy merch yn yr Alban, cael rhyw fath o wyliau. Dyma fy mreuddwyd.
Efallai yn y dyfodol, cyfarfod rhywun, setlo i lawr – dim ar hyn o bryd, mae’n codi ofn arna i, ond efallai yn y dyfodol bydd popeth yn newid.”
*Ffugenwau yw Ali a Stefan i ddiogelu hunaniaeth y cleientiaid