Sir y Fflint
glanrafon@thewallich.net
01244 257749
I bobl sy’n wynebu digartrefedd yn Sir y Fflint.
Mae gan Ddarpariaeth Gwelyau Brys Glanrafon 23 caban annibynnol gyda chyfleusterau
Gall y gwasanaethau hefyd ddarparu llety i hyd at dri unigolyn yn y prif adeilad. Mae gan bob unigolyn ei ystafell ei hun a mynediad at ei ystafell ymolchi ei hun.
Yn gyffredinol, caiff y llety yn y prif adeilad ei ddefnyddio ar gyfer y rheini sydd ag anghenion mwy cymhleth neu a allai fod angen cymorth ychwanegol.
Yn ogystal â chynhesrwydd, diogelwch a bwyd, mae’r preswylwyr yn cael mynediad at weithiwr cymorth ac yn cael eu cyfeirio at atebion mwy hirdymor er mwyn iddynt allu dianc o’r strydoedd.
Mae’r cymorth yn cynnwys
Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed.
Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.
Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, fel Darpariaeth Gwelyau Brys Glanrafon yn Sir y Fflint, a chyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.