Yn 51 oed, sylweddolodd Ben* fod angen cymorth arno o ran ei les, felly daeth i The Wallich.
O ganlyniad i gyflwr gwael ei iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau nid oedd Ben yn gallu delio â bywyd o ddydd i ddydd.
Roedd Gwasanaeth Atal a Lles Abertawe (PAWS) The Wallich yn gallu gweithio gyda Ben i ddechrau gwella.
Dyma hanes Ben
“Roedd fy iechyd yn wael ac roeddwn yn meddwl am ladd fy hun. Roeddwn i’n dioddef o iselder.
Doeddwn i’n mynd i unman a doedd neb am fy helpu. Roeddwn i’n gaeth i gyffuriau a doedd gen i ddim arian na bwyd.
Roeddwn i’n cael trafferth gyda fy iechyd a fy ngallu i symud a doeddwn i ddim yn gallu ymdopi â byw yn fy fflat.”
“Fe wnaeth Fion, fy weithiwr cymorth dynnu’r pwysau oddi arna i a rhoi help i mi wneud pethau nad oeddwn i’n gwybod sut i’w gwneud.
Helpodd fi i gael parseli bwyd a symud i fflat gwell wrth ymyl fy nheulu.
Roedd hi bob amser yn cymryd yr amser i siarad a gwrando arna i a gadael i mi rannu fy mhryderon. Fe wnaeth hi wella fy iechyd meddwl yn fawr.
Dw i wedi cuddio fy mhroblem gyffuriau ers blynyddoedd. Fy ngweithiwr cymorth oedd y person cyntaf i mi siaradais â hi am y peth, a helpodd fi i gael mynediad at wasanaethau.
Am y tro cyntaf ers 20 mlynedd, dw i’n rhydd o gyffuriau.”
“Dw i wrth fy modd â fy fflat newydd ac mae fy iechyd meddwl yn well.
Dw i’n gwella gyda chymorth fy ngweithiwr cymorth a fy ngweithiwr o’r Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol (CDAT).
Dw i’n teimlo bod gen i reolaeth dros bethau a dw i’n gwerthfawrogi’n fawr yr holl gymorth dw i wedi’i gael.
Dw i am barhau i beidio â defnyddio cyffuriau. Oherwydd afiechyd, does gen i ddim llawer o amser ar ôl i fyw a dw i eisiau gwneud y gorau ohono.
Dw i’n teimlo’n fwy cadarnhaol am fy nyfodol.
Heb The Wallich, fyddwn i ddim lle ydw i nawr. Maen nhw wedi gwella fy iechyd meddwl a fy amodau byw yn fawr ac wedi fy helpu i ymdopi â fy iechyd gwael.”
“Pan wnes i gyfarfod Ben am y tro cyntaf, roedd o’n cael trafferth gyda’i iechyd corfforol a meddyliol a’i gaethiwed i gyffuriau.
Teimlai ei fod wedi’i lethu gan ddyledion, ôl-ddyledion rhent, ymddangosiadau llys ac amodau byw gwael.
Allai o ddim wynebu agor ei bost na mynd i apwyntiadau ar ei ben ei hun.
Ar ôl misoedd o gefnogaeth, mae wedi ymgysylltu’n dda ac wedi cymryd camau enfawr i weddnewid ei fywyd.
Dw i wedi gweld newidiadau cadarnhaol yn ei hwyliau a’i les.
Mae ei hyder i ddelio ag anawsterau yn parhau i gynyddu ac erbyn hyn mae ganddo agwedd gadarnhaol tuag at fywyd.
Mae wedi bod yn bleser gweithio gydag ef.”
*Ffugenw yw Ben i ddiogelu hunaniaeth y cleient
Mae The Wallich yn gweithio ledled Cymru i helpu pobl sy’n wynebu digartrefedd a mynd i’r afael â materion sy’n rhoi pobl mewn mwy o berygl o fod yn ddigartref.
I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Atal a Lles Abertawe (PAWS).