Abertawe
swanseaPAWS@thewallich.net
01792 957910
A ydych chi’n ddigartref, mewn perygl o fod yn ddigartref neu’n cael trafferth cynnal eich cartref?
Mae Gwasanaeth Atal a Llesiant Abertawe (PAWS) yma i’ch helpu chi i reoli a chynnal eich llety.
Trwy ddarparu cymorth sydd wedi’i deilwra’n unol â’ch anghenion, eich helpu i feithrin hyder a gwella eich amgylchiadau ar yr amser priodol, yn y lle priodol yn ôl eich pwysau.
Rydym yn cydnabod y gall fod angen ystod eang o gymorth i’ch helpu i gynnal eich cartref, felly mae ein gwasanaeth cefnogi yn cynnig amrywiaeth eang o gymorth mewn ffordd sy’n bersonol i chi.
Mae cymorth ar gael gan The Wallich os ydych yn byw yn Ne Abertawe (porffor) a gan Caerlas os ydych yn byw yng Ngogledd Abertawe (gwyrdd).
Mae’r ardaloedd yma’n cael eu dangos yn y map isod:

Gall y tîm yng ngwasanaeth Atal a Lles Abertawe ddarparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth ar y canlynol:
Rheoli a chynnal eich cartref
- Rhoi gwybod am waith trwsio
- Dod o hyd i ddodrefn
- Cytundebau tenantiaeth
- Sgiliau byw bob dydd
- Sefydlu cyfleustodau
Teimlo’n iachach
- Cyngor ynghylch ffordd o fyw
- Cofrestru gyda meddygon, deintyddion, optegwyr
- Cyngor ynghylch camddefnyddio sylweddau
- Gwella hyder
Teimlo’n fwy diogel
- Diogelu eich hun a’ch cartref
- Ymwybyddiaeth gymunedol
- Gwasanaethau brys
- Cymorth lles meddyliol ac emosiynol
Rheoli Arian
- Cynyddu incwm
- Cyngor ynghylch dyledion
- Hawlio grantiau
- Trin arian a chynilo
- Talu biliau
Cael mynediad at Gyflogaeth a Hyfforddiant
- Cael hyd i swydd addas
- Llenwi ffurflenni cais
- Cyfleoedd hyfforddi
Meithrin perthnasoedd
- Cysylltu â’r gymuned
- Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
Oes angen help arnoch i gael gafael ar lety yn y Sector Rhentu Preifat?
Ewch i’n tudalen Sector Rhentu Preifat Abertawe i gael rhagor o wybodaeth.
