Llwybrau at Waith

Abertawe

Bydd Llwybrau at Waith yn cefnogi unigolion sydd â phrofiad uniongyrchol o’r system cyfiawnder troseddol

Mae Llwybrau yn cynnig cymorth i wella sgiliau, ennill cymwysterau a chynyddu eu cyflogadwyedd, er mwyn iddynt allu sicrhau cyflogaeth gynaliadwy neu gael mynediad at ddysgu pellach.

Mae’r gwasanaeth yn cynnwys cymorth sy’n benodol i rywedd ar gyfer menywod a phobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref er mwyn iddynt fanteisio ar gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth ledled Abertawe.

Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â Charchar Ei Fawrhydi Abertawe, Cyngor Abertawe ac asiantaethau eraill. Nod y prosiect yw chwalu unrhyw rwystrau a allai atal rhywun sydd â chofnod troseddol rhag symud ymlaen. Rydyn ni’n helpu i fagu hyder, gwytnwch a gwella llesiant.

textimgblock-img

Yr hyn y gall defnyddwyr y gwasanaeth ei ddisgwyl

  • Cymorth un i un
  • Cymorth cyn ac ar ôl rhyddhau
  • Gweithdai cyflogadwyedd
  • Ffug Gyfweliadau ac ysgrifennu CV
  • Cymorth i ddatgelu euogfarnau
  • Cymorth i gael gafael ar gyllid ar gyfer cymwysterau a hyfforddiant
  • Cysylltiadau uniongyrchol â chyflogwyr cynhwysol
  • Cymorth llesiant
  • Cyfeirio at asiantaethau arbenigol

Gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar gryfderau, bydd mentor yn cael ei neilltuo i bawb a fydd yn cyd-ddatblygu cynllun dysgu unigol i greu llwybr tuag at eu nodau hirdymor.

Defnyddir ymarfer myfyriol i fesur cynnydd ac asesu anghenion. Gan gydnabod pa mor gyffredin yw trawma a’i effaith, gall unigolion hefyd gael gafael ar gwnsela mewnol uniongyrchol drwy ein gwasanaeth Rhwydwaith Myfyrio.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.

textimgblock-img

Ariennir y prosiect gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o bileri canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Mae’n darparu £2.6 biliwn ledled y DU ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025.

 

Tudalennau cysylltiedig