TheWallich100

07 Mar 2024

Mae her 100 milltir TheWallich100 yn ôl i roi diwedd ar ddigartrefedd a’ch helpu chi i symud.

Rydyn ni’n herio trigolion Cymru sy’n codi arian i elusennau i gyflawni 100 milltir dros 30 diwrnod ym mis Ebrill.

Mae croeso i chi ddewis a ydych chi am gerdded, rhedeg, sglefr-rolio neu wneud rhywbeth mwy creadigol! Byddwch yn cael het bwced rad ac am ddim ‘Making Homelessness History’ ar ôl i chi gasglu eich £10 cyntaf mewn rhoddion.

Mae her TheWallich100 yn ymwneud ag elwa o fanteision gweithgaredd corfforol ar yr un pryd â chodi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd yng Nghymru. Wrth wneud hynny, byddwch yn codi arian hanfodol i helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd.

Ydych chi’n barod am yr her?

Llenwch y ffurflen isod i gofrestru cyn dechrau mis Ebrill.

Cymuned Facebook #TheWallich100

Mae’r her hon yn cael ei chynnal yn gyfan gwbl drwy Facebook.

Cliciwch ar y dolenni isod i greu eich Tudalen Codi Arian ar Facebook ac ymuno â’r grŵp egsgliwsif.

Gyda’ch gilydd, byddwch chi’n creu cymuned ar-lein #TheWallich100 i rannu awgrymiadau codi arian, i gefnogi eich gilydd ac i bostio lluniau o’ch teithiau.

Byddwch hefyd yn dysgu sut bydd yr arian rydych chi’n ei godi yn cael ei ddefnyddio gan The Wallich i helpu’r rheini rydyn ni’n eu cefnogi.

Dechreuwch drwy rannu eich tudalen codi arian ar eich proffil Facebook a gofyn i’ch teulu a’ch ffrindiau a ydyn nhw’n fodlon eich cefnogi gyda’r her hon.

Yn ystod 2023, roedd ein cefnogwyr anhygoel wedi codi mwy na £3,440 drwy gamu ymlaen i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru

Cymerwch eich cam cyntaf chi drwy gofrestru am yr her heddiw.