Cymorth Sector Rhentu Preifat Abertawe

17 High Street, Abertawe, SA1 1LF

Abertawe

01792 533 139

Mae Tîm Mynediad Sector Rhentu Preifat Abertawe yn darparu gwasanaethau amrywiol megis cefnogaeth, cyngor, gwybodaeth a chymorth i bobl sy’n byw mewn llety rhent preifat yn Abertawe

Mae’r tîm yn gweithio gyda darpar rentwyr a landlordiaid a sicrhau bod tenantiaethau’n llwyddiannus.

Bwrdd Bondiau

Mae Bwrdd Bondiau Abertawe yn helpu pobl ddigartref a phobl sydd mewn cartrefi lle maent yn agored i niwed i gael mynediad at lety rhent preifat.

Rhoddir cymorth ac arweiniad, a lle bo’n briodol, byddwn yn darparu tystysgrif bond gwarant yn lle bond ariannol, i helpu pobl sydd ar fudd-daliadau neu bobl sydd ar incwm isel i ddod o hyd i lety rhent preifat.

Rydym hefyd yn gweithio gyda’r landlordiaid a’r tenantiaid i sicrhau bod y denantiaeth yn gynaliadwy yn yr hirdymor.

Cyswllt â Landlordiaid

Mae Cyswllt â Landlordiaid Abertawe yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i landlordiaid ynglŷn â phob agwedd ar denantiaethau’r sector rhentu preifat.

Cymorth Tenantiaeth y Sector Rhentu Preifat

Mae Cymorth Tenantiaeth Sector Rhentu Preifat Abertawe yn darparu cymorth hyblyg ac ymatebol tymor byr i denantiaid sy’n byw mewn llety yn y sector rhentu preifat, gan gynnwys cymorth cyn tenantiaeth a chymorth adsefydlu.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.

 

 

 

 

Tudalennau cysylltiedig