Stori Andy

25 Feb 2019

Wedi dechrau yfed yn ei harddegau, yn peryglu ei swydd i borthi ei gaethiwed i alcohol a threulio cryn dipyn o amser mewn nifer o garchardai ar draws y DU, meddyliodd Andy byth y gall ei ffordd o fyw newid. Yn 2019, mae Andy bellach dros 3 mlynedd sobr ac ar fin dechrau cyflogaeth llawn amser. Darllenwch ei stori.

“Cefais fy ngeni yn Watford, wrth ymyl y cae pêl-droed. Rwy’n unig blentyn ac roedd fy Mam a fy Nhad yn warchodol. Cefais blentyndod hapus, digon o ffrindiau, ond roeddwn bob amser yn teimlo’n unig.

Pan oeddwn yn 9 neu 10 oed, cafodd Nain strôc a bu farw. Roeddwn wedi torri fy nghalon. Cefais fy ngwahardd rhag mynd i’r angladd ac roeddwn yn teimlo’n flin tuag at fy Mam a fy Nhad oherwydd hyn. Chefais i erioed gyfle i ffarwelio (mae hyn ar fy rhestr pethau i’w gwneud).

Pan es i’r ysgol uwchradd, roedd gen i un ffrind agos. Dyna pryd y dechreuais yfed. Byddai’r ddau ohonom yn mynd i dai ein gilydd pan oedd ein rhieni allan ac yn dwyn yr alcohol. Aethom wedyn i bartïon – gan yfed yn gyflym a thaflu i fyny. Roeddem yn meddwl bod hyn yn ddoniol.

Ond doedd hynny byth yn ddigon. Roeddem yn arfer dwyn plwm o’r hen fragdy a’i werthu i brynu alcohol. Dechreuodd y ddau ohonom fynd i’r dafarn pan oeddem yn 15 oed, doedd dim angen dangos manylion adnabod bryd hynny, a dim ond 33c oedd pris peint.

Pan adewais yr ysgol, dim ond ambell TAU oedd gen i. Dechreuais weithio, roedd hyn yn wych – incwm rheolaidd, gallwn fynd i’r dafarn bob dydd a mynd i wylio pêl-droed.

Cefais waith fel cogydd. Roedd cyflenwad diderfyn o alcohol yno ac roeddwn yn feddw drwy’r amser yn y gwaith. Dyma fu’r patrwm y rhan fwyaf o fy ngyrfa.

Symudais i ffwrdd i weithio mewn gwesty – aeth fy arferion yfed yn waeth a bûm yn byw mewn carafán mewn maes parcio tafarn. Pan aeth y gwesty i’r wal, daeth Dad i fy nôl ond bu’n rhaid iddo fynd o amgylch yr holl dafarndai cyn dod o hyd i mi.

Pêl-droed

Teimlwn fel petawn yn rhan o rywbeth, yn rhan o’r diwylliant trais pêl-droed. Arferwn yfed cwrw Newcastle Brown Ale ac roedd yn gwneud i mi deimlo’n ymosodol. Teimlais fy mod yn perthyn yma.

Y tu allan i’r tymor pêl-droed, teithiais o amgylch Ewrop. Byddwn yn yfed gwin rhad a fodca ac yn cysgu lle bynnag oeddwn eisiau.

Rhoi cynnig ar fywyd domestig

Pan gefais gariad, cafodd y ddau ohonom fflat gyda’n gilydd. Roedd Mam a Dad yn hapus. Symudais allan ar ddydd Sul, ond pan es yn ôl drannoeth roedd fy ystafell wely wedi’i throi’n ystafell fwyta. Roeddwn mor flin nes i mi yfed fodca am ddyddiau.

Flwyddyn yn ddiweddarach, es i India gyda ffrind. Aethom â wisgi gyda ni – gan yfed mwy na’i hanner a gwerthu’r gweddill yn gymysg â dŵr.

Pan ddychwelais o’r India, roedd fy nghariad yn feichiog ac roedd yn anodd dygymod â hynny. Pan anwyd fy mab cyntaf, cawsom ein troi allan o’r fflat a chawsom dŷ cyngor. Symudodd Mam a Dad i’r de at yr arfordir. Doeddwn i ddim yn hapus.

Cefais swydd gyda mwy o sicrwydd fel technegydd labordy a bûm ynddi am 10 mlynedd. Doedd hi ddim yn bosibl i mi yfed yn ystod fy ngwaith felly dechreuais anadlu ethanol. Ganwyd fy ail fab, ac roeddwn yn dal i yfed a meddwi’r rhan fwyaf o’r diwrnodau.

Yn ystod Cwpan y Byd 1998, diflannais am y tro cyntaf gan fynd lawr i Gernyw. Cawsom ffrae ar ôl i mi ddod yn ôl ac roedd hi’n feichiog eto.

Cefais swydd fel cludwr yn Llundain ond cefais ambell ddamwain ond bûm yn ffodus i beidio â chael prawf anadl.

Yna ganwyd fy merch. Roeddwn wedi gwirioni. Dywedais wrthyf fy hun, “Rhaid i mi roi’r gorau iddi” ond dal ati wnes i.

Priodais ond doedd pethau ddim yn dda. Doeddwn i ddim yn talu’r biliau ac roeddwn yn dibynnu ar fenthyciadau. Roedd gennym forgais. Yna roedd fy ngwraig yn feichiog eto. Mab arall.

Daeth fy ngwraig i wybod nad oedd y biliau wedi’u talu. Dywedodd wrthyf fy mod yn alcoholig, ond roeddwn yn gwadu hynny. Gadewais gartref y teulu, cefais swydd newydd a bûm yn byw uwchben bar. Chwe mis yn ddiweddarach, daethom yn ôl at ein gilydd. Wnes i erioed ddeall pam wnaeth hi fy nerbyn yn ôl.

Symudodd y teulu i Norwich. Roedd hwn yn antur newydd i mi – tafarndai newydd i fynd iddynt. Cefais swydd mewn tafarn gyda mynediad diderfyn at alcohol. Doeddwn i ddim yn dod adref y rhan fwyaf o’r amser – byddwn yn mynd yn ôl i’r gwaith yn hwyr y nos, gyda fy nghyd-weithwyr, pan oedd yn amser clirio a glanhau i yfed yr alcohol oedd yn weddill ar ddiwedd y noson.

Un noson, es i barti. Dydw i ddim yn gallu cofio llawer ond pan ddeffrais roeddwn ar y traeth. Dyna pryd y daeth fy mywyd teuluol i ben.

Symud o gwmpas

Daeth symud – neu gael fy symud – i lefydd drwy’r DU yn rhan o fy mywyd.

Roeddwn yn mynd yn fwy ymosodol pan na allwn gael gafael ar ddiod ac roedd fy holl fywyd allan o reolaeth – doedd gen i ddim arian ar ôl, felly roeddwn yn trefnu cyfrif mewn gwahanol dafarndai cyn diflannu.

Bûm yn byw yng Nghernyw am ychydig, gan weithio mewn siop sglodion, a’r patrwm yno oedd mynd i’r naill barti ar ôl y llall. Trefnais gyfrif arall mewn bar a diflannais pan oedden nhw eisiau’r arian. Cerddais i’r Alban – gan weithio a chysgu allan er mwyn cael arian i brynu alcohol. Dechreuais ymladd a rhoddwyd fi mewn ysbyty seiciatrig am bythefnos ym Mherth.

Roedd pethau’n flêr. Doedd y ffaith fy mod yn cael fy symud o amgylch y wlad rhwng Bryste, yr Alban, Plymouth a Chymru ddim yn help. Roedd yn ymddangos yn haws rhoi tocyn trên neu fws i mi gan fod hynny’n symud y broblem i rywle arall, yn hytrach na chynnig cymorth gwirioneddol i mi.

Roeddwn mewn cylch –  symud i hostel sych ond yn dal i yfed, ymddwyn yn ymosodol, achosi difrod troseddol a mynd i’r carchar o Gernyw i’r Alban a phob man rhwng y ddau le yna.

Yng Nghymru, roeddwn yn dilyn yr un patrwm – meddwi, cysgu allan, a hynny’n arwain bob amser at dreulio cyfnod mewn carchar a chael fy symud i fod yn broblem i rywle arall.

Y system carchardai

Doedd gen i ddim cysylltiad gwirioneddol ag unrhyw le ar y pryd. Roeddwn erbyn hyn yng Nghaerfyrddin. Safais mewn mynwent, yn torri fy mreichiau gyda chyllell. Galwyd yr heddlu, dywedais “rwy eisiau ymuno â fo” gan bwyntio at y garreg fedd. Gwelais seiciatrydd ond roeddwn yn ôl ar y strydoedd yn syth.

Gyda dim arall i’w wneud, es yn syth i archfarchnad i ddwyn potel o JD gan wneud yn siŵr nad oeddwn yn cael fy nal. Ond cefais fy symud o gwmpas eto – Hwlffordd, Watford, yna i Aberdeen lle ceisiais gymryd gorddos ond doedd neb eisiau dim i’w wneud â mi.

Pan gefais fy arestio ym Mhrestatyn a fy rhoi mewn carchar yn Lerpwl, cefais fy rhyddhau gyda £2 yn fy mhoced ac addewid o gael aros mewn hostel yn Abertawe – ddigwyddodd hynny ddim.

Yn Abertawe, roeddwn yn ôl yn y cylch. Roeddwn eisiau mynd i’r carchar a phan oedd yn amser cael fy rhyddhau doeddwn i ddim eisiau gadael. Un diwrnod meddai un o swyddogion y carchar wrthyf, “Wela i chdi mewn pythefnos, Andy.” Cefais fy ysgwyd gan y geiriau. Es at y gwasanaeth prawf a chefais fy rhoi mewn tŷ sych. Roedd yn gas i gen i’r lle ar y dechrau. Teflais bethau. Roeddwn yn mynd i gyfarfodydd AA ond doedd gen i ddim diddordeb. Ar ôl tua thri mis, roeddwn wedi cyrraedd pen fy nhennyn ac eisiau gadael.

Y newid mawr

Un diwrnod, roeddwn yn eistedd wrth ymyl afon gyda gweithiwr allweddol, hwn oedd y trobwynt. Es i gyfarfodydd am reswm. Es i gael triniaeth sylfaenol. Roeddwn yn cael trafferth gyda geiriau.

Deuthum i gysylltiad â fy rhieni – a dywedon nhw wrthyf eu bod wedi cael eu mab yn ôl. Roeddwn mewn tŷ sych a thŷ symud ymlaen am 18 mis – doeddwn i ddim eisiau gadael yn y diwedd.

Rwyf wedi bod yn fy fflat fy hun am bron i flwyddyn, dydw i ddim mor flin a dydw i ddim wedi yfed ers bron i dair blynedd. Rwyf wedi darganfod y gwir Andy.

Prosiect BOSS The Wallich a roddodd gymorth i mi sylweddoli nad yw’r ffaith fy mod wedi bod i mewn ac allan o garchar yn golygu na alla i gael gwaith. Cyn hyn, doeddwn i ddim yn gwybod beth allwn ei wneud a doeddwn i ddim yn mynd i unman.

Hefyd cefais fy nghyfeirio at brosiect WISE The Wallich. Bu hwn yn fodd i wella’r ffordd yr wyf yn rhyngweithio â phobl a symud ymlaen gyda fy mywyd. Daeth yn nod gen i weithio i The Wallich.

Ers hynny rwyf wedi cysylltu ag un o fy mechgyn a fy wyres. Feddyliais i erioed y byddai hynny’n digwydd ond rwy’n edrych ymlaen at ailadeiladu ein perthynas.

Rwy’n ddiolchgar heddiw am yr hyn sydd gen i. Rwyf wedi cael cynnig gwaith gyda The Wallich fel gweithiwr cymorth nos. Dyma ydw i wedi bod yn gweithio tuag ato, rhoi’n ôl gyda fy sgiliau bywyd a helpu eraill. Dyna yw fy nhynged.”

Gallwch chi gynnig profiad gwaith unigryw i’n cleientiaid, gyda chymorth gan The Wallich, i gael pobl allan o gylch digartrefedd a throseddi? E-bost dosomething@thewallich.com i gymryd rhan.