Stori Jeremy

14 Aug 2024

Ar ôl blynyddoedd lawer o ddigartrefedd, roedd Jeremy eisiau rhywle i’w alw’n gartref.

Mae wedi bod yn gweithio gyda’n timau yn Nhorfaen i wireddu hynny.

Darllenwch ei stori

Photo of Jeremy Long 01

Sut dechreuodd y cyfan

Ar ôl i’w berthynas chwalu yn 2018, roedd Jeremy yn cysgu allan ar y stryd yn Nhorfaen o bryd i’w gilydd.

Yn ystod pandemig y coronafeirws, cafodd ei roi mewn llety dros dro, pan oedd awdurdodau lleol ledled Cymru wedi meddiannu gwestai gwag i gadw pobl ddigartref yn ddiogel.

Pan nad oedd Jeremy o dan do, yn aml roedd yn dibynnu ar babell ar gyfer lloches.

Dechreuodd tîm Allgymorth The Wallich ei gefnogi ym mis Ionawr 2021. Roedd Jeremy ar restr aros am dŷ, ond roedd angen help arno i sefydlu ei gyfrif Homeseeker, cael llythyr meddygol i’w ddefnyddio fel dogfen adnabod a’i helpu i ymgysylltu â’r adran dai leol.

Mae’n anodd rhagweld pa mor hir y bydd rhywun yn aros ar restr dai, a gall fod yn gyfnod o ansicrwydd, straen a phryder i bobl ar y strydoedd.

Tai yn Gyntaf

Yn ddiweddarach, dechreuodd Jeremy weithio gyda thîm Tai yn Gyntaf yn The Wallich. Y syniad yw darparu cymorth cofleidiol sy’n helpu i gadw pobl yn eu cartref.

Ar adegau pan oedd yn cael cymorth, roedd yn gallu siarad yn rheolaidd â’i dîm cymorth arbenigol yn The Wallich i’w helpu i drefnu ei fywyd a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Fe wnaeth The Wallich gefnogi Jeremy i sefydlu ei denantiaeth, cyllidebu, apwyntiadau asesu budd-daliadau a mynd i’r Ganolfan Waith.

Gan fod y rhan fwyaf o bethau ar-lein erbyn hyn, roedd angen help arno i gael gafael ar wasanaethau penodol. Mae Jeremy nawr yn teimlo’n fwy hyderus yn gofyn am help yn ddigidol nag o’r blaen.

Pan symudodd i’w lety rhent newydd, nid oedd ganddo unrhyw eiddo gydag ef. Sicrhaodd The Wallich grantiau a rhoddion ar gyfer nwyddau gwyn a dodrefn i helpu Jeremy i droi ei dŷ yn gartref.

Roedd cymorth cofleidiol Tai yn Gyntaf hefyd yn golygu cefnogaeth gan ein tîm i helpu i wella ei iechyd meddwl a gwneud ffrindiau newydd.

textimgblock-img

Symud ymlaen

Mae bron i un ar ddeg mis wedi mynd heibio ers i Jeremy symud i’w eiddo newydd ac rydym ni’n gwybod ei fod yn parhau i gynnal ei denantiaeth.

Mae ein cefnogaeth ddwys wedi lleihau’n naturiol wrth iddo ddod i arfer â’i fywyd newydd.

Prif amcan Jeremy oedd cael rhywfaint o sefydlogrwydd i’w deulu a chael rhywle y gallai ei alw’n gartref. Mae ei blentyn bellach yn aros gydag ef yn rheolaidd ac mae’n hapus lle mae’n byw.

Cymerodd amser hir i mi gredu fy mod i’n mynd i gael rhywle i fyw, rhywle diogel y gallai fy mab a minnau ei alw’n gartref.”

Dywedodd Rebecca, Uwch Weithiwr Cymorth yn The Wallich:

Pan wnes i gwrdd â Jeremy am y tro cyntaf, roedd yn colli gobaith y byddai fyth yn llwyddo i gael ei gartrefu, ac roedd hyn yn gwneud iddo deimlo’n ddigalon a rhwystredig. 

Mae wedi bod yn wych gweld Jeremy yn symud i’w gartref ei hun a rhoi ei stamp ei hun ar y lle.