Ynghyd ag anogaeth, cefnogaeth, a sgiliau magu hyder gan The Wallich, mae hi wedi dechrau bywyd newydd.

“Roeddwn i bob amser yn breuddwydio am ddianc.
Doedd gen i ddim cysylltiad teuluol da. Doedd fy rhieni ddim yn gefnogol iawn. Ac roedd pobl wastad yn dweud wrthyf i na fyddwn i’n llwyddiannus. Fe wnes i geisio mynd i’r coleg, ond roeddwn i’n magu fy merch ar fy mhen fy hun, felly fe wnes i roi’r gorau iddi yn y diwedd.
Doedd gen i ddim cefnogaeth emosiynol dda iawn, felly doedd gen i ddim llawer o feddwl ohonof fy hun. Fe wnaeth hyn, rwy’n meddwl, fy arwain at berthynas gamdriniol.
Prin iawn oeddwn i’n gadael y tŷ oherwydd roeddwn i bob amser yn cael fy nghyhuddo o dwyllo a phethau eraill. Roeddwn i’n wir mewn lle tywyll erbyn y diwedd.
Pan nad oedd gen i unrhyw gefnogaeth, fe wnes i ystyried lladd fy hun. Ond, doeddwn i ddim yn gallu gwneud hyn oherwydd doeddwn i ddim eisiau gadael fy merch. Dwi’n ei charu hi gymaint.
Dechreuais chwilio am gymorth ar y we oherwydd roeddwn i’n gwybod fy mod i’n wir angen help.
Roedd ambell i noson pan oeddwn i yn y gwely a doeddwn i ddim yn gallu cysgu, ac roeddwn i’n ffonio’r Samariaid er mwyn siarad â rhywun. Roedd hyn yn anodd iawn.”
“Yna fe wnes i ddod o hyd i DASU [Uned Ddiogelwch Cam-drin Domestig] ac fe wnaethon nhw ein rhoi mewn tŷ diogel. Aeth fy nghorff i’r modd goroesi bryd hynny. Roeddwn i’n eithaf blinedig am gyfnod ac yn ail-fyw’r sefyllfaoedd.
Ond drwy dorri cysylltiadau â phawb, roeddwn i’n gallu gweld hyd a lled y profiadau rwyf wedi bod drwyddynt. Roedd yn gyfnod anodd iawn, iawn.
Ac yna, fe wnaethon ni ffrind yma a ddywedodd wrthyf i am The Wallich. Dyna pryd wnes i gwrdd â Rachael [Hyfforddwr Asedau].
Rydw i’n falch, oherwydd dydw i ddim yn meddwl y byddwn i lle rydw i nawr heb The Wallich. Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi goroesi. Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi byw.
Roeddwn i’n teimlo fy mod yn troi mewn cylchoedd, yn sownd mewn ystafell, ddim yn adnabod neb. Dim ond fi a fy merch.
Mae The Wallich wir wedi fy helpu i ddod allan o’r twll tywyll hwnnw, a dangos llefydd i mi. Rydw i’n adnabod fy ffordd o gwmpas.
Rydw i’n gwybod ble i fynd. Rydw i’n gwybod ble mae cymorth i’w gael. Mae wedi fy helpu i wneud ffrindiau.
Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi cael y gefnogaeth emosiynol honno i ddarbwyllo fy hun bod pethau yn gwella. Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi cael y gefnogaeth honno heb The Wallich.
Fe wnaethon nhw [The Wallich] fy helpu i gredu ynof i fy hun eto. Mae’n deimlad rhyfedd, pan fydd rhywun wedi dweud wrthych chi ar hyd eich oes na fyddwch chi’n llwyddiannus, ac yna rydych chi’n cwrdd â phobl garedig sy’n gweld y da ynoch chi, yn eich sicrhau eich bod yn berson da, a’ch bod chi eisiau’r gorau i bawb. Mae’n deimlad braf iawn.”
Gweithiodd Kerry gyda Rachael, ein Hyfforddwr Asedau ar gyfer Gogledd Cymru, a Ben, ein Mentor Ymgysylltu a Llesiant, i fagu hyder ynddi hi ei hun, fel rhan o raglen llesiant awyr agored The Wallich.
“Roeddwn i’n arfer brwydro gyda fy iechyd meddwl o hyd. Ond wedyn byddwn i’n mynd ar rai o’r teithiau cerdded gyda The Wallich. A rhai dyddiau doeddwn i ddim eisiau codi o’r gwely. Ond gydag ychydig o anogaeth, byddwn i’n gwneud hynny.
Ac fe lwyddais i gerdded i gopa Moel Siabod. Dydw i ddim yn gwybod sut wnes i lwyddo i wneud hynny, ond roedd yn gymaint o hwb i fy iechyd meddwl. Roedd rhai dyddiau pan nad oeddwn i’n gallu codi o’r gwely, ond yna fe wnes i gerdded i gopa’r mynydd, ac roeddwn i ar ben y byd.
Wedyn, fe wnaethon ni gerdded i ben yr Wyddfa! Rwy’n credu bod angen i chi annog eich hun i godi a gwneud y math yna o bethau. Mae hynny wedi fy ngwneud i’n llawer cryfach hefyd.
Mae’r hwyl sydd i’w gael ar y ffordd, a’r bobl rydych chi’n eu cyfarfod, yn creu cymuned dda iawn.”
“Mae gen i gartref newydd, bywyd newydd, ffrindiau newydd, cysylltiadau newydd.
Rydw i’n mynd i’r coleg ym mis Medi i astudio cwnsela oherwydd rydw i eisiau helpu i gefnogi pobl yn y ffordd mae The Wallich wedi fy nghefnogi i. Os galla i helpu pobl eraill yn yr un ffordd, bydd hynny’n fy ngwneud i’n hapus.
Alla i byth ddiolch ddigon i The Wallich. Fe wnaethon nhw fy helpu i’n fawr.”