Stori Mathew

17 Jun 2021

Mathew - Ynys Mon - Digatref - The Wallich

Ar ôl cael ei effeithio gan y pandemig COVID-19, bu tîm Tai yn Gyntaf The Wallich ar Ynys Môn yn cynorthwyo Mathew gyda’i ddibyniaeth gynyddol ar alcohol, ei anghenion tai a chymorth cydgysylltiedig wedi’i deilwra ar gyfer ei les

Cafodd Mathew ei gyfeirio at The Wallich yn 2019 gan ei weithiwr gwasanaeth cam-drin sylweddau.

Roedd yn byw mewn llety dros dro ac yn gweithio fel cogydd. Gyda chymorth The Wallich sicrhaodd denantiaeth rhent preifat.

Llwyddodd i gadw’r llety hwn nes i’r cyfyngiadau symud COVID ddod i rym.

Yn anffodus rhoddwyd Mathew ar ffyrlo yn ystod y cyfnod clo.

Yn sgîl colli ei batrwm gwaith, cafodd hyn effaith negyddol iawn ar Mathew a dechreuodd yfed llawer iawn o alcohol.

Ar ôl dyfalbarhad ei weithiwr cymorth, a fu’n cysylltu â Hafan Wen, derbyniwyd Mathew ar gyfer cwrs dadwenwyno.

Ar ôl wythnos yn y cyfleuster dadwenwyno, cafodd ei drosglwyddo i Ysbyty Wrecsam oherwydd cyflwr ei afu.

Newidiodd ei fywyd yn gyflym

Pan gafodd ei ryddhau, roedd angen catheter a sgwter symudedd ar Mathew, a oedd yn golygu newidiadau i’w fywyd bob dydd.

Yn ddiweddarach, cynigiwyd eiddo Cam Wrth Gam i Mathew, ond dechreuodd ei ddefnydd o alcohol gynyddu unwaith eto nes y bu’n rhaid cynnal gwiriad lles gan yr heddlu a chael ei dderbyn eto yn yr ysbyty ar gyfer cwrs dadwenwyno brys.

Cafodd ei gyfeirio gan The Wallich i’r tîm lleihau niwed, a aeth i’w weld yn yr ysbyty.

Sicrhaodd The Wallich denantiaeth ddiogel gyda’r awdurdod lleol pan adawodd Mathew yr ysbyty.

Cafodd wybod bod ei afu wedi dioddef difrod anadferadwy ac na ddylai fyth yfed eto.

Ymateb i’w anghenion

Fe drefnodd The Wallich gymorth cofleidiol i helpu Mathew gyda’i iechyd a’i les, a’i anghenion tai.

Gyda chymorth asiantaethau cymorth penodol, symudodd Mathew i’w fflat newydd a dechreuodd ymgysylltu’n dda.

Roedd ei gefnogaeth yn cynnwys ymweliadau rheolaidd ac, ar ddechrau mis Ionawr, pan oedd yn teimlo’n ddigon cryf yn gorfforol, dechreuodd y sesiynau cymorth gynnwys teithiau cerdded byr.

Roedd mynd allan i gerdded yn gyflawniad aruthrol i Mathew, oherwydd ei fod wedi defnyddio sgwter symudedd cyn hyn.

textimgblock-img

Mae iechyd Mathew wedi parhau i wella

Fe newidiodd cymhelliant Mathew pan welodd effaith gadarnhaol y cerdded ar ei les.

Yna dechreuodd newid ei ddiet i gynnwys bwyd a oedd yn hybu iechyd yr afu.

Fe ychwanegodd fwy o ymarfer corff i’w fywyd a chyn hir byddai’n mynd am dro ei hun – mae hyd yn oed wedi defnyddio ymarfer corff i ymdopi â theimladau o straen a gorbryder ysgafn.

Ar ôl mynegi ei awydd i reidio beic, fe drefnodd The Wallich i logi beic a threfnu taith 15 milltir iddo ef a’i weithiwr cymorth.

Cafodd gymaint o fwynhad yn gwneud hyn fe drefnodd The Wallich i’w helpu i gael ei feic ei hun.

Wrth i’w iechyd a’i les barhau i wella, mae Mathew yn edrych yn fwy iach a hapus bob wythnos.

Gobeithion ar gyfer y dyfodol

Wrth edrych i’r dyfodol, mae Mathew wedi dechrau menter fusnes newydd ym maes arlwyo ac mae’n teimlo’n obeithiol ynghylch ei ddyfodol.

Mae’n braf iawn gwybod ein bod wedi helpu Mathew i gyfeirio ei fywyd i lwybr cadarnhaol.

Wrth adlewyrchu ar ei daith, mae’n wych meddwl pa mor bell mae wedi dod.

Dim ond chwe mis cyn hyn, roedd Mathew yn defnyddio sgwter symudedd. Heddiw, mae’n cerdded mwy na 25 milltir yr wythnos, yn mwynhau beicio ac mae’n hunangyflogedig unwaith eto.

 

Darganfyddwch fwy am ein gwasanaeth Tai yn Gyntaf ar Ynys Môn.

Tudalennau cysylltiedig