Stori Michelle

07 Dec 2022

Oherwydd y cynnydd mewn costau byw, ni allai Michelle (36 oed) fforddio ei rhent, felly symudodd i fyw at ffrindiau

Yn anffodus, mi chwalodd y cyfeillgarwch, a oedd yn golygu nad oedd gan Michelle le i fyw.

Mae Michelle yn awr yn byw ac yn gweithio o gartref, fel gweithiwr ateb galwadau, yn hostel y Wallich ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Nid ydym wedi profi cyfnod fel hyn o’r blaen. Mae’r bobl sy’n gofyn i elusennau fel ni am help gyda materion digartrefedd ac ariannol yn newid.

Darllenwch stori Michelle

Teimlo effeithiau’r argyfwng costau byw

“Rwy’n ddigartref.

Gallaf ymdopi â chostau byw [yn yr hostel] tra’r wyf yn gweithio, ac maent yn rhesymol. Mae’n rhatach na byw yn ei lle eich hun.

Rhentu’n breifat, yn sicr ni allwn gael dim byd, mae pris popeth wedi treblu erbyn hyn.”

Newid mewn amgylchiadau

“Dwi ddim am fynd i ormod o fanylion ac am fod pobl eraill yn gysylltiedig â’r achos, maent yn haeddu rhywfaint o breifatrwydd.

Ni allwn fforddio’r eiddo lle’r oeddwn yn byw, felly mi symudais at ffrindiau, ac yn anfwriadol rhoddais fy hun mewn sefyllfa ymfflamychol. Pe bawn wedi aros, mae’n eithaf tebygol y buaswn wedi cael fy anafu.

Mi ffoniais y cyngor yn y bore, ac erbyn tri o’r gloch y prynhawn mi gefais alwad yn dweud bod lle imi yn yr hostel.

Mi wnaethon nhw gynnig talu am dacsi i fy symud i a fy mhethau. Erbyn wyth o’r gloch y noson honno, roeddwn yn symud i mewn.”

Gweithio’n llawn amser a byw mewn llety â chymorth

“Rwyf yn gweithio o gartref fel Asiant Canolfan Alwadau i ddarparwyr ynni.

Mae’r Wallich wedi bod yn anhygoel. Mi gafwyd ychydig o drafferth pan symudais i mewn wrth geisio cael y rhyngrwyd i weithio ond mi ges i help gan y Wallich â hynny, ac erbyn hyn mae gen i ryngrwyd yn fy ystafell, ac mi allaf weithio heb drafferth.

Rydym yn gwneud profion larwm tân unwaith yr wythnos. Mi wnes i redeg o fy ystafell gan feddwl ei fod yn dân go iawn, a gorfod gofyn i’r cwsmer aros ar y lein, gan nad oedd dim y gallwn ei wneud. Roedd yn rhaid imi fynd”!

Er mwyn peidio ag amharu ar ddiwrnod gwaith Michelle, cytunwyd y gallai staff fynd i mewn i’w hystafell pan fydd hi’n gweithio a rhoi gwybod iddi nad oes tân ac ymarfer tân sy’n digwydd. Mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth mawr i Michelle.

“Mae hynny wedi dangos imi eu bod yn fodlon mynd un cam ymhellach er fy mwyn i. Mae pawb yn wahanol ac mae angen i bawb gael eu trin fel unigolyn ac yn ôl eu hanghenion. Yn fy ngwaith i, rwyf yn helpu pobl pan fyddant yn mynd i ddyledion mawr ar eu cyfrif ac yn eu helpu i’w lleihau.

Oherwydd yr argyfwng costau byw, mae popeth wedi newid. Rwyf yn awr yn gofyn ‘faint allwch chi fforddio’i dalu’ yn hytrach na dyma faint sydd angen i chi ei dalu.

Oherwydd cyfrinachedd, ni allaf ddweud wrth gwsmeriaid, ‘mi wn yn union sut ydych chi’n teimlo gan fy mod i’n mynd drwy’r un peth’.

Pan wyf wedi helpu cwsmer, mae’n gwneud imi deimlo’n dda am fy mod wedi’u helpu, ac mi allant yn awr gysgu’n dawel heb boeni bod yn rhaid iddyn nhw ddatrys eu problemau ynni.

Pan ofynnwyd a oedd cyflogwr Michelle wedi bod yn gefnogol, dywedodd:

“Maent wedi bod yn rhagorol.

Mi oeddent yn dangos cydymdeimlad pan symudais i mewn gyntaf – yn amlwg gan fod stigma ynghlwm wrth hostel i bobl ddigartref.

Dywedais ‘Mae gen i ystafell ddiogel, rwyf yn ddiogel, rwyf yn iawn’ ond roeddent yn bryderus ynglŷn â fy iechyd a llesiant.”

Help ymarferol

“Mae’r Wallich wedi fy helpu gyda chymorth emosiynol.

Rwy’n meddwl bod y ffaith bod staff yn cael dod â’u hanifeiliaid anwes i mewn yn beth gwych, gan fod hynny’n helpu’r preswylwyr.

Mi wnaeth fy helpu i ar y diwrnod wnes i symud i mewn, roedd rhoi tipyn o sylw i Billy [ci aelod o staff], wedi helpu i fy nhawelu a chodi fy nghalon.

Cefais help gan y Wallich gyda fy sefyllfa ariannol. Mi wnes eistedd gydag un o’r gweithwyr cymorth ac mi wnaethon ni ffonio pob cwmni, mynd drwy fy ffeil gredyd i ganfod beth yn union oedd maint fy nyled.

Mi wnaethon nhw fy nghofrestru gyda’r Housing Jigsaw Portal a chofrestr Cymoedd i’r Môr o fewn y tri diwrnod cyntaf ar ôl imi symud i mewn, felly mae pethau’n digwydd yn sydyn yno.

Mewn llawer o hosteli, mi ydych chi’n meddwl ‘staff ydyn nhw’. Nid staff ydyn nhw pan fyddwch chi’n mynd i hostel Wallich, gweithwyr cymorth ydyn nhw ac maent yn gwneud eu gorau i’ch helpu ym mhob ffordd.

Mae’r staff yn wych. Maent yn dod i’ch adnabod ac yn mynd i’r drafferth i siarad â chi.”

textimgblock-img

Adeiladu rhwydwaith cymunedol

“Mae llawer o stigma os ydych chi’n byw mewn hostel pobl ddigartref – mae’n beryglus, does dim yn ddiogel, mae cyffuriau yno, ac alcohol a phethau felly.

Mi allaf ddweud yn gwbl onest ein bod yn gymuned yn yr hostel hon. Mae pawb yn adnabod pawb, mae pawb eisiau helpu ei gilydd.

Mi fydda i ac un o’r preswylwyr eraill yn coginio llawer o fwyd ar y tro ac mi allwn wedyn ei gynnig i’r preswylwyr eraill.

Mae Michelle yn falch o’r cyfle i helpu preswylwyr eraill pan fydd hynny’n bosibl.

“Mae un o’r preswylwyr eraill yma, mae hi mor brydferth, mae hi’n rhoi lwmp yn fy ngwddf – mi roddodd hi gerdyn diolch imi a oedd yn dweud – mi ydw i’n gwerthfawrogi popeth rwyt yn ei wneud. Diolch o galon.

Nid dyna pam rwyf yn helpu. Ond mi wna i bopeth posibl i helpu pobl eraill.

Pethau bach fel yna sy’n ein gwneud yn gymuned, ac rydym yn gwerthfawrogi pob help a gawn ni.”

Hanes o iechyd meddwl

“Ers pan oeddwn yn 17 oed, rwyf wedi bod yn delio â chyfnodau o iselder.

Mae wedi bod yn saith mlynedd bellach heb feddyginiaeth. Rwyf wedi defnyddio fy nulliau fy hun i fy nghodi o’r twll tywyll hwnnw.

Mi allaf ddweud yn gwbl onest, gyda gwên ar fy wyneb, mae’r cwmwl wedi codi.

Ymlaen â ni, fel byddan nhw’n dweud.”

Edrych ymlaen

“Mae’n dipyn o freuddwyd wrach efallai, ond mi hoffwn gael rhywfaint o dir a byw fel sipsiwn. Mae gen i wreiddiau sipsiwn.

Ni fyddai’n rhaid imi boeni am yr argyfwng costau byw na dim byd felly achos mi fuaswn yn tyfu fy nghnydau fy hun. Mi allwn gael paneli solar i gynhyrchu fy nhrydan. Dyna yw fy mreuddwyd.

Mi oedd gen i gwmni paentio ac addurno am dair blynedd. Yn ystod Covid, mi oedd popeth yn iawn, ond wedyn mi wnes i anafu disg yn fy nghefn ac yn awr, yn anffodus, rwyf yn asiant canolfan alwadau. Mi hoffwn ddechrau eto. Wn i ddim eto a fydd hynny’n bosibl. Cawn weld.

Cael fy lle fy hun. Dim o bwys yn lle; dim o bwys beth. Dim ond cael fy ngofod bach fy hun.

Mi hoffwn gael trwydded yrru a mynd ar wyliau tramor. Nid wyf wedi gwneud hynny ers pan oeddwn yn 15 oed. Mi hoffwn fynd i rywle cynnes, a chael gorwedd ar draeth.”

Os oes unrhyw rai o’r pynciau a drafodir yn yr astudiaeth achos hon wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth a chefnogaeth ar gael. Ewch i’n tudalen Cymorth a Chyngor i gael rhagor o wybodaeth.

Tudalennau cysylltiedig