Stori Ryan

11 Feb 2021

Glanrafon cabins - The Wallich homelessness and rough sleeping - Queensferry Flintshire - Nightshelter - Accommodation

Defnyddiodd Ryan* wasanaeth Glanrafon am y tro cyntaf ganol mis Mai 2020

Roedd yn amharod i ymgysylltu â staff ac o ganlyniad i fod yn gaeth i sylweddau dechreuodd gardota.

Roedd diffyg trefn i’w ffordd o fyw. Doedd ganddo ddim eitemau sylfaenol, fel cerdyn banc. Ei unig nod oedd cael gafael ar sylweddau.

Atgyfeiriodd ei hun at Wasanaeth Camddefnyddio Sylweddau (SMS) a chafodd gefnogaeth gan staff.

Erbyn diwedd mis Mai, roedd wedi dechrau ymgysylltu ac roedd ganddo weithiwr allweddol SMS penodedig.

Cafodd gymorth gan staff The Wallich i hawlio Credyd Cynhwysol a chael Manylion Adnabod i agor cyfrif banc.

Erbyn dechrau mis Mehefin, roedd wedi symud i un o’r saith caban ar safle Glanrafon.

Yn ystod yr wythnosau cyntaf yma, roeddem yn cysylltu ag opsiynau tai, yr heddlu a SMS fel rhan o’i gefnogaeth.

Yn anffodus, aeth yn sâl ym mis Mehefin a threuliodd gyfnod byr yn yr ysbyty. Arweiniodd hyn at apwyntiadau yn yr adran cleifion allanol.

Roeddem yn gallu darparu tocynnau bws iddo fynd i’r apwyntiadau yma nes bod modd i ni drefnu cludiant i’r ysbyty.

Cyn gynted ag yr oedd ei incwm yn fwy diogel, a gyda chymorth SMS, dechreuodd wario ei arian ar eitemau eraill fel bwyd, teledu, consol gemau a threnyrs.

Roedd hyn yn gamp aruthrol iddo. Erbyn mis Awst, roedd yn trafod ac yn ystyried dadwenwyno.

Mae bellach yn falch o’i gaban, y canlyniadau hyd yma ac mae’n parhau i fod ar daith gadarnhaol.

Rydym yn dal i’w gefnogi gyda’i gyflwr iechyd a’i nodau ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â’i helpu i gadw mewn cysylltiad cadarnhaol â’i deulu.

Yn ei eiriau ei hun:

“[Roeddwn i’n] mynd o’r naill soffa i’r llall. Yn is-osod fflat fy ffrind, £90 yr wythnos.

Dyna a ddechreuodd hyn i gyd. Doedd hi ddim yn braf peidio â chael fy lle fy hun a fy nho fy hun uwch fy mhen.

Dyna pam dw i’n hoffi fan `ma. Doeddwn i ddim yn dda ar adegau, i fyny ac i lawr.

Mae wedi bod yn iawn [yma] ydi. Cefais gymorth gyda fy apwyntiadau ysbyty. Dw i’n teimlo’n gyfforddus gyda’r staff yma.

Pan wnes i ddod yma gyntaf, roeddwn i’n cuddio ond ar ôl ychydig mi wnes i setlo.

Dw i wedi cael i Xbox i my hun, sy’n rhoi rhywbeth i mi ei wneud.

Yn y pen draw, pan fydda i’n symud i fy lle fy hun, mi fydd fy holl bethau gen i.

Yn hytrach na gwastraffu fy arian ar gyffuriau, mae gen i deledu, fy mar sain a fy Xbox.

(Pan y’i holwyd ynghylch adsefydlu)

[Does dim pwysau i mi adsefydlu, does neb yn rhoi pwysau arna i.

Pan fydda i’n barod. Mae’n braf gwybod bod fan `ma ar gael i ddod yn ôl yma.

Dw i wedi gwneud yn dda iawn, dw i wedi torri i lawr lot.

Dw i’n `smygu wîd bob hyn a hyn ond mae’n well na’r stwff arall.

Dyna pam y cefais i fy Xbox, mae’n fy nghadw i’n brysur.

Mae gêm gyfrifiadurol yn well na’r cyffuriau. Mae’n mynd â fy sylw. Dw i wastad yn gwylio ffilmiau.

Oce, dw i’n defnyddio cyffuriau, ond allwch chi ddim stopio dros nos. Alla i ddim cofio’r tro diwethaf i mi gael can o gwrw neu fodca.

Mae angen i mi fod yn rhywle lle mae pobl yn fy nghefnogi. Dw i’n poeni am fynd i rywle a neb yno, lle bydda i ar fy mhen fy hun.

Maen nhw’n edrych ar dŷ â chymorth i mi.

Dw i eisiau rhywle lle bydd rhywun yn cadw golwg arna i, yn gyffredinol, yn debyg i fan `ma. Dw i eisiau bod o gwmpas fan `ma, yn lleol. Mae’n well gen i siarad wyneb yn wyneb â phobl.

(Pan ofynnwyd iddo ble y byddai heb y gwasanaeth)

Mi fyddai pethau wedi gwaethygu. Mi fuaswn i wedi cael fy nghloi am fegera i gael cyffuriau.

Roeddwn i’n begera, yn ddigartref yn y bôn. Roedd pobl yn gwahaniaethu yn fy erbyn ac yn rhoi fideos ohonof ar Facebook.

Roeddwn i’n gwybod beth yr oeddwn yn ei wneud, begera am arian ar gyfer cyffuriau. Doeddwn i ddim eisiau bwyd. Roeddwn i eisiau arian. Mi fues i mewn helynt mawr oherwydd hynny i gyd.

[Dw i] eisiau rhoi trefn ar fy iechyd ac yna, ceisio cael lle i fyw gyda chefnogaeth.”

*Ffugenw yw Ryan i ddiogelu hunaniaeth y cleient

Dysgwch fwy am Ddarpariaeth Gwelâu Brys Glanrafon

Tudalennau cysylltiedig