Ar ôl cael gwaedlif ar ei ymennydd a wynebu cael ei droi allan heb fai, newidiodd bywyd a sefyllfa fyw Tom.
Mae wedi bod yn byw mewn llety dros dro ers dwy flynedd a hanner, ond mae wedi bod ar y rhestr dai ers bron i 13 mlynedd.
Mae wedi bod yn anodd dod o hyd i dŷ sy’n addas ar gyfer ei anabledd ond, gyda chymorth The Wallich a Chyngor Pen-y-bont, mae gan Tom o leiaf gartref addas, dros dro sy’n ei gadw’n ddiogel ac yn ei gysylltu â’i gymuned.
“Roedd fy Hysbysiad Adran 21[troi allan heb fai] yn waeth na’r gwaedlif ar fy ymennydd.
Roedd hi [perchennog yr eiddo] eisiau gwerthu, felly bu’n rhaid i fi adael.
Mae fy nheulu’n wych ac fe wnaethon nhw gymaint ag y gallen nhw i fi. Rydw i’n lwcus iawn.
Roedd angen cymorth arna i, ond pe byddwn yn mynd i gartref gofal, byddwn yn colli fy annibyniaeth. Felly mae’n wych fy mod i wedi symud i fyngalo Linc Cymru a’i fod yn addas i bobl anabl. Mae angen mwy o’r rhain arnom ni.
Mae’r byngalo yn wych, ond rydw i hefyd yn cael gweld Rachel a Joanne o The Wallich. Maen nhw’n galw heibio am baned, maen nhw’n cadw golwg arna i ac yn fy helpu pan fydd angen.
Ond mewn llety dros dro, mae’n anodd gosod gwreiddiau. Mewn 6 wythnos neu 6 mis, efallai y bydd yn rhaid i fi baratoi i symud.
Gyda’r holl broblemau yn y system, rydyn ni’n llawer gwell na llawer o wledydd eraill. Dydy fy nghriw i ddim yn ddrwg.
Mae yna wastad pobl sy’n waeth eu byd na fi. Gobeithio nad ydw i’n swnio fel fy mod i’n cwyno. Hoffwn i gael cartref parhaol.
Ar ôl 13 mlynedd o fod ar y rhestr dai, byddai cael cartref parhaol fel ennill y loteri.”
“Roedd y polisïau Hawl i Brynu yn y 80au yn golygu bod llawer o dai yn anweithredol. Ond 40 mlynedd yn ddiweddarach, dylen nhw fod yn adeiladu cartrefi i bob math o bobl, pobl ddigartref, teuluoedd, pobl anabl.
Dylai’r caniatâd cynllunio ddibynnu ar hynny. Mae pob llywodraeth wedi addo adeiladu tai a heb gyrraedd eu targedau.
Mae’r cyngor a The Wallich wedi bod yn wych, ond mae prinder difrifol o dai cymdeithasol i bawb.
Mae angen newid y gyfraith sy’n golygu mwy o dai i bobl abl a defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Gyda fy nghadair olwyn drydan, mae yna dai sy’n dweud eu bod nhw ar gyfer pobl anabl. Ond pan rydw i wedi edrych arnyn nhw, alla i ddim troi i mewn i’r gegin neu’r ystafell ymolchi. Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n addas i gadeiriau olwyn, ond dydyn nhw ddim.
Er hynny, mae’r cyngor wedi cynnig Therapydd Galwedigaethol i fi erbyn hyn sy’n mynd i weld tai ar fy nghyfer gyda The Wallich, i weld os ydyn nhw’n addas.
Ar ôl bod ar y rhestr mor hir, gall fod yn rhwystredig. Nid eu bai nhw yw hynny, ond weithiau mae Swyddogion Tai yn newid ac mae’n rhaid i chi ddechrau o’r dechrau. Ac mae hynny’n anodd pan fyddwch chi’n anabl gydag anghenion.
Felly dechreuais feddwl mai’r Swyddogion Tai oedd y gelyn. Dydyn nhw ddim. Ond heb ddigon o dai, bydd yn gwneud i chi deimlo’n rhwystredig.
Llywodraethau, plis siaradwch ag elusennau fel The Wallich i helpu gyda’r digartrefedd. Maen nhw’n gweithio ar lawr gwlad, maen nhw’n gwybod beth sy’n digwydd.”
“Mae fy nghymdogion i gyd yn gofalu am ei gilydd. Rydw i’n hoffi byw yma.
Mae’n ddigon tawel yma. Roeddwn i’n byw yn y fyddin am flynyddoedd. Ces i fy anfon i Ogledd Iwerddon cwpwl o weithiau. Rydw i wedi gorfod rhannu ystafell gyda 12 o ddynion eraill unwaith – felly dydw i ddim yn poeni!
Mae’r byngalo yn gweithio’n dda i fi. Rydw i’n gallu mynd o gwmpas ac mae popeth wedi’i drefnu’n dda iawn.
Mae gen i ddigon o le i symud o gwmpas ac i gadw fy holl bethau – gan gynnwys fy mhoteli wisgi (rydw i’n casglu poteli Johnny Walker prin).
Rydw i wedi paratoi basged grog ar gyfer pen blaen y tŷ ac ambell botyn. Mae’r cymdogion yn dweud ei bod hi’n braf ychwanegu rhywfaint o liw.”
Dywedodd Joanne, Gweithiwr Cymorth Tom:
“Mae Rachel a finnau yn edrych ymlaen yn fawr at gefnogi Tom.
Yn ein sesiynau cymorth wythnosol, mae ganddo wastad ambell stori i’w hadrodd o’i ddyddiau yn y fyddin neu o’i swyddi niferus dros y blynyddoedd.
Hyd yn oed pan nad yw’n cael wythnos dda neu ddiwrnod da, mae Tom wastad yn ein croesawu ni gyda gwên a jôc.
Mae wastad yn agored iawn i’n hawgrymiadau ar gyfer strategaethau ymdopi ac yn gwneud paned dda o de.
Her fawr i unrhyw un mewn llety dros dro yw cysylltiad a chymuned. Mae’n hyfryd gweld Tom a’i gymdogion presennol yn cyd-dynnu’n dda ac yn gofalu am ei gilydd.
Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i’w gefnogi wrth iddo aros yn hir ar y rhestr dai.
Rydyn ni’n gwybod y daw’r cartref iawn ac y byddwn ni yno pa mor hir bynnag y bydd hynny’n ei gymryd.”