Tîm Mentora Cyfoedion Cysgu Allan

29 Sep 2019

Pwy well i helpu pobl sy’n cael profiad o ddigartrefedd na’r rhai sydd wedi byw drwy’r profiad eu hunain.

Mae Tîm Mentora Cyfoedion Cysgu Allan Caerdydd yn brosiect ar y cyd rhwng The Wallich a Chyngor Caerdydd.

Mae’r tîm yn gwneud gwaith allgymorth pendant gyda gweithwyr proffesiynol yng Nghaerdydd er mwyn helpu pobl ar y strydoedd i fanteisio ar y gwasanaethau sydd ar gael iddynt.

Cawsom gyfle i ofyn i’r Tîm Mentora Cyfoedion ym mha ffordd mae eu profiadau unigryw eu hunain o ddigartrefedd yn gymorth i eraill a’u holi ynglŷn â’u hoff ran o’r gwaith allgymorth. Dewch i gwrdd â’r tîm…

Leanne

“Rydw i wedi dioddef am flynyddoedd gydag iechyd meddwl a bod dibyniaeth ar gyffuriau.

Wrth feddwl amdana i fy hun nawr a meddwl am fy llwybr, rwy’n meddwl am y gair ‘gwydnwch’ – rwy’n hoffi’r gair yna.

Roeddwn i’n meddwl yn fwy negyddol amdana i fy hun ond nawr rwy’n gwybod na fydda i’n rhoi’r ffidil yn y to am fod fy mhlant – fy ngenethod – yn meddwl yn fawr ohono i.

Mae gen i lawer iawn i’w roi i’r swydd hon ac i helpu pobl eraill. Oherwydd fy mhrofiad fe alla i helpu’r bobl sydd ar y stryd mewn ffordd wahanol, ffordd newydd. Dw i wrth fy modd”

Jim

Tîm Mentora Cyfoedion

“Mae gen i brofiad o fyw allan ar y stryd am bum mlynedd ym Mryste a dibyniaeth ar gyffuriau. Mae hyn yn golygu y galla i deimlo empathi tuag at eraill.

Ers i mi fod yn fentor cyfoed, mae’r bobl ar y stryd wedi gofyn i mi, ‘Beth wyt ti’n ei wybod am y peth?’ ac rydw i’n falch o gael dweud wrthyn nhw.

Dydw i ddim yn dangos fy hun wrth ddweud wrth bobl am fy nghyfnod yn ddigartref – dydw i ddim yn falch o’r peth. Ond rydw i’n falch o’r lle’r ydw i nawr ac rydw i mewn sefyllfa dda.

Fy hoff ran o’r gwaith yw gallu ymgysylltu â phobl a dangos, gyda fy stori fy hun, y gall eraill ddod allan o’r sefyllfa hefyd.

Mae’n deimlad da ofnadwy gweld pobl yn cyrraedd i lety neu waith ar ôl iti eu helpu.”

Minky

Tîm Mentora Cyfoedion

“Fe es i drwy brofiadau drwg iawn ac roeddwn i’n chwalfa.

Fe roddodd The Wallich y dewrder i mi ddal ati ond nawr, fi yw’r un sy’n gwneud yn siŵr bod gan eraill y dewrder i symud ymlaen.

Oherwydd fy mhrofiad, rwy’n gwybod sut i gyfeirio pobl at y cymorth iawn; rwy’n gwybod sut i roi’r sgiliau iddyn nhw oresgyn unrhyw rwystrau mewn bywyd.

Yr wythnos diwethaf fe roesom ni ddwy o fenywod mewn cartrefi newydd. Rwy’n gweithio gyda nhw ar y ffordd i wella fel y gwnes i, gan helpu i roi fy mywyd i a’u bywydau hwythau yn ôl at ei gilydd er mwyn i’n plant fod yn falch ohonom ni.”

AJ

Tîm Mentora Cyfoedion

“Rydw i wedi brwydro gyda dibyniaeth ar gyffuriau, digartrefedd a throseddu fy hun dros y blynyddoedd.

Mae fy mhrofiad yn fy ngwneud yn berffaith ar gyfer y swydd hon oherwydd fe alla i ddangos empathi tuag at y bobl ac rwy’n deall beth sydd ei angen arnyn nhw am fy mod i wedi bod yn y sefyllfa honno fy hun. Rwy’n deall meddylfryd ein cleientiaid ac rwy’n dda am dawelu unrhyw sefyllfaoedd am fy mod i’n deall eu profiad ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gwybod hynny amdana i.

Mae gen i ddull eithaf di-gynnwrf a dwi’n meddwl bod hynny’n bwysig yn y swydd.

Rydw i wrth fy modd yn helpu pobl, nid cael fy nhalu i wneud hyn sy’n bwysig, ond y canlyniadau.”

Tudalennau cysylltiedig