Stori Wythnos y Gwirfoddolwyr

05 Sep 2019

Mae Y Wallich yn dathlu Wythnos y Gwirfoddolwyr rhwng 3 – 10 Mehefin 2019.

Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ddathliad blynyddol o’r cyfraniad gwych y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud ar hyd a lled y DU.

Dyma gyfle i gwrdd â rhai o’n gwirfoddolwyr anhygoel o bob cwr o Gymru sy’n gwneud eu rhan i roi diwedd ar ddigartrefedd.

Dyma Oli

Fy enw i ydi Oli ac rwy’n gwirfoddoli â phrosiect Traethlin Caerdydd.

Pam wnes di ddewis gwirfoddoli gydag Y Wallich?

Dwi wedi bod yn gweithio mewn gwasanaethau bancio ac ariannol ers 20 mlynedd ac roeddwn i eisiau newid gyrfa yn gyfan gwbl.

Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth yn ymwneud â digartrefedd a rhywbeth rydw i wedi bod yn teimlo ers tro ei fod yn werth chweil.

Y Wallich yw’r elusen ddigartrefedd fwyaf blaenllaw yng Nghymru, felly roeddwn i’n tybio mai fanno oedd y lle gorau i ddechrau.

Beth yw dy hoff brofiadau?

Y pethau syml i ddweud y gwir. Y preswylwyr yn gofyn a gymerwn i baned, neu’n gofyn a hoffwn i ginio roedden nhw’n bwriadu’i goginio i mi.

Cael diolch gan breswylwyr am gael sgwrs gyda nhw ac am gymryd diddordeb yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

Gweld cynnydd preswylwyr wrth iddyn nhw wneud newidiadau cadarnhaol yn eu ffordd o fyw.

Fyddet ti’n argymell gwirfoddoli yn Y Wallich?

Byddwn.

Dyma Dilys

Dilys ydy fy enw i, ac rydw i’n gwirfoddoli ar draws Cymru.

Pam wnes di ddewis gwirfoddoli gydag Y Wallich?

Mae’n fater mor bwysig ac annheg bod pobl ag anghenion cymhleth yn mynd yn ddigartref neu’n byw mewn tai annigonol ac yn cael gofal annigonol.

Rwy’n cyfrannu gymaint o arian ag y galla i, ond dydi o ddim llawer. Felly, fe wnes i ddarganfod ffordd arall y galla i helpu.

Rydw i’n edmygu unigolion blaengar sy’n gwneud rhywbeth i newid y sefyllfa ofnadwy hon.

Beth yw dy hoff brofiadau?

Roeddwn i’n mwynhau darparu brecwast am 7am. Rydw i’n 86 oed ac yn ddeiliaid bathodyn glas gyda phroblemau iechyd sy’n fy nal i’n ôl. Ond roeddwn i’n gweithio ochr yn ochr â’r staff a’r gwirfoddolwyr, sydd wastad yn dangos synnwyr digrifwch da, tosturi, a gwytnwch – gan gynnwys tuag ata i.

Rydw i wedi cael cyfle i gwrdd â phobl ddigartref hyfryd, sydd wedi cael eu llethu gan amgylchiadau o ryw fath neu’i gilydd, ac mae wedi fy helpu i gamu i fyd anghyfarwydd.

Fyddet ti’n argymell gwirfoddoli yn Y Wallich?

Byddwn.

Dyma Roger

Fy enw i ydi Roger, ac rwy’n gwirfoddoli fel Hyfforddwr Busnes yn y prosiect Meithrin Cyfleoedd, Sgiliau a Llwyddiant (BOSS).

Pam wnes di ddewis gwirfoddoli gydag Y Wallich?

Roeddwn i wedi ymddeol o fusnes ac am wneud rhywbeth i helpu rhoi pobl ar ben ffordd i ddechrau eu busnesau eu hunain.

Beth yw dy hoff brofiadau?

Pan fydda i’n dod ar draws rhywun â syniad busnes clir ynghyd â’r agwedd benderfynol i’w gyflawni, mae’n rhoi boddhad mawr i mi.

Os galla i wneud gwahaniaeth i hyd yn oed un bywyd, yna mae wedi bod yn werth chweil.

Fyddet ti’n argymell gwirfoddoli yn Y Wallich?

Byddwn

Ymunwch â thîm o arwyr Y Wallich a gwneud rhywbeth am ddigartrefedd yng Nghymru. I gael gwybod mwy ewch i’n tudalen Gwirfoddoli neu anfonwch neges e-bost at: volunteers@thewallich.net

Tudalennau cysylltiedig