Myfyrio ar Amgylchedd sy’n Seiliedig ar Anghenion Seicolegol yn The Wallich

11 Jan 2019

Post gan Alex Osmond, Cydlynydd Ymchwil

Mae ‘PIE’ yn cyfeirio at ‘Amgylchedd sy’n Seiliedig ar Anghenion Seicolegol, syniad yr wyf eisoes wedi’I grybwyll. Mae PIE yn cyfeirio at weithio mewn ffordd sy’n therapiwtig, gan ystyried cyd-destun seicolegol y bobl (yn yr achos hwn, cleientiaid The Wallich). Rhoddir elfennau o ddewis i gleientiaid wrth gynnig cymorth (nid trwy gyd-ddigwyddiad, mae hwn yn ffactor hanfodol y tu ôl i Tai yn Gyntaf.) Dylai PIE hefyd fod o fudd i’r staff sy’n ei ddarparu.

Dyma brif elfennau Amgylchedd sy’n Seiliedig ar Anghenion Seicolegol:

  1. Adeiladu perthynas: ffocws ar berthnasoedd (rhwng staff a chleientiaid, cleientiaid a chyfoedion, a thu hwnt) fel dull ar gyfer newid
  2. Cymorth staff: cefnogir staff i fod yn fwy hyderus a chadarn
  3. Ni ddylai amgylcheddau ffisegol deimlo’n glinigol neu’n sefydliadol, ond yn ddiogel a chroesawgar
  4. Fframwaith seicolegol: y cysylltiadau rhwng teimladau, meddyliau ac ymddygiad
  5. Arfer sy’n cynhyrchu tystiolaeth: ffocws ar ddatblygiad parhaus a gwella’r cymorth

Mae rhai pobl yn ystyried ‘myfyrio’, fel rhan o’r uchod, yn chweched elfen.

Pam nawr?

Gan ei fod yn ofynnol i holl staff The Wallich, yn ddiweddar bûm mewn cwrs hyfforddi PIE am ddeuddydd. Er nad oedd PIE yn gwbl newydd i mi, doeddwn i ddim wedi meddwl amdano go iawn tan yr hyfforddiant.

Nid yw PIE yn gwbl newydd i The Wallich chwaith. Mae un o’n prosiectau preswyl aml-eiddo yng Nghaerdydd, y Tîm Tai Cymunedol, yn gweithredu’n unol â PIE. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r cynllun treialu wedi bod yn brofiad dysgu gwerthfawr i’r sefydliad, ond bydd y cymorth yn cael ei werthuso’n barhaus a’i addasu i’r gwaith.

Mae’r Tîm Tai Cymunedol wedi dangos nifer o’r llwyddiannau y mae PIE yn eu haddo. Mae cleientiaid yn cymryd mwy o ddiddordeb yn y cynlluniau sydd ar gael ac maent wedi chwarae rhan fwy o lawer yn eu cymorth eu hunain. Mae llai o salwch yn ymwneud â straen ymysg staff y prosiect, ac mae trosiant staff yn is.

Mae nifer o’n cleientiaid yn cydnabod manteision i PIE. Meddai un:

“Mae PIE wedi gwneud i mi deimlo bod pobl yn fy neall yn well a chefais i erioed fy marnu yn yr awyrgylch hwnnw… gallwn fod yn fi fy hun. Dal ati, dysgu a gwybod fod cymorth ar gael ar hyd y siwrnai honno.”

Nid yw hyn yn golygu bod y Tîm Tai Cymunedol wedi datrys holl anghenion cymhleth cleientiaid, na bod pob cleient yn cael ei drawsnewid ar ôl symud i mewn. Yn eithaf aml, mae’r cynnydd a wneir gyda chleientiaid cymhleth yn digwydd fesul cam bach. Os yw cyflwyno PIE yn gwneud y camau hynny hyd yn oed ychydig yn gadarnach, yna mae’n werthfawr.

Nid yw’n syndod deall bod angen arian i weithredu PIE. Fodd bynnag, yn nes ymlaen bydd manteision ymarferol ac ariannol: mae’r manteision i gymdeithas wrth i bobl sy’n ddigartref ers tro allu gweithio a chynnal eu tenantiaethau eu hunain yn ddi-rif.

Mae nifer o agweddau ymarferol PIE yn bethau mae ein gweithwyr cymorth rhagorol eisoes yn eu gwneud: er enghraifft, rydym wastad wedi bod yn gyndyn i droi pobl ymaith, ac mae’n well gennym ddatrys y sefyllfa drwy ffordd arall os yw’n bosibl. Fodd bynnag, mae gweithredu PIE yn sicrhau cysondeb polisi yn y meysydd hyn.

Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod

Er mwyn deall PIE mae angen deall Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod (ACEs): digwyddiadau negyddol ym mywyd rhywun cyn ei fod ef neu hi’n 18 oed – camdriniaeth eiriol, corfforol neu gam-drin rhywiol; rhieni’n gwahanu; salwch meddwl; trais yn y cartref; camddefnyddio sylweddau; mynd i garchar; neu esgeulustod emosiynol a chorfforol.

Wyddwn i erioed mor bellgyrhaeddol a niweidiol y gallai’r effeithiau hyn fod. Mewn astudiaeth yn 1997  o 17,000 o gyfranogion yng Nghaliffornia canfuwyd bod cysylltiadau rhwng caethiwed a phrofiadau trawmatig. Nid yw pob unigolyn sydd wedi cael profiad o broblemau iechyd meddwl wedi cael magwraeth drawmatig, ond mae pobl sydd wedi cael profiad o’r trawma hwn yn fwy tebygol o ddatblygu caethiwed.

Nid yw PIE yn dadlau y dylid lapio plant mewn gwlân cotwm a’u cadw’n ddiogel rhag unrhyw beth negyddol – fyddai hyn ddim yn bosibl nac yn ddymunol. Trwy ddeall ACEs, fodd bynnag, mae cleientiaid ‘anodd’ yn fwy tebygol o geisio ymdopi â lefel uchel o drawma a gellir darparu gwell cymorth iddynt.

Pryderon posibl

Os caiff ACEs eu hystyried yn y ffordd anghywir, ofnaf y gellid eu defnyddio fel ‘esgus’; gallai pobl wrthod cymryd cyfrifoldeb am weithredoedd presennol trwy ‘feio’ digwyddiadau yn ystod plentyndod. Fel y rhan fwyaf o bobl, rwyf wedi gwneud dewisiadau gwirion, cas a hyd yn oed creulon, ond rwy’n credu mewn cyfrifoldeb personol, ac nid wyf eisiau gweld ACEs yn cael eu camddefnyddio fel hyn.

Yn rhyfedd ddigon, rwyf eisoes wedi clywed stori sy’n gwrthddweud y pryder hwn.

Mae ein ‘Bwrdd Cysgodol’ – sy’n cynnwys cleientiaid sy’n trafod materion pwysig sy’n effeithio ar The Wallich – wedi cael hyfforddiant PIE. Cydnabu aelodau’r bwrdd eu profiadau trawmatig eu hunain, a sylweddoli y gallent atal ACEs trwy ystyried ymddygiad gyda’u plant eu hunain. Dyma enghraifft berffaith o dderbyn y gallwn gael ein heffeithio gan brofiadau a gawsom flynyddoedd yn ôl, heb esgeuluso ein cyfrifoldebau.

Yn yr un modd, mae dull PIE yn fodd i ni ddeall yn well ymddygiad cleientiaid ag anghenion cymhleth, a darparu cymorth effeithiol, gan sicrhau diogelwch pawb dan sylw.

Beth nesaf?

O ystyried nifer y prosiectau gan The Wallich, bydd yn cymryd amser cyflwyno PIE ar draws y sefydliad. Hefyd bydd PIE yn berthnasol i’n cynlluniau eraill. Rydym wedi penodi rheolwr Rhwydwaith Myfyrio – gan adeiladu rhwydwaith o therapyddion drwy Gymru i gynnig gwasanaeth cwnsela i’n cleientiaid. Mae gweithio mewn modd therapiwtig yn rhan hollbwysig o PIE. Wrth i ni barhau i gyflwyno’r cynllun, byddaf yn ymweld â phrosiectau er mwyn gweld PIE ar waith.

Meddai Dr Jennifer Hartley,  unigolyn allweddol sy’n helpu i gyflwyno PIE The Wallich, ac un o’r therapyddion y soniwyd eisoes amdanynt sy’n ymgynghori ar y cynllun:

“Nid rhywbeth newydd yw PIE, mae’n gyfuniad o arfer da a gwelliant parhaus; mae pobl wrth graidd popeth a wneir – yn hytrach na pholisi, gweithdrefn ac ystadegau. Mae nifer o staff yn The Wallich eisoes yn gweithio mewn dull PIE, sy’n galonogol.”

Mae’n hawdd llithro i’r fagl o weld PIE fel peintio waliau mewn lliwiau llachar, a chleientiaid yn mynd i ddosbarthiadau coginio i gael bwyd am ddim. Efallai bod hynny’n wir, ond mae llawer mwy iddo. Dyma’r man cychwyn a’r man gorffen, tra mai’r broses yn y canol y bydda i’n rhoi sylw iddi wrth i ni ddatblygu fel sefydliad.

Cliciwch yma i ddarllen mwy o flogiau am faterion llosg y dydd gan dîm Materion Cyhoeddus a Pholisi The Wallich.