Yn ddiweddar, bu cynnydd yn yr adroddiadau cynyddol ar y defnydd o Sylweddau Seicoactif Newydd (y cyfeirir atynt hefyd fel ‘Sbeis’). Dangosir lluniau o ‘sombïaid’ ar eu hyd yng nghanol trefi dro ar ôl tro.
Yn ystod wythnosau olaf haf 2018, mae’r cyffur MDPV – y cyfeirir ato fel ‘halwynau ymolchi’ yn yr UD a ‘llwch mwnci’ yn y DU – wedi achosi nifer o erthyglau apocalyptaidd tebyg.
Does dim byd newydd yn hyn – mae’r cyfryngau wastad wedi rhoi sylw i ymddygiad anarferol, ac mae adroddiadau sy’n gorliwio’r defnydd o gyffuriau’n dyddio’n ôl i o leiaf 1936 gyda’r ffilm Reefer Madness, ac yn fwy na thebyg, hyd yn oed yn gynharach na hynny.
Yn sicr, gall defnyddio cyffuriau gael effaith bryderus a phellgyrhaeddol ar unigolion, cymunedau a chymdeithas; fodd bynnag, nid ‘adroddiadau llawn hysteria’ (fel y byddaf yn cyfeirio atynt o hyn ymlaen) yw’r ffordd orau i roi gwybodaeth i ni am hyn.
Weithiau, mae’n creu hysteria pan nad yw hynny’n briodol, neu mae’r ’ffeithiau’n mynd yn ddryslyd
Mae canolbwyntio ar effeithiau annymunol, mwyaf gweledol cyffur (fel defnyddwyr yn mynd yn anymwybodol) yn gorliwio effeithiau’r sylwedd i ddarllenwyr. Mae mynd yn anymwybodol o ganlyniad i gymryd cyffur yn ddigwyddiad prin, ac fel arfer effeithiau llai difrifol a welir. Yn aml rwyf wedi gweld adroddiadau’n cyfeirio at Sbeis fel cyffur ‘sy’n waeth na heroin’, sy’n swnio’n chwithig, oherwydd nid oes graddfa oddrychol ar gael sy’n cymharu pa mor ‘ddrwg’ yw cyffuriau. Yn ogystal â hyn, nid yw’r cyffuriau sy’n cael eu hystyried fel y rhai ‘gwaethaf’ o reidrwydd yn haeddu bod ar waelod y rhestr. Mae alcohol yn fwy niweidiol i’r corff a’r meddwl na heroin ac mae’n achosi caethiwed corfforol yn wahanol i gocên crac.
Mae’n bosibl hefyd bod manylion pwysig yn cael eu diystyru. Drwy’r DU, er enghraifft, bu cynnydd sy’n achosi pryder yn nifer y firysau sy’n cael eu cludo yn y gwaed ac achosion o dwbercwlosis, rhai sy’n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau.
Ond nid wyf wedi dod o hyd i unrhyw adroddiadau yn y newyddion am hyn.
Mae cysgu allan ar gynnydd yng Nghymru ac eleni cafwyd eira trwm a chyfnodau o wres llethol, a effeithiodd ar y rhai sy’n byw ar y strydoedd, ac a allai fod yn effeithio arnynt o hyd. Ar adegau fel hyn, dylem ystyried sefyllfaoedd yn bwyllog, adrodd yn ofalus yn hytrach na cheisio perswadio darllenwyr ein bod yn byw drwy ffilm sombi ôl-apocalyptaidd.
Nid yw adroddiadau llawn hysteria’n cyfleu beth yw caethiwed: i’r rhan fwyaf o bobl, mae caethiwed yn brofiad diflas a beunyddiol. Mae cael gafael ar arian, prynu cyffuriau a defnyddio cyffuriau’n rhywbeth a wneir bob dydd. Mae’r cylch yn dod yn batrwm. Un o’r rhesymau pam fod caethiwed yn anodd ei dorri yw’r ffaith bod angen perswadio’r unigolion i roi’r gorau i’r hyn sy’n rhoi ystyr i’w bywyd, yn gyfnewid am ansicrwydd na allai, ar yr olwg gyntaf, apelio atynt.
Hefyd, trwy ganolbwyntio ar agweddau allanol defnyddio cyffuriau (defnyddwyr yn edrych fel sombïaid, er enghraifft), rydym yn methu pwynt hollbwysig ynglŷn â phethau y gellid dadlau sy’n bwysicach: mae effeithiau’r cyffuriau hyn, o leiaf ar y dechrau, yn ddigon cryf i ‘dynnu sylw’ defnyddwyr oddi wrth broblemau iechyd meddwl difrifol. Nid ydym yn awgrymu bod pob defnyddiwr cyffuriau’n ceisio dianc rhag problemau o’r fath, ond yn achos digartrefedd, mae hyn yn aml yn wir. Rydym eisoes wedi cyfeirio at y ffaith bod defnyddio cyffuriau’n aml yn deillio o fod yn ddigartref, yn hytrach na bod yn achos.
Mae gwrthrycholi pobl fel hyn yn creu pellter rhyngom ‘ni’ a ‘nhw’; mae hyn yn rhyfedd, o ystyried bod adroddiadau fel hyn yn ymddangos ochr yn ochr â straeon sy’n cydymdeimlo’n gynyddol â digartrefedd yng Nghymru. Os yw unigolyn digartref yn haeddu cydymdeimlad, yna mae unigolyn digartref sy’n defnyddio cyffuriau yn ei haeddu hefyd.
Hefyd, nid yw pobl yn ymddwyn mewn ffyrdd annymunol ac o bosibl yn tarfu ar y cyhoedd yn ffenomenon newydd sydd wedi ymddangos yn sgil Sbeis; roedd y cyfryngau’n arfer barnu yfed gwyllt yng nghanol dinasoedd yn yr un modd.
Pan gaiff cyffuriau eu cyflwyno fel rhai sy’n arbennig o beryglus, llethol neu rad, gallai pobl fregus gael eu denu atynt. Mae hwn yn faes anodd – mae cyfrifoldeb ar y wasg i adrodd stori, nid i reoleiddio arferion pobl o gymryd cyffuriau; fodd bynnag, mae gorliwio effeithiau grymus y cyffur o bosibl yn beryglus yn achos pobl a allai fod yn chwilio am y ffyrdd mwyaf effeithiol posibl o ddianc rhag realiti.
Nid wyf yn awgrymu ein bod yn gwahaniaethu na hyd yn oed yn cyfreithloni’r sylweddau y maent yn eu cymryd. Yn bersonol, rwy’n cael anhawster gyda’r ddadl ynglŷn â datgriminaleiddio; rwy’n deall honiadau nad yw’r ‘Rhyfel yn Erbyn Cyffuriau’ yn gweithio, ond mae gen i brofiadau anghyfforddus o agos at y niwed y gall cyffuriau ei wneud. Mae angen ystyried yr holl fater yn ddifrifol iawn, a llunio adroddiadau cytbwys ar y pwnc.
Mae nifer o bobl yn cymryd cyffuriau heb wneud niwed iddynt eu hunain, a heb dynnu unrhyw sylw atynt eu hunain: yn 2016/17, roedd un o bob deuddeg o bobl rhwng 16 a 59 wedi cymryd cyffur anghyfreithlon yn ystod y flwyddyn flaenorol. Yn 2016, dywedodd bron i chwarter disgyblion ysgol eu bod wedi cymryd sylwedd anghyfreithlon, er bod y nifer hwn wedi gostwng yn ddiweddar. Mae ystadegau fel hyn yn profi nad yw defnyddio cyffuriau’n ymddygiad anghyffredin sydd wedi’i gyfyngu i bobl ar gyrion cymdeithas.
Dyma fwy o sylwadau cytbwys gan ein staff a’n cleientiaid:
Dyma’r ffeithiau y dylem fod yn canolbwyntio arnynt. Mae hysteria, ar y gorau, yn tynnu sylw oddi wrth y broblem, ac ar ei waethaf, gall ein camarwain.